O Dad nefol, y tragwyddol, Brenin nef a daear lawr, Fe addolwn, fe ddyrchafwn Enw ein Duw, Oen eto’n fyw, Down ger dy fron, ein gweddi clyw. Cyfieithiad Awdurdodedig: Arfon Jones,. Lord and Father, King forever, Noel Richards © 1982 ac yn y cyfieithiad hwn Thankyou Music/ Gwein. Gan worshiptogether.com songs ac eithrio DU ac Ewrop, gwein. […]
O Dad, dy dynerwch di Sydd yn toddi’m chwerwder i, O Dad, diolch am dy ras. O Dad, dy harddwch di Sy’n dileu fy hagrwch i, O Dad, diolch am dy ras. O Dad, diolch am dy ras. O Dad, diolch am dy ras. Cyfieithiad Awdurdodedig: Arfon Jones, O Lord, your tenderness: Graham Kendrick © […]
O Dad, trugaredd rho im, iacha fi; O Dad, trugaredd rho im, rhyddha fi. Rho fy nhraed ar graig y gwir, Rho dy gân yn f’enaid i, f’enaid i. O Dad, trugaredd rho im. O Dad, boed i’th ras a’th gariad f’amddiffyn; O Dad, boed i’r gwir a’r unig ffordd fy arwain. Rho fy nhraed […]
O dawel ddinas Bethlehem, o dan dy sêr di-ri’, ac awel fwyn Jwdea’n dwyn ei miwsig atat ti: daw heno seren newydd, dlos i wenu uwch dy ben, a chlywir cân angylion glân yn llifo drwy y nen. O dawel ddinas Bethlehem, bugeiliaid heno ddaw dros bant a bryn at breseb syn oddi ar y […]
O ddedwydd awr tragwyddol orffwys oddi wrth fy llafur yn fy rhan yng nghanol môr o ryfeddodau heb weld terfyn byth na glan; mynediad helaeth byth i bara o fewn trigfannau Tri yn Un, dŵr i’w nofio heb fynd drwyddo, dyn yn Dduw, a Duw yn ddyn. Melys gofio y cyfamod draw a wnaed gan […]
O ddirgelwch mawr duwioldeb, Duw’n natur dyn; Tad a Brenin tragwyddoldeb yn natur dyn; o holl ryfeddodau’r nefoedd dyma’r mwyaf ei ddyfnderoedd, testun mawl diderfyn oesoedd, Duw’n natur dyn! Ar y ddaear bu’n ymdeithio ar agwedd gwas, heb un lle i orffwys ganddo, ar agwedd gwas: daeth, er mwyn ein cyfoethogi, o uchelder gwlad goleuni […]
O Dduw a Llywydd oesau’r llawr, Preswylydd tragwyddoldeb mawr, ein ffordd a dreiglwn arnat ti: y flwyddyn hon, O arwain ni. Mae yn dy fendith di bob pryd ddigon ar gyfer eisiau’r byd; drwy’r niwl a’r haul, drwy’r tân a’r don, bendithia ni y flwyddyn hon. Na ad, O Dduw, i droeon oes wneud inni […]
O Dduw ein Iôr, bendigedig ydwyt ti, Y ddae’r sy’n llawn o’th ogoniant. O Dduw ein Iôr, mor drugarog ydwyt ti; Mor hardd, mor wych, ac mor ddyrchafedig. Fe’th ddyrchafwn di, fe’th ddyrchafwn di Orseddog Iôr yn Seion. Fe’th ddyrchafwn di, fe’th ddyrchafwn di Orseddog Iôr yn Seion. O Dduw ein Tad, mor haelionus ydwyt […]
O Dduw, a roddaist gynt dy nod ar bant a bryn, a gosod craig ar graig dan glo’n y llethrau hyn, bendithia waith pob saer a fu yn dwyn ei faen i fur dy dŷ. Tydi sy’n galw’r pren o’r fesen yn ei bryd, a gwasgu haul a glaw canrifoedd ynddo ‘nghyd: O cofia waith […]
O Dduw, clyw fy nghri, O Dduw, clyw fy nghri, galw ‘rwyf, ateb fi: O Dduw, clyw fy nghri, O Dduw, clyw fy nghri, tyred, erglyw fy llef. CYMUNED TAIZÉ (O Lord hear my prayer), cyf. MAWL AC ADDOLIAD, 1996 (Caneuon Ffydd 799)