Fe chwythodd yr awel ar Gymru drachefn, clodforwn di, Arglwydd, fod gwyrth yn dy drefn: dihunaist ni’r meirwon, a’n codi drwy ffydd, a throi ein hwynebau at degwch y dydd. Molwn di, molwn di’n un teulu ynghyd, molwn di, molwn di, a’n cân dros y byd; cydweithiwn, cydgerddwn, cydfolwn gan fyw i roi iti’r cyfan, […]
Fe’m derbyniwyd, maddeuwyd i mi, Fe’m cofleidiwyd gan y gwir a’r bywiol Dduw. Fe’m derbyniwyd, heb gondemniad, Do fe’m carwyd gan y gwir a’r bywiol Dduw. Nid oes ofn na braw wrth im nesáu At Iachawdwr a Chrëwr y byd; Gyda llawen hedd fe godaf lef I’th foli fy Arglwydd Dduw. Cyfieithiad Awdurdodedig: Meri Davies […]
Fe’th addolaf (Fe’th addolaf) Â’m calon ar dân. (â’m calon ar dân.) Gwnaf, fe’th folaf (Gwnaf, fe’th folaf) Â’m nerth i gyd. (nerth i gyd.) Ac fe’th geisiaf (Ac fe’th geisiaf) Bob cam o’r ffordd. (bob cam o’r ffordd.) Fe’th ddilynaf (Fe’th ddilynaf) Heb droi yn ôl (heb droi ‘nôl) Dof o’th flaen di i’th […]
Fe’th ddilynaf di at y groes A phlygu i lawr, plygu i lawr. Fe’th ddilynaf di at y groes, A phlygu i lawr, plygu i lawr. Gwisg fi â’th gyfiawnder di, Golch fi yn lân o’m haflendid. Rwy’n dewis dilyn ôl dy droed. O! pura fi’n llwyr, pura fi’n llwyr. Rho dy gusan i’m hiacháu, […]
Fy mwriad i yw dy ddilyn di Drwy gydol fy mywyd. Fy mwriad i yw dy ddilyn di Tra byddaf fi byw. Rhoddaf fy hun yn llwyr I bwrpas sydd o fudd tragwyddol. Dy ddilyn di yw fy oll, dy ddilyn di. Gweithiaf i ti ag arian ac aur Drwy gydol mywyd Gweithiaf i ti […]
Fe’th garaf Iôr, ac fe’th folaf di, A’m henaid gân gyda’r sanctaidd lu. O llawenha yn fy mawl fy Nuw, Boed y gân yn felys sain yn dy glyw. Fe’th garaf Iôr, ac fe’th folaf di, A’m henaid gân gyda’r sanctaidd lu. O llawenha yn fy mawl fy Nuw, Par im fod yn felys sain […]
Fe rof i chwi bopeth sydd Ei angen nawr i fynd ymlaen. Yr Ysbryd Glân o’ch mewn a fydd, A’m geiriau i, i orchfygu’r gelyn. Ewch, ewch drwy’r byd i gyd, D’wedwch mod i’n fyw, Ewch i bob un stryd, D’wedwch mod i’n byw, O, ynoch rwyf yn byw – Ewch, ewch drwy’r byd i […]
Fugail da, mae’r defaid eraill eto ‘mhell o’r gorlan glyd, crwydro’n glwyfus ar ddisberod maent yn nrysni’r tywyll fyd: danfon allan dy fugeiliaid, â’u calonnau yn y gwaith, er mwyn cyrchu’r rhai crwydredig o bellterau’r anial maith. Hiraeth cyrchu’r defaid eraill ynom ninnau elo’n fwy; dylanwadau d’Ysbryd gerddo ymhob eglwys drostynt hwy: yma, yn ein […]
Fe garodd Iesu’r eiddo hyd eitha’r olaf awr, rhoes fara’i fywyd erddo a gwin ei galon fawr; a minnau gofiaf heddiw yr ing a’r chwysu drud a’r cariad nad yw’n edliw ei fai i euog fyd. Fe welir dwyfol drallod uwch byd a’i gamwedd trist, a’r gras sy’n drech na phechod yn angau Iesu Grist; […]
Fy Nhad o’r nef, O gwrando ‘nghri: un o’th eiddilaf blant wyf fi; O clyw fy llef a thrugarha, a dod i mi dy bethau da. Nid ceisio ‘rwyf anrhydedd byd, nid gofyn wnaf am gyfoeth drud; O llwydda f’enaid trugarha, a dod i mi dy bethau da. Fe all mai’r storom fawr ei grym […]