Ef yw yr Iôr, teyrnasa’n y nef; Ef yw yr Iôr. Fe greodd mewn t’wyllwch oleuni â’i lef; Ef yw yr Iôr. Pwy sy’n debyg i hwn – r’Hen Ddihenydd yw Ef; Ef yw yr Iôr. Daw atom, ei bobl, yn nerthol o’r nef; Ef yw yr Iôr. Anfon d’allu, O Dduw ein Iôr; Anfon […]
Byddwch yn awyddus i gael eich lenwi â’r Ysbryd. Canwch salmau, emynau a chaneuon ysbrydol i’ch gilydd, a chreu cerddoriaeth i’r Arglwydd yn eich calonnau wrth wneud hynny. Rowch ddiolch bob amser am bopeth yn enw ein Harglwydd Iesu Grist a Duw ein Tad. (Grym Mawl 2: 18b) Effesiaid 5: 18b-20
Eistedd wyt ar ddeheulaw’r Tad, Cans ti yw yr Archoffeiriad. Eistedd wyt yn y nefoedd fry; Wrth dy draed yn awr Fe ddown i’th foli di. Ramon Pink: We will place you on the highest place, cyfieithiad awdurdodedig: Arfon Jones Hawlfraint © 1982 Sovereign Music UK P O Box 356, Leighton Buzzard LU7 3WP UK […]
Er dy fod yn uchder nefoedd, Uwch cyrhaeddiad meddwl dyn, Eto dy greaduriaid lleiaf Yn dy olwg bob yr un; Nid oes meddwl Ond sy’n olau oll o’th flaen. Ti yw ‘Nhad, a thi yw ‘Mhriod, Ti yw f’Arglwydd, Ti yw ’Nuw, F’unig Dŵr, a’m hunig Noddfa, Wyt i farw neu i fyw: Cymmer f’enaid, […]
Esgyn gyda’r lluoedd fry i fynydd Duw, tynnu tua’r nefoedd, bywyd f’enaid yw. Yfwn o ffynhonnau gloywon ddyfroedd byw wrth fynd dros y bryniau tua mynydd Duw. Dringwn fel ein tadau dros y creigiau serth; canwn megis hwythau, “Awn o nerth i nerth.” Pan wyf ar ddiffygio, gweld y ffordd yn faith, Duw sydd wedi […]
Ewch allan mewn llawenydd ac mewn heddwch gwir, bloeddia’r bryniau a’r mynyddoedd foliant o’ch blaen chwi, a holl goed y maes gurant ddwylo ynghyd wrth foli’r Arglwydd Dduw: curo dwylo a wnânt i’r Arglwydd Dduw, curo dwylo a wnânt i’r Arglwydd Dduw, curo dwylo a wnânt i’r Arglwydd Dduw, yn llawen molant ef. STUART DAUERMANN […]
F’enaid mola Dduw! Dyrchafa’i enw Ef. F’enaid mola Dduw! Rhydd fywyd it o’r nef. (Grym Mawl 2: 11) Hawlfraint © Ateliers et Presses de Taize
F’enaid, cod, bendithia dy Greawdwr, Ef yw d’Arglwydd, Ef dy gyfaill triw; Araf i ddig, cyfoethog mewn trugaredd Mola dy Geidwad, Iesu. Brenin gras, a’i gariad anorchfygol Bara Byw, caf bopeth ynddo Fe; Cans ei waed a’m prynodd i’n dragywydd, Prynodd ar groes fy Iesu. A chanaf i tra byddaf byw Am ddyfod cariad nef […]
F’enaid, mola Dduw’r gogoniant, dwg dy drysor at ei draed; ti a brofodd ei faddeuant, ti a olchwyd yn y gwaed, moliant, moliant dyro mwy i’r gorau gaed. Mola ef, a’i rad drugaredd lifodd at ein tadau’n lli; mola ef, ei faith amynedd a’i dosturi atat ti; moliant, moliant, am ei ddoniau rhad, di-ri’. A […]
Fe atseinia’r dyffrynoedd a chân o fawl, Bydd y llew yn cydorwedd â’r oen. I’w lywodraeth ni bydd dim diwedd mwy, A’i ogoniant a leinw’r byd. Dy ewyllys wneir, A gwrandewir dy Air, Boed i’th Deyrnas di ddod yn ein plith. Mae ’na floedd drwy y tir wrth in ateb y gri, Clod i’r Brenin! […]