Bydd yn dawel yn dy Dduw, ymlonydda ynddo ef, ac yn sŵn a therfysg byd fe gei ynddo noddfa gref; Duw yw fy nghraig a’m nerth a’m cymorth rhag pob braw, ynddo y mae lloches im pa beth bynnag ddaw; bydd yn dawel yn dy Dduw, ymlonydda ynddo ef, ac yn sŵn a therfysg byd […]
Dragwyddol Dduw, sy’n Dad holl deulu’r llawr, erglyw ein cri yn ein cyfyngder mawr, yn nos ein hadfyd rho in weled gwawr dy heddwch di. Dy ysig blant sy’n ebyrth trais a brad, a dicter chwerw ar wasgar drwy bob gwlad, a brwydro blin rhwng brodyr; O ein Tad, erglyw ein cri. Rhag tywallt gwaed […]
O cadw ni, ein Duw, mewn dyddiau du, rhag colli rhamant byw dan ofnau lu. Yn nydd y crwydro mawr ar lwybrau’r ffydd, O clyw ein gweddi nawr am newydd ddydd. Rho inni weld y groes a phridwerth Crist yn drech nag anllad oes a’i gwacter trist. Wrth gofio’i goncwest ef y trydydd dydd, tydi, […]
(Salm 23) Yr Arglwydd yw fy Mugail da, diwalla f’eisiau i; rhydd orffwys im mewn porfa fras, caf rodio’n hedd y lli. Efe a ddychwel f’enaid blin, fe’m harwain i bob awr ‘r hyd llwybrau ei gyfiawnder pur, er mwyn ei enw mawr. Pe rhodiwn drwy y dyffryn du nid ofnwn ddim o’i fraw; fy […]
I ddyddiau’r glanio ar y lloer y’n ganed, Iôr, bob un, a gwelsom wyrthiau eraill drwy y ddawn a roist i ddyn. Ond dyro weled gwyrthiau mwy – cael sathru dan ein troed yr afiechydon creulon, cry’ sy’n blino’r byd erioed. Rho inni’n fuan weled dydd na cheir, drugarog Dduw, na newyn blin na thlodi […]
Deuwn yn llon at orsedd Duw, ein Ceidwad digyfnewid yw; gwyrth ei drugaredd sydd o hyd ar waith ynghanol helbul byd. Gwir yw y gair, fe ddeil yr Iôr i agor llwybyr drwy y môr; lle byddo ffydd fe ddyry ef ddŵr pur o’r graig a manna o’r nef. Deil i waredu, heb lesgau, ei […]
Dos, dywed ar y mynydd, ledled y bryn ac ymhob man, dos, dywed ar y mynydd am eni Iesu Grist. Tra gwyliai y bugeiliaid y praidd drwy’r noson hir, yn syth o’r nef disgleiriodd goleuni dwyfol, clir. A hwythau, wedi’i weled, aent ar eu gliniau ‘nghyd, ac yna mynd ar unwaith i geisio Prynwr byd. […]
Am ddeffro’r gwanwyn yn ei bryd a gwyrth y geni ymhob crud, a gweld rhyfeddol liwiau’r byd, i ti y rhoddwn fawl. Am roi dy nodau ar bob tant, dy felys swyn ar wefus plant ac asbri hen yn nawns y nant, i ti y rhoddwn gân. Am gael ein dysgu, gam a cham, am […]
Drwy gyfnodau o dywyllwch Drwy y dyddiau trist eu gwedd, Rhoddaist nerth i’r rhai lluddedig I’th glodfori di mewn hedd. Rhoist i’n olau a llawenydd Yn dy gwmni cilia ofn; Iesu, cedwaist dy addewid, Rhennaist ras o’th galon ddofn. Profwyd o gynhaliaeth natur Gwelwyd harddwch yn y wlad, Ti a luniodd y tymhorau Molwn Di, […]
Arglwydd Iesu, bu hir ddisgwyl Am dy enedigaeth di, I ddwyn golau i fyd tywyll A thrugaredd Duw i ni. Ti yw nerth a gobaith pobloedd Sydd yn wan a llwm eu gwedd, Ti sy’n rhannu’r fendith nefol, Ti wyt frenin gras a hedd. Llywodraetha drwy dy Ysbryd Ein heneidiau gwamal ffôl, Helpa ni i […]