Pennill 1 Edrychaf arno fe Fu farw yn fy lle, Cysgodir fi rhag gwarth Gan Iesu. Pennill 2 Trwy ddiodde a thrwy boen Ein gobaith yw yr Oen Trwy ffydd a gras fe drown At Iesu. Cytgan Sefyll nawr ar fannau agored hael dy ras Canwn glod i ti a bloeddiwn d’enw mas Fe agorwn […]
Pennill 1 Pan wela’i ddim ond y frwydr Ti’n gweld buddugoliaeth Pan wela’i ddim ond y mynydd Ti’n gweld e’n mynd o’th flaen Pan gerddaf i drwy’r cysgodion Mae’th gariad o ‘nghwmpas Does dim nawr i’w ofni Rwy’n ddiogel gyda Ti Corws Ac ar fy ngliniau y brwydraf o’th blaid Gyda’m dwylo tua’r nef O […]
Pennill 1 Mola Ef ar godiad haul ac ar eiliad gynta’r dydd Mola Ef â chor y bore bach Mola Ef wrth weld o bell ‘ddarpariaeth ddaw o’i law Mola â phob curiad dan dy fron Pennill 2 Mola Ef pan ar dy daith drwy’r ddaear wamal hon Mola Ef pan ddaw y ffrwyth neu […]
[Philipiaid 3:12-14, Alaw: Mae nghariad i’n fenws] Mae Iesu’n fy ngharu, mae’n dweud hynny’n glir; Nid wyf yn ei haeddu, ond dyna yw’r gwir. Pa ots am farn eraill? Pa ots beth yw’r si? Dim ond barn fy Iesu sy’n cyfrif i mi. Rwy’n werthfawr i Iesu; ei drysor wyf fi. Mi dalodd bris uchel […]
Ysbrydoliaeth Beiblaidd: Luc 15, Y mab wnaeth wrthryfela (Dameg y Mab Afradlon) Mynnais wlad yn bell o olwg Tiroedd ffrwythlon tŷ fy Nhad; Yno ‘roedd fy ffrindiau’n ffyddlon, nes i’m brofi’n llwyr eu brad. Pechod aflan, do fe’m gyrrodd ‘Nes a nes at gibau’r moch, Ond dy Ysbryd a’m gwaredodd O dynfa gref y byd a’i […]
Mae yna ddydd mae’r Cread cyfan am ei weld; y dydd o ryddid pan ddaw y ddaear oll yn rhydd. A dyna’r dydd y cwrdd yr Iôr â’i briod Ef; ac wrth ei weled, ar amrantiad fe’n newidir. Yr utgorn gân, a’r meirw ddaw yn ôl yn fyw – trwy ei allu, bellach byth i […]
Mae croeso i’w deyrnas i blant bach o hyd, Agorodd ei fynwes i’w derbyn i gyd : Gadewch i blant bychain Ddod ataf-medd ef; Cans eiddo y cyfryw Yw Teyrnas y Nef. Cytgan: Mae’r Iesu yn derbyn Plant bychain o hyd, Hosanna i Enw Gwaredwr y byd. Pan oedd yn mynd heibio i’r ddinas neu’r […]
Molwch yr Arglwydd o’r nefoedd. Bloeddiwch ei enw o’r mynyddoedd. Molwch e, ei holl fyddinoedd. Yr Arglwydd yw ein Duw Nawr ac am byth bythoedd. Fe greodd yr haul, y sêr, a’r lleuad, Bloeddiwch ei enw yr holl ddaear. Cytgan Dewch ynghyd, bob plentyn ac oedolyn, A phob anifail, o’r neidr i’r aderyn, Pawb ar […]
Mae fy meiau fel mynyddoedd Amlach hefyd yw eu rhi’ Nag yw gwlith y bore wawrddydd, Nag yw sêr y nefoedd fry: Gwaed fy Arglwydd Sydd yn abl i olchi ‘mai. Golchi’r ddu gydwybod aflan Lawer gwynnach eira mân; Gwneud y brwnt, gan’ waith ddifwynodd Yn y domen, fel y gwlân: Pwy all fesur Lled […]
Mae enw Calfari, Fu gynt yn wradwydd mawr, Yn ngolwg f’enaid i Yn fwy na’r nef yn awr: O! ddedwydd fryn, sancteiddiaf le, Dderbyniodd ddwyfol waed y ne’! ‘R wy’n caru’r hyfryd awr, Mi gara’r hyfryd le, Mi garaf bren y groes ’Fu ar ei ysgwydd E: Wel dyma ’Nuw a dyma ’Mhen, Ac oll […]