Wel, f’enaid dos ymlaen, Heb ofni dŵr na thân, Mae gennyt Dduw: ‘D yw’r gelyn mwya’i rym I’w nerth anfeidrol ddim; Fe goncra ‘mhechod llym- Ei elyn yw. Mae gwaed ei groes yn fwy Na’u natur danbaid hwy, Na’u nifer maith; Fe faddau fawr a mân, Fe’m gylch yn hyfryd lân, Fe’m dwg i yn […]
Wel, mae gen i neges i’r byd – Gwrandewch nawr ar eiriau ‘nghân. Dwi ddim yn bregethwr mawr, Ond mae nghalon i ar dân. Nid fi yw yr unig un, Mae’r fflam ar led drwy’r byd. Cenhedlaeth o bobl sy’n hiraethu Am gael gweld diwygiad mawr yn dod. Haleliwia, Pobl sy’n cael eu bendithio. Haleliwia, […]
Wrth gofio’i riddfannau’n yr ardd, a’i chwŷs fel defnynnau o waed, aredig ar gefn oedd mor hardd, a’i daro â chleddyf ei Dad, a’i arwain i Galfari fryn, a’i hoelio ar groesbren o’i fodd; pa dafod all dewi am hyn? Pa galon mor galed na thodd? THOMAS LEWIS, 1760-1842 (Caneuon Ffydd 519)
Wrth gofio d’air, fy Iesu glân, mawr hiraeth arnaf sy am ddod yn isel ger dy fron yn awr i’th gofio di. Dy gorff a hoeliwyd ar y pren yw bara’r nef i mi; dy waed sydd ddiod im yn wir, da yw dy gofio di. Wrth droi fy llygaid tua’r groes, wrth weled Calfarî, […]
“Wele fi yn dyfod,” llefai’r Meichiau gwiw; atsain creigiau Salem, “Dyfod y mae Duw.” Gedy anfeidrol fawredd nef y nef yn awr; ar awelon cariad brysia i barthau’r llawr. Pa ryw fwyn beroriaeth draidd yn awr drwy’r nen? Pa ryw waredigaeth heddiw ddaeth i ben? Miloedd o angylion yno’n seinio sydd, “Ganwyd y Meseia, heddiw […]
Wele’n gwawrio ddydd i’w gofio, geni Seilo, gorau swydd; wele ddynion mwyn a moddion ddônt â rhoddion iddo’n rhwydd: hen addewid Eden odiaeth heddiw’n berffaith ddaeth i ben; wele drefniad dwyfol gariad o flaen ein llygad heb un llen. Duw a’n cofiodd, Duw a’n carodd, Duw osododd Iesu’n Iawn; Duw er syndod ddarfu ganfod trefn […]
Wele, cawsom y Meseia, cyfaill gwerthfawroca’ ‘rioed; darfu i Moses a’r proffwydi ddweud amdano cyn ei ddod: Iesu yw, gwir Fab Duw, Ffrind a Phrynwr dynol-ryw. Hwn yw’r Oen, ar ben Calfaria aeth i’r lladdfa yn ein lle, swm ein dyled fawr a dalodd ac fe groesodd filiau’r ne’; trwy ei waed, inni caed bythol […]
Wrth rodio gyda’r Iesu ar y daith, mae’r ofnau yn diflannu ar y daith; mae gras ei dyner eiriau, a golau’r ysgrythurau, a hedd ei ddioddefiadau ar y daith, yn nefoedd i’n heneidiau ar y daith. Wrth rodio gyda’r Iesu ar y daith, ein calon sy’n cynhesu ar y daith: cawn wres ei gydymdeimlad, a’n […]
Wel dyma’r Ceidwad mawr a ddaeth i lawr o’r nef i achub gwaelaidd lwch y llawr – gogoniant iddo ef! Bu farw yn ein lle ni, bechaduriaid gwael; mae pob cyflawnder ynddo fe sydd arnom eisiau’i gael. Ei ‘nabod ef yn iawn yw’r bywyd llawn o hedd, a gweld ei iachawdwriaeth lawn sydd yn dragwyddol […]
Wele’n sefyll rhwng y myrtwydd wrthrych teilwng o’m holl fryd, er mai o ran yr wy’n adnabod ei fod uwchlaw gwrthrychau’r byd: henffych fore y caf ei weled fel y mae. Rhosyn Saron yw ei enw, gwyn a gwridog, teg o bryd; ar ddeng mil y mae’n rhagori o wrthrychau penna’r byd: ffrind pechadur, dyma’r […]