Iesu cymer fi fel ’rwyf, Fyth ni allaf ddod yn well. Tyn fi’n ddyfnach ’mewn i ti, Pethau’r cnawd gyrr di ymhell. Gwna fi megis gwerthfawr em, Clir fel grisial, hardd ei threm. lesu’n t’wynnu ynof fi Rydd ogoniant ’nôl i ti. Cyfieithiad Awdurdodedig : Catrin Alun, (Jesus take me as I am): Dave Bryant […]
Iesu ei hun yw ngobaith i Ei Waed sydd yn fy angori Does dim i’w roi gan ddynolryw Yn enw Iesu nawr rwy’n byw. Iesu Grist, Ein hangor ni Y meirw caiff fyw, Trwy gariad Crist, Trwy y Storm Ef yw’r Iôr, Iôr dros oll. Pan rwyf yn baglu yn y ras Mi godaf eto […]
Iesu Grist sydd yn ben, Holl gyflawnder ein Duw ynddo mae; Ac fe’n geilw ni i’w ddilyn ef, Trwy ei atgyfodiad mawr Fe’n hachub yn awr. Gwir ddelw’r Duw anweledig yw Ef, Y cyntafanedig ydyw. Gwir Fab y Tad Nefol a greodd bob peth; Gorsedd a grym a’r holl awdurdodau cryf. Iesu sy’n ben ac […]
Iesu yw’r Iôr! – y gri sy’n atsain drwy y cread, Disglair Ei rym, tragwyddol Air, ein Craig. Gwir Fab ein Duw, sy’n llenwi’r nefoedd â’i ogoniant, Sy’n ein gwahodd i brofi’r Bara byw. Iesu yw’r Iôr – a’i lais sy’n cynnal y planedau, Ond rhoes o’r neilltu goron nef o’i ras. Iesu y dyn, […]
Iesu, ’r enw anrhydeddwn, Iesu, ’r enw folwn ni. Mae’n enw sydd goruwch pob enw arall; Datgan nef a daear oll Fod Iesu’n wir Fab Duw. Fe addolwn ni a’i ddyrchafu fry, Canwn foliant iddo ynghyd. Fe addolwn ni, a’i ddyrchafu fry, Canwn foliant iddo drwy’r byd. Iesu, ’r enw a addolwn, Ynddo ymddiriedwn ni. […]
Pwy sydd yn codi’r meirw’n fyw? a’n rhyddhau o’n cyflwr briw? Ein gobaith yw, unig Fab Duw. Iesu, dim ond Iesu. Pwy all agor llygaid dall? Pwy all ryddhau o law y fall? Talodd y pris, ein heddwch yw. Iesu, dim ond Iesu. Sanctaidd Frenin Nefoedd wyt, Plyga’r holl angylion i ti, Syrthiaf finnau nawr […]
Iesu, dy harddwch sy’n llenwi dy deml, Iesu, dy bersawr sy’n denu dy bobl. Ac wrth glosio atat ti ‘Rwy’n profi cyffro a heddwch gwir, Teimlo cariad a hedd O weled dy wedd, Meseia. A neidio wnaf i mewn i’r dyfroedd bywiol; Rhoi fy hun yn llaw’r Achubwr dwyfol. Neidio wnaf i mewn i’r dyfroedd […]
Iesu, fe ddathlwn ni dy goncwest di; Iesu, ymgollwn yn dy ras. Iesu, gorfoleddwn ynot ti; Iesu, fe’n prynaist drwy dy waed. I brofi rhyddid cael bod yn blant i Dduw, O fod yn gaeth i bechod, trwyddo ef y cawn ni fyw. Dewch, gorfoleddwn yn ei goncwest ef, A’i gariad yn ein c’lonnau ni. […]
Iesu, fe’th addolaf, Arglwydd, clyw fy nghân, ‘Fe’th garaf.’ Ti yw ystyr byw i mi A moli wnaf dy enw sanctaidd di. lesu, fe’th addolaf, Arglwydd, clyw fy nghân, ‘Fe’th garaf.’ Ti yw ystyr byw i mi A moli wnaf dy enw sanctaidd, Moli wnaf dy enw sanctaidd, Moli wnaf dy enw sanctaidd di. Cyfieithiad […]
Iesu, fe’th orseddwn, Fe’th gyhoeddwn yn ben Yn ein plith, yma’n sefyll nawr; Clodforwn di gyda’n mawl. Wrth i’n d’addoli cyffeswn ni, Wrth i’n d’addoli plygwn ni, Wrth i’n d’addoli dyrchafwn di, Tyred Iesu i’n c’lonnau yn awr. Cyfieithiad Awdurdodedig: Gwilym Ceiriog Evans, Jesus, we enthrone You, Paul Kyle © 1980 ac yn y cyfieithiad […]