Tra bo adduned dau heb golli lliwiau’r wawr a’n cymod yn parhau o hyd yn drysor mawr, O Dduw ein Iôr, rho inni ffydd i gadw’r naws o ddydd i ddydd. Tra bo anturiaeth serch yn llawn o’r gobaith glân, a delfryd mab a merch yn troi yn felys gân, rho help i ni, O […]
Tôn: Elliot (Caneuon Ffydd 219) Yn wylaidd trown atat, ein Harglwydd, i ddiolch am allwedd i’th wledd, y wledd a bar’towyd i ddeiliaid sy’n chwennych dy gariad a’th hedd; pan lethwn dan bwysau gofalon, fe ddeui i’w cario o’th fodd; yn nyddiau o golled a hiraeth estynni dy gysur yn rhodd. Yn eiddgar trown atat, […]
Trwy d’Ysbryd heddiw awn i’th dŷ â moliant llawn, O Dad pob dawn, clodforwn di: daioni fel y môr sy’n llifo at bob dôr, o ras ein Iôr, i’n heisiau ni. Dy holl weithredoedd rydd eu cân i Dduw bob dydd a moliant sydd ym mhyrth dy saint; trugaredd yn dy dŷ yn well na’r […]
Trwy ddirgel ffyrdd mae’r uchel Iôr yn dwyn ei waith i ben; ei lwybrau ef sydd yn y môr, marchoga wynt y nen. Ynghudd yn nwfn fwyngloddiau pur doethineb wir, ddi-wall, trysori mae fwriadau clir: cyflawnir hwy’n ddi-ball. Y saint un niwed byth ni chânt; cymylau dua’r nen sy’n llawn trugaredd, glawio wnânt fendithion ar […]
Trwy nos galar ac amheuon Teithia pererinion lu, Ânt dan ganu cerddi Seion Tua gwlad addewid fry. Un yw amcan taith yr anial, Bywiol ffydd, un hefyd yw; Un y taer ddisgwyliad dyfal, Un y gobaith ddyry Duw. Un yw’r gân a seinia’r miloedd O un galon ac un llef; Un yw’r ymdrech a’r peryglon, […]
(Pantyfedwen) Tydi a wnaeth y wyrth, O Grist, Fab Duw, tydi a roddaist imi flas ar fyw: fe gydiaist ynof drwy dy Ysbryd Glân, ni allaf tra bwyf byw ond canu’r gân; ‘rwyf heddiw’n gweld yr harddwch sy’n parhau, ‘rwy’n teimlo’r ddwyfol ias sy’n bywiocáu; mae’r Haleliwia yn fy enaid i, a rhoddaf, Iesu, fy […]
Tydi a wyddost, Iesu mawr, am nos ein dyddiau ni; hiraethwn am yr hyfryd wawr a dardd o’th gariad di. Er disgwyl am dangnefedd gwir i lywodraethu’r byd, dan arswyd rhyfel mae ein tir a ninnau’n gaeth o hyd. Ein pechod, megis dirgel bla, sy’n difa’n dawn i fyw; ond gelli di, y Meddyg da, […]
Tydi, fy Arglwydd, yw fy rhan, A doed y drygau ddêl; Ac er bygythion uffern fawr, Dy gariad sy dan sêl. Oddi wrthyt rhed, fel afon faith, Fy nghysur yn ddi-drai; O hwyr i fore, fyth yn gylch, Dy gariad sy’n parhau. Uwch pob rhyw gariad is y nef Yw cariad pur fy Nuw; Anfeidrol […]
Tydi sy deilwng oll o’m cân, fy Nghrëwr mawr a’m Duw; dy ddoniau di o’m hamgylch maent bob awr yr wyf yn byw. Mi glywa’r haul a’r lloer a’r sêr yn datgan dwyfol glod; tywynnu’n ddisglair yr wyt ti drwy bopeth sydd yn bod. O na foed tafod dan y rhod yn ddistaw am dy […]
Tydi, a ddaethost gynt o’r nef i ennyn fflam angerddol gref, O cynnau dân dy gariad di ar allor wael fy nghalon i. Boed yno er gogoniant Duw, yn fflam anniffoddadwy, fyw, yn dychwel i’w ffynhonnell fyth mewn cariad pur a mawl di-lyth O Iesu cadarnha fy nod i hir lafurio er dy glod, i […]