Dilynwch y ddolen ar waelod y dudalen i glywed y gân yn Saesneg. Rwy’n dod yn nes nag y bûm i erioed, Er gwaethaf fy methiant, mae croeso i mi; Edrychaf i’th lygaid ac mae dy gariad mor glir. Yn nes ac yn nes yr wyt ti’n fy ngwadd, A’th gariad o’m hamgylch, mae ’nghalon […]
Rwy’n dy garu, rwy’n dy garu, x3 Rwy’n dy garu, Amen. Rwy’n dy garu, Amen. Aleliwia, aleliwia, x3 Aleliwia, Amen. Aleliwia, Amen. ©2005 Elise Gwilym o’r CD Tiwnio Mewn
Pennill 1 Yn ofer ceisiais fil o ffyrdd I leddfu f’ofn, rhoi gobaith im Am f’angen mae dy Air yn glir Am byth does neb ond Iesu Pennill 2 O farw’n fyw, yn eiriol nawr Yn d’Air a’th waith mae’th gariad Di Gall calon wan gael ei boddhau Am byth yn neb ond Iesu Cytgan […]
Rwyf ar y cefnfor mawr Yn rhwyfo am y lan; Mae’r nos yn enbyd, ond daw gwawr, A hafan yn y man. Ni chollir monof ddim A’r Iesu wrth y llyw; Ei ofal mawr a’i ryfedd rym A’m ceidw innau’n fyw. Tangnefedd heb un don, Fy Ngheidwad, dyro’n awr; Cerydda’r terfysg dan fy mron A […]
Rwyf d’angen Fel gwlith mewn diffaethwch, Fel iachusol law yr haf, Arllwys di dy gariad pur yn lli’. Rwy’n gweled bob tro dof atat ti A gofyn am gael mwy O’th gariad tyner cu, Fe’i rhoi i mi. Fel afon yn llifo’n gref, Fel tonnau’n treiglo daw dy hedd; Tynn fi’n ddyfnach; rho weld dy […]
‘Rwyf yn codi fy mhobol i foli, ‘rwyf yn codi fy mhobol yn rym; fe symudant drwy’r wlad yn yr Ysbryd, gogoneddant fy enw yn llawn. Gwna dy Eglwys yn un gref, Iôr, ein calonnau una nawr: gwna ni’n un, Iôr, yn dy gorff, Iôr, doed dy deyrnas ar y llawr. Dave Richards (For I’m […]
‘Rwyf yn credu yn y Tad tragwyddol, Rwyf yn credu’n Iesu ei Fab, Rwyf yn credu hefyd yn yr Ysbryd – Tri yn Un yn ei gariad rhad. Credu rwyf iddo’i eni o forwyn, Ei ladd ar groes a’i gladdu yn y bedd; Fe aeth i lawr i uffern yn fy lle i, Ond fe […]
‘Rwyt fel y graig yn sefyll byth, Ffyddlon wyt ti; ‘Rwyt Ti’n ddoethach a mil harddach Na phawb a phopeth sy’. Rymus un, yn ofni dim, Gwir a chyfiawn yw dy ffyrdd, Fab Duw; Ond rwyt mor isel, rhoist dy fywyd di, Er mwyn i ni gael byw. Wrth droi fy wyneb atat Ti O! […]
Rwyt ti’n brydferth iawn tu hwnt i eiriau, Tu draw i ddeall dyn, Godidog wyt, Pwy all d’amgyffred? O, Arglwydd, ’does ond ti dy hun. Pwy a ddysg dy ryfedd ddoethineb? Pwy all blymio dy fawr gariad di? Rwyt ti’n brydferth iawn tu hwnt i eiriau, Frenin Mawr, ar d’orsedd fry. Ac yn syn, yn […]
Cariad dwyfol, er ein mwyn hoeliwyd ar gywilydd croes. Dygaist ein gwarth, a’n pechod ni; Mewn buddugoliaeth codaist fry. Drwy’r ystorm a thrwy y tân Gras di-drai, mor ffyddlon yw; Mae gwirionedd a’m rhyddha; Ynof Iesu Grist sy’n byw. Rwyt ti’n gryfach, rwyt ti’n gryfach, Concrwyd pechod, fe’m gwaredaist, Ysgrifennwyd, Crist gyfodwyd! Iesu, Ti yw […]