Hwn yw y sanctaidd ddydd, gorffwysodd Duw o’i waith; a ninnau nawr, dan wenau Duw, gorffwyswn ar ein taith. Hwn yw’r moliannus ddydd, cydganodd sêr y wawr; mae heddiw lawnach testun cân, molianned pawb yn awr. Hwn yw y dedwydd ddydd, daeth Crist o’i fedd yn fyw; O codwn oll i fywyd gwell, i ryddid […]
Hwn, hwn ydyw’r Duw folwn ni, ein Ffrind digyfnewid, di-lyth; ei gariad, lawn cymaint â’i nerth, heb fesur, heb ddiwedd ŷnt byth. Yr Alffa a’r Omega yw Crist, ei Ysbryd a’n dwg draw i dre’; rhown glod am ei ras hyd yn hyn, a’n ffydd am a ddaw ynddo fe. JOSEPH HART, 1712-68 cyf. E. […]
Hyfryd eiriau’r Iesu, bywyd ynddynt sydd, digon byth i’n harwain i dragwyddol ddydd: maent o hyd yn newydd, maent yn llawn o’r nef; sicrach na’r mynyddoedd yw ei eiriau ef. Newid mae gwybodaeth a dysgeidiaeth dyn; aros mae Efengyl Iesu byth yr un; Athro ac Arweinydd yw efe ‘mhob oes; a thra pery’r ddaear pery […]
Hyfryd lais Efengyl hedd sydd yn galw pawb i’r wledd; mae gwahoddiad llawn at Grist, oes, i’r tlawd newynog, trist; pob cyflawnder ynddo cewch; dewch â chroeso, dlodion, dewch. Cyfod, Haul Cyfiawnder llon, cyfod dros y ddaear hon; aed dy lewyrch i bob gwlad, yn dy esgyll dwg iachâd; dos ar gynnydd, nefol ddydd, doed […]
Hyn yw ‘mhleser, hyn yw f’ymffrost, Hyn yw ‘nghysur yn y byd – ‘Mod i’n caru’r addfwyn Iesu; Dyna ‘meddiant oll i gyd: Mwy yw nhrysor Nag a fedd y byd o’r bron. Ac ni allaf fyth fynegi Ped anturiwn, tra fawn byw, Pa mor hyfryd, pa mor felys, Pa mor gryf, ei gariad yw: […]
Hywel Meredydd: Cyfres o gyflwyniadau byr am fywyd a gwaith William Williams, Pantycelyn (1717-1791) 1. Cyflwyniad i fywyd William Williams, Pantycelyn. (Hyd: 4m 14 eiliad) 2. Emynau Pantycelyn yn tanio eraill: gwaith yr Ysbryd Glân (4:27) 3. Thomas Charles a’r WAW ffactor! (2:23) 4. Deall y profiad ysbrydol: Drws y Society Profiad (4:48) 5. Mwy […]
I blith y ddau neu dri yr awron tyred di, ein gwendid gwêl, rho inni sêl, O Dad, ymwêl â ni: cryfha ein ffydd yn ôl y dydd, Breswylydd mawr y berth, ein llef erglyw, O Iôr, ein llyw, yr esgyrn gwyw gwna eto’n fyw, O Dduw, bydd inni’n nerth. Ein cri, ein Tad, a’n […]
I Dad y trugareddau i gyd rhown foliant, holl drigolion byd; llu’r nef moliennwch, bawb ar gân, y Tad a’r Mab a’r Ysbryd Glân. THOMAS KEN, 1637-1711 cyf. HOWEL HARRIS, 1714-73 (Caneuon Ffydd 15)
I dawel lwybrau gweddi, O Arglwydd, arwain fi, rhag imi gael nhwyllo gan ddim daearol fri: mae munud yn dy gwmni yn newid gwerth y byd yn agos iawn i’th feddwl O cadw fi o hyd. Pan weli fy amynedd, O Arglwydd, yn byrhau; pan weli fod fy mhryder dros ddynion yn lleihau; rhag im, […]
I Dduw y dechreuadau rhown fawl am ddalen lân, am hyder yn y galon ac ar y wefus, gân: awn rhagom i’r anwybod a’n pwys ar ddwyfol fraich; rho nerth am flwyddyn arall i bobun ddwyn ei faich. Ar sail ein doe a’n hechdoe y codwn deml ffydd, yn nosau ein gorffennol ni fethodd toriad […]