Colled pob blodeuyn hyfryd Ei holl degwch is y rhod; Doed salwineb ar wynebau Pob creadur sydd yn bod; Tegwch byd fydd ynghyd Oll yn wyneb Prynwr drud. Pe diffoddai’r heulwen ddisglair Yn yr awyr denau las, A phe treuliai’r sêr y fflamau Ynddynt sydd o dân i maes, Mi gaf fyw gyda’m Duw Mewn […]
Corona’n hoedfa ar hyn o bryd â’th hyfryd bresenoldeb; rho brofi grym dy air a’th hedd a hyfryd wedd dy ŵyneb. Llefara wrthym air mewn pryd, dod ysbryd in i’th garu; datguddia inni’r oedfa hon ogoniant person Iesu. 1 DAFYDD WILLIAM, 1721?-94, 2 SIȎN SINGER, c. 1750-1807 (Caneuon Ffydd 11; Llawlyfr Moliant Newydd 139)
Craig yr oesoedd, cuddia fi, er fy mwyn yr holltwyd di; boed i rin y dŵr a’r gwaed gynt o’th ystlys friw a gaed fy nglanhau o farwol rym ac euogrwydd pechod llym. Ni all gwaith fy nwylo I lenwi hawl dy gyfraith di; pe bai im sêl yn dân di-lyth a phe llifai ‘nagrau […]
Crist sydd yn Frenin, llawenhawn; gyfeillion, dewch â moliant llawn, mynegwch ei anhraethol ddawn. O glychau, cenwch iddo ef soniarus ganiad hyd y nef, cydunwn yn yr anthem gref. Mawrhewch yr Arglwydd, eiliwch gân, cenwch yr anthem loyw, lân i seintiau Crist a aeth o’n blaen; canlyn y Brenin wnaent yn rhydd ac ennill miloedd […]
Cristion bychan ydwy’n dilyn lesu Grist, Cristion bychan ydwy’n dilyn lesu Grist, O Dduw, rho nerth i geisio rhodio’r llwybyr cul a dilyn lesu Grist. Dilyn lesu, dilyn lesu Grist, dilyn lesu, dilyn lesu Grist, O Dduw, rho nerth i geisio rhodio’r llwybyr cul a dilyn lesu Grist. Pererin bychan ydwy’n dilyn lesu Grist, pererin […]
Cudd fy meiau rhag y werin, cudd hwy rhag cyfiawnder ne’; cofia’r gwaed un waith a gollwyd ar y croesbren yn fy lle; yn y dyfnder bodda’r cyfan sy yno’ i’n fai. Rho gydwybod wedi ei channu’n beraidd yn y dwyfol waed, cnawd a natur wedi darfod, clwyfau wedi cael iachâd; minnau’n aros yn fy […]
Cul yw’r llwybyr imi gerdded, is fy llaw mae dyfnder mawr, ofn sydd arnaf yn fy nghalon rhag i’m troed fyth lithro i lawr: yn dy law y gallaf sefyll, yn dy law y dof i’r lan, yn dy law byth ni ddiffygiaf er nad ydwyf fi ond gwan. Dysg im gerdded drwy’r afonydd, Na’m […]
Cyd-ddiolchwn, Arglwydd tirion, am yr ysguboriau llawn: ti sy’n nerthu dwylo dynion a rhoi grym i gasglu’r grawn; am i ti ein cofio beunydd a chyflawni eto’r wyrth, yma canwn am y cynnydd a rhown ddiolch yn y pyrth. Byth ni phaid dy drugareddau, a’th ddaioni sydd yr un; pwy all gofio dy holl ddoniau […]
Tôn: Lyons (677 Caneuon Ffydd) Moliannu Duw Cyd-foliannwn Di, O Arglwydd, am bob cennad fu’n ein gwlad yn lledaenu dy efengyl ac ehangu dy fawrhad; trwy eu cariad a’u hymroddiad clywodd Cymry am dy ras, ac am Iesu’r un ddaeth atom i’n gwas’naethu ni fel Gwas. Cyd-weddïwn arnat, Arglwydd heddiw, pan ddirmygir Crist, a phan ddengys […]
Cydganwn foliant rhwydd i’n Harglwydd, gweddus yw; a nerth ein hiechyd llawenhawn, mawr ydyw dawn ein Duw. O deuwn oll ynghyd yn unfryd ger ei fron, offrymwn iddo ddiolch clau mewn salmau llafar, llon. Cyduned tonnau’r môr eu mawl i’n Iôr o hyd, rhoed y ddaear fawr a’i phlant ogoniant iddo i gyd. O plygwn […]