O Iesu croeshoeliedig, Gwaredwr dynol-ryw, ti yw ein hunig obaith tra bôm ar dir y byw; dan feichiau o ofalon sy’n gwneud ein bron yn brudd mae d’enw, llawn diddanwch, yn troi ein nos yn ddydd. O Iesu croeshoeliedig, boed mawl i’th enw byth, doed dynion i’th foliannu rifedi’r bore wlith; aed sôn ymhell ac […]
O Iesu mawr, pwy ond tydi allasai farw drosom ni a’n dwyn o warth i fythol fri? Pwy all anghofio hyn? Doed myrdd ar fyrdd o bob rhyw ddawn i gydfawrhau d’anfeidrol Iawn, y gwaith gyflawnaist un prynhawn ar fythgofiadwy fryn. Nid yw y greadigaeth faith na’th holl arwyddion gwyrthiol chwaith yn gytbwys â’th achubol […]
O Iesu mawr, rho d’anian bur i eiddil gwan mewn anial dir, i’w nerthu drwy’r holl rwystrau sy ar ddyrys daith i’r Ganaan fry. Pob gras sydd yn yr Eglwys fawr, fry yn y nef neu ar y llawr, caf feddu’r oll, eu meddu’n un, wrth feddu d’anian di dy hun. Mi lyna’n dawel wrth […]
O Iesu mawr, y Meddyg gwell gobaith yr holl ynysoedd pell, dysg imi seinio i maes dy glod mai digyfnewid wyt erioed. O hoelia ‘meddwl, ddydd a nos, crwydredig, wrth dy nefol groes, a phlanna f’ysbryd yn y tir sy’n llifo o lawenydd pur: fel bo fy nwydau drwg yn lân yn cael eu difa […]
O Iesu, Haul Cyfiawnder glân, llanw mron â’th nefol dân; disgleiria ar fy enaid gwan nes dod o’r anial fyd i’r lan. Enynna ‘nghalon, Iesu cu, yn dân o gariad atat ti, a gwna fi’n wresog yn dy waith tra byddaf yma ar fy nhaith. A gwna fy nghalon dywyll i yn olau drwy d’oleuni […]
O Iesu, maddau fod y drws ynghau a thithau’n curo, curo dan dristáu: fy nghalon ddrwg a roddodd iti glwyf, gan g’wilydd ŵyneb methu agor ‘rwyf. Ti biau’r tŷ; dy eiddo yw, mi wn; ond calon falch sydd am feddiannu hwn: mae’n cadw’i Harglwydd o dan oerni’r ne’, gelynion i ti sy’n y tŷ’n cael […]
O Iesu, mi addewais dy ddilyn drwy fy oes; bydd di yn fythol-agos, Waredwr mawr y groes: nid ofnaf sŵn y frwydyr os byddi di gerllaw; os byddi di’n arweinydd ni chrwydraf yma a thraw. Rho brofi dy gymdeithas; mor agos ydyw’r byd a’i demtasiynau cyfrwys yn ceisio denu ‘mryd; gelynion sydd yn agos o’m […]
O Iesu, y ffordd ddigyfnewid a gobaith pererin di-hedd, O tyn ni yn gadarn hyd atat i ymyl diogelwch dy wedd; dilea ein serch at y llwybrau a’n gwnaeth yn siomedig a blin, ac arwain ein henaid i’th geisio, y ffordd anghymharol ei rhin. O lesu’r gwirionedd anfeidrol, tydi sydd yn haeddu mawrhad, O gwared […]
O lesu’r Meddyg da, Ffisigwr mawr y byd, O cofia deulu’r poen a’r pla, a’r cleifion oll i gyd. Tydi yn unig ŵyr holl gystudd plant y llawr, y rhai sy’n crefu am yr hwyr, yn griddfan am y wawr. O boed dy lygaid di ar bawb sy’n wael eu gwedd, a chofia’r rhai sy’n […]
O llanwa hwyliau d’Eglwys yn gadarn yn y gwynt sydd heddiw o Galfaria yn chwythu’n gynt a chynt: mae’r morwyr yma’n barod a’r Capten wrth y llyw, a’r llong ar fyr i hwylio ar lanw Ysbryd Duw. O cadw’r criw yn ffyddlon a’r cwrs yn union syth ar gerrynt gair y bywyd na wna ddiffygio […]