Deuwn i ganu am afon mor gref, – Cariad yw Duw – Lifodd o galon ein Tad yn y nef Atom i fyd dynolryw; Cariad mor rhad; Cariad â’i gartref ym mynwes y Tad. Er mwyn cyhoeddi’r Efengyl i’n byd Daeth Iesu pur, Gyda’r colledig i drigo cyhyd, Rhannodd eu gofid a’u cur; Ceisiodd hwy […]
Dewch i’w foli, chwi offeiriaid, Etholedig, molwch Iesu, Ef a’n prynodd a’n gwaredu, O dywyllwch i’w oleuni. Cyfieithiad Cymraeg Awdurdodedig: Arfon Jones (Come and praise Him, royal priesthood, Andy Carter) © 1977 ac yn y cyfieithiad hwn Thankyou Music/ gwein. gan worshiptogether.com songs ac eithrio DU ac Ewrop, gwein. gan Kingsway Music (tym@kingsway.co.uk). Defnyddir trwy […]
Dewch i’w weld, dewch i’w weld, Frenin cariad, dewch i’w weld; Gwelwch goron ddrain a gwisg o borffor drud. Creulon groes ar ei gefn, Gwawd y milwyr, gwaedd y llu, Unig ac heb gyfaill, dringa at y bryn. Addolwn wrth dy draed, Man cwrdd i lid a hedd, Ac fe olchir euog fyd gan gariad […]
Dewch, mae’n amser medi, Chwi sy’n ceisio’r Deyrnas, Rhowch eich bywyd iddo Ac fe’i cewch yn ôl. Dewch i rannu’r c’nhaeaf – Rhaid goleuo’r t’wyllwch. Galw y mae’r Arglwydd Ffyddlon wŷr. Twila Paris (Come and join the reapers), cyfieithiad awdurdodedig: Catrin Alun © Word Music (UK) Gwein. gan CopyCare (Grym Mawl 1: 21)
Daw ymchwydd mawr o bedwar ban, Pellafoedd byd, mewn llawer man; Lleisiau cytûn, calonnau’n un, Yn canu clod i Fab y Dyn. ‘Mae’r pethau cyntaf wedi bod’: Mae heddiw’n ddydd i ganu clod, Rhyw newydd gân am nefol ras Sy’n cyffwrdd pobl o bob tras. Gadewch i holl genhedloedd byd Ateb y gri a chanu […]
Dawnsio’n wyllt! Canu cân! Bod yn hurt! neidio lan! Arglwydd, fe’th addolaf Mae fy enaid i ar dân! Gwnaf fy hun Yn ddirmygus ac yn ffôl i’r byd; Fe addolaf fi fy Nuw, A gwnaf fy hun Yn ddirmygus ac yn ffôl i’r byd. Na, na, na, na, na – hei! (x7) Ffwrdd a, ffwrdd […]
Dwi eisiau ymgolli yn llwyr yn dy serch, Teimlo dy freichiau’n gryf o’m cwmpas; ‘Nghynnal gan gariad fy Nhad, Saff yn dy fynwes di. Dysgu dy ddilyn Di, Ymddiried ynot Ti; C’nesa fy nghalon i, Tyrd, cofleidia fi. Cysur a geisiais i Wrth ddilyn pethau’r byd; Nertha f’ewyllys wan, Fe’i rhof hi i Ti. Cyfieithiad […]
Dyhewn am dafodau tân i’n cyffwrdd ninnau, I’n troi yn dystion tanbaid drosot ti. Sychedwn am adfywiad; gwyrthiau’r Ysbryd Sanctaidd, Hiraethwn weld ‘r afradlon yn dod nôl. Mae’n holl obeithion ni ynot ti, Pa bryd y daw ‘rhain yn wir? Deled dy Ysbryd mewn grymuster, Rho inni weledigaeth newydd, Deled dy Deyrnas yw ein gweddi, […]
Dragwyddol Dduw, addolwn di; Rhoist dy Fab i’n hachub ni. Gair ein Duw luniodd y byd, Rhoes ei waed yn aberth drud. Ddisglair Un, y Seren Fore, Fe’th addolwn, fe’th fawrygwn. Ynom ni fe wawriodd golau Iesu Grist, addolwn Di. Cyfieithiad Cymraeg Awdurdodedig : Arfon Jones (Almighty God, Austin Martin) Hawlfraint © 1983 ac yn y […]
Da yw bod wrth draed yr Iesu ym more oes; ni chawn neb fel ef i’n dysgu ym more oes; dan ei groes mae ennill brwydrau a gorchfygu temtasiynau; achos Crist yw’r achos gorau ar hyd ein hoes. Cawn ei air i buro’r galon ym more oes, a chysegru pob gobeithion ym more oes; wedi […]