Cydlawenhawn, cyfododd Crist o’i fedd, ac ar ein daear torrodd gwawr o hedd; i’r lan y daeth, ac ni all farw mwy, mae heddiw’n harddach am ei farwol glwy’: mae anfarwoldeb yn ei ŵyneb ef, ac yn ei law awdurdod ucha’r nef. Cydlawenhawn, fe ddaeth angylaidd lu i’w hebrwng adref i’w orseddfainc fry: mewn cwmwl […]
Cyduned nef a llawr i foli’n Harglwydd mawr mewn hyfryd hoen; clodforwn, tra bo chwyth, ei ras a’i hedd di-lyth, ac uchel ganwn byth: “Teilwng yw’r Oen.” Tra dyrchaif saint eu cân o gylch yr orsedd lân, uwch braw a phoen, O boed i ninnau nawr, drigolion daear lawr, ddyrchafu’r enw mawr: “Teilwng yw’r Oen.” […]
Cyduned Seion lân mewn cân bereiddia’i blas o fawl am drugareddau’r Iôn, ei roddion ef a’i ras. Ble gwelir cariad fel ei ryfedd gariad ef? Ble bu cyffelyb iddo erioed? Rhyfeddod nef y nef! Fe’n carodd cyn ein bod, a’i briod Fab a roes, yn ôl amodau hen y llw, i farw ar y groes. […]
Cyduned trigolion y ddaear i gyd mewn sain o glodforedd i Brynwr y byd; mor dirion ei gariad at holl ddynol-ryw: troseddwyr a eilw i ddychwelyd a byw. I gadw’r colledig, o’r nefoedd y daeth rhoi bywyd i’r marw a rhyddid i’r caeth; am hyn gorfoleddwn, mae inni iachâd a bywyd tragwyddol drwy haeddiant ei […]
Cyduned y nefolaidd gôr a llwythau dynol-ryw i ganu’n llon â llafar lef mai cariad ydyw Duw. Eglura gwirioneddau’i air, a’i drugareddau gwiw, ac angau Crist dros euog ddyn mai cariad ydyw Duw. Dwyn rhyfedd waith ei ras ymlaen mewn calon ddrwg ei lliw a ddengys drwy’r eglwysi oll mai cariad ydyw Duw. Derbyniad euog […]
Cydunwn oll i ganu’n awr, ‘Cariad yw Duw!’ Daw sŵn y mawl o nef a llawr – ‘Cariad yw Duw!’ O purer ninnau fel trwy dân, A seinied pawb y felys gân, Yn bêr er mwyn yr Iesu glân, ‘Cariad yw Duw!’ O aed y geiriau led y byd, ‘Cariad yw Duw!’ Yng Nghrist fe […]
Cydunwn oll o galon rwydd i foli’r Arglwydd tirion am drugareddau’r flwyddyn hon a’i ryfedd, gyson roddion. Boed ein heneidiau oll ar dân i seinio cân soniarus o fawl i enw’r sanctaidd Iôr am ddoniau mor haelionus. O Arglwydd, dyro inni ras i’th ffyddlon wasanaethu, a thrwy dy roddion hael o hyd i’th hyfryd ogoneddu. […]
Cyfamod hedd, cyfamod cadarn Duw, ni syfl o’i le, nid ie a nage yw; cyfamod gwir, ni chyfnewidir chwaith; er maint eu pla, daw tyrfa i ben eu taith. Cyfamod rhad, o drefniad Un yn Dri, hen air y llw a droes yn elw i ni; mae’n ddigon cry’ i’n codi i fyny’n fyw, ei […]
Cyfarwydda f’enaid, Arglwydd, pan wy’n teithio ‘mlaen ar hyd llwybrau culion, dyrys, anodd sydd i’w cerdded yn y byd: cnawd ac ysbryd yn rhyfela, weithiau cariad, weithiau cas, ton ar don sydd yn gorchuddio egwyddorion nefol ras. Weithiau torf yr ochor aswy, weithiau torf yr ochor dde; ffaelu deall p’un sy’n canlyn hyfryd lwybrau Brenin […]
Cyffelyb un i’m Duw Ni welodd daer na nef; ‘D oes un creadur byw Gymherir iddo Ef; Cyflawnder mawr o râs di-drai Sydd ynddo fythol yn parhau. Yn nyfnder twllwch nôs Mi bwysaf ar ei râs; O’r twllwch tewa’ ’rioed Fe ddŵg oleuni i maes: Os gŵg, os llîd, mi af i’w gôl, Mae’r wawr […]