Teg wawriodd boreddydd na welwyd ei ail Er cread y byd na thywyniad yr haul: Bore gwaith a gofir yn gynnes ar gân, Pan fo haul yn duo a daear ar dân. Y testun llawenaf i’n moliant y sydd, Fe aned in Geidwad, do, gwawriodd y dydd, Yn Geidwad i deimlo dros frodyr dan faich, […]
Yr adar bach sy’n canu Yn swynol ar y coed, Canmolant gariad Iesu, Y gorau fu erioed, Telynau bychain ydynt I lonni’r galon drist, ‘D oes allu i ddistewi Eu cân o fawl i Grist. Cytgan: Telynau bychain Iesu, a’u sain yn cyrraedd nef, I uno yn yr anthem. O foliant iddo Ef. Y blodau […]
Ti Arglwydd nef a daear, bywha’n calonnau gwyw, dysg in gyfrinach marw, dysg in gyfrinach byw. Rho glust i glywed neges dy fywyd di dy hun; rho lygad wêl ei gyfle i wasanaethu dyn. Gogoniant gwaith a dioddef, a hunanaberth drud, lewyrcho ar ein llwybrau tra byddom yn y byd. Boed hunan balch ein calon […]
Ti Arglwydd yw fy rhan, A’m trysor mawr di-drai; A Noddfa gadarn f’enaid gwan, Ym mhob rhyw wae: Ac atat ‘rwyf yn ffoi, Dy fynwes yw fy nyth, Pan fo gelynion yn crynhoi Rifedi’r gwlith. Tydi, fy Nuw, ei hun, Anfeidrol berffaith Fod, Sy’n trefnu daear, da, a dyn, I’th ddwyfol glod; Tywysa f’enaid gwan, […]
Ti Deyrn y bydysawd, arlunydd y wawr, rheolwr pelydrau, amserwr pob awr, ffynhonnell pob ynni, a bwyd ei barhad: tydi, er rhyfeddod, a’n ceraist fel Tad. Diolchwn am fywyd, a’r gallu bob pryd i wir werthfawrogi amrywiaeth dy fyd; er lles ein cyd-ddynion cysegrwn bob dawn, at wir adnabyddiaeth o’th natur nesawn. Egina’n talentau dan […]
Ti fu gynt yn gwella’r cleifion, Feddyg da, dan eu pla trugarha wrth ddynion. Cofia deulu poen, O Iesu: ymhob loes golau’r groes arnynt fo’n tywynnu. Llaw a deall dyn perffeithia, er iachâd a rhyddhad, Nefol Dad, i dyrfa. Rho dy nodded, rho dy gwmni nos a dydd i’r rhai sydd ar y gwan yn […]
Ti Greawdwr mawr y nefoedd, mor ardderchog dy weithredoedd; ti yw Brenin creadigaeth, ti yw awdur iachawdwriaeth. Ti, O Dduw, sydd yn teyrnasu pan fo seiliau’r byd yn crynu; ti fu farw dan yr hoelion er mwyn achub dy elynion. Ti, O Dduw, sy’n pwyso’r bryniau a’r mynyddoedd mewn cloriannau; ti sy’n pwyso’r wan ochenaid […]
Ti yr hwn sy’n fôr o gariad ac yn galon fwy na’r byd, ar y ddau a blethodd gwlwm boed dy fendith di o hyd: bydd yn gwmni yn eu hymyl, bydd yn gysgod drwy eu hoes, ac ar lwybrau dyrys bywyd nertha’r ddau i barchu’r groes. Yn yr haul ac yn yr awel pan […]
Ti yr hwn sy’n gwrando gweddi, atat ti y daw pob cnawd; llef yr isel ni ddirmygi, clywi ocheneidiau’r tlawd: dy drugaredd sy’n cofleidio’r ddaear faith. Minnau blygaf yn grynedig wrth dy orsedd rasol di, gyda hyder gostyngedig yn haeddiannau Calfarî: dyma sylfaen holl obeithion euog fyd. Hysbys wyt o’m holl anghenion cyn eu traethu […]
Ti yw’r Un sy’n adnewyddu, ti yw’r Un sy’n bywiocáu; ti yw’r Un sy’n tangnefeddu wedi’r cilio a’r pellhau: bywiol rym roddaist im, bellach ni ddiffygiaf ddim. Ti rydd foliant yn y fynwes, rhoddi’r trydan yn y traed; ti rydd dân yn y dystiolaeth i achubol werth dy waed: cawsom rodd wrth ein bodd, ofn […]