[Philipiaid 3:12-14, Alaw: Mae nghariad i’n fenws] Mae Iesu’n fy ngharu, mae’n dweud hynny’n glir; Nid wyf yn ei haeddu, ond dyna yw’r gwir. Pa ots am farn eraill? Pa ots beth yw’r si? Dim ond barn fy Iesu sy’n cyfrif i mi. Rwy’n werthfawr i Iesu; ei drysor wyf fi. Mi dalodd bris uchel […]
[Philipiaid 2, Alaw: Y Gwŷdd] Yr oedd Crist Iesu’n Harglwydd ar ffurf Duw, ar ffurf Duw, Heb geisio gwneud ei hun yn gydradd â Duw, gydradd â Duw. Gwacâodd Ef ei hun, Gan ddyfod ar ffurf dyn, Fel caethwas oedd ei lun, er fod Ef yn Dduw, fod Ef yn Dduw. A phan oedd ar […]
[Salmau 56-57, Alaw: Os daw ‘nghariad] Gweddïaf am drugaredd, am drugaredd, Ac erfyn ar fy Nuw. Wrth geisio bod yn llawen, bod yn llawen, Ni fedraf yn fy myw. Mae pryderon yn gwasgu arnaf, Yn pwyso’n drwm drwy’r dydd, A llawer gofid meddwl, gofid meddwl Yn torri ‘nghalon i. O fy Arglwydd, cod fi fyny, […]
Dwed wrth dy Dduw [Philipiaid 4:11-14 Alaw: Paid â Deud] Os yw’th galon bron â thorri Dwed wrth dy Dduw, Os yw serch dy ffydd yn oeri Dwed wrth dy Dduw. Ac os chwalu mae d’obeithion Dwed wrth dy Dduw, Fe ddaw’n nes i drwsio’th galon, Dwed wrth dy Dduw. Os mai poenus yw’th sefyllfa […]
Efe yw’r perffaith Iawn. Mae Teyrnas Gras yn llawn O bechaduriaid mawr A gafodd yma i lawr O’u crwydro ffôl – faddeuant llwyr Gan Iesu Grist, cyn mynd rhy hwyr. Fy iachawdwriaeth i Sydd wastad ynot Ti, Mae grym y Groes a’r gwaed A’r llawnder im a gaed, O’th ryfedd ras – yn cyfiawnhau. A […]
Tu hwnt i’r Groes y mae fy nghoron, Er cwpan gwawd un bychan yw, Ond cwpan Iesu i’r ymylon, Fu’n gwpan llid digofaint Duw. Tu hwnt i’r Groes y mae fy nghoron, O gwrando Iesu ar fy nghri, Er nad oes gennyf ddim i’w gynnig, Fy Arglwydd Iesu, – cofia fi. Tu hwnt i’r Groes […]
Y Nefoedd (yn seiliedig ar Datguddiad 22:1-9) Afon bur o ddwfr y bywyd, O fy Arglwydd rhoist i mi Iachawdwriaeth, do fe gefais, Drwy dy waed ar Galfari, Iachawdwriaeth, do fe gefais, Drwy dy waed ar Galfari. Afon bur o ddwfr y bywyd, Disglair fel y grisial yw, Yn dod allan o orseddfainc Iesu’r oen […]
Clywaf lais yr Iesu’n dweud, Rho d’ysgwydd dan fy iau; Blentyn gwan, tro ataf i, Rhof i ti, fy nghras di-drai. Cytgan Talodd Iesu’n llawn, Nawr rwy’n rhydd yn wir; Golchodd staen fy mhechod cas Yn wyn fel eira pur. Gwn yn iawn mai ti yw’r un All symud smotiau du Y llewpard; dim ond […]
Mae’n ddirgelwch mawr i mi Y gallai dwylo’r Arglwydd fod mor fach. Y bysedd bychan yn ymestyn yn y nos, Dwylo a osododd holl derfynau’r nef. Cytgan Haleliwia, Haleliwia, Cariad Nef Ddaeth i lawr i’n hachub ni. Haleliwia, Haleliwia, Mab ein Duw, Brenin tlawd gyda ni. Ti gyda ni. Mae’n ddirgelwch mawr i mi Iddo […]
Father take me deeper still – Leigh Barnard (Arwain fi yn ddyfnach fyth) Mae’r gân hon wedi cael ei chyfieithu gan Arfon Jones a Martyn Geraint. Mae’r cyfieithiad yn un swyddogol sydd wedi ei hawdurdodi. Ond, nid yw’r cwmni sy’n dal yr hawlfraint yn fodlon i ni roi’r geiriau ar y wefan heb dalu! Yn naturiol […]