Bydd yn wrol, paid â llithro, er mor dywyll yw y daith y mae seren i’th oleuo: cred yn Nuw a gwna dy waith. Er i’r llwybyr dy ddiffygio, er i’r anial fod yn faith, bydd yn wrol, blin neu beidio: cred yn Nuw a gwna dy waith. Paid ag ofni’r anawsterau, paid ag ofni’r […]
Byw ar ymyl arfaeth Duw bob dydd, Edrych ar yr addewidion oll. Ddim wedi bod ‘ffordd hon o’r blaen, Gall mai heddiw yw y dydd. Chwalu niwl y difaterwch sydd, Gwawriodd newydd ddydd disgwyliad cryf. Ddim wedi bod ‘ffordd hon o’r blaen, Gall mai heddiw yw y dydd. Mwy na holl bŵer fy hyder i […]
Bywha dy waith, O Arglwydd mawr, dros holl derfynau’r ddaear lawr drwy roi tywalltiad nerthol iawn o’r Ysbryd Glân a’i ddwyfol ddawn. Bywha dy waith o fewn ein tir, arddeliad mawr fo ar y gwir; mewn nerth y bo’r Efengyl lawn, er iachawdwriaeth llawer iawn. Bywha dy waith o fewn dy dŷ a gwna dy […]
Caed baban bach mewn preseb drosom ni, a golau Duw’n ei ŵyneb drosom ni: mae gwyrthiau Galilea, . a’r syched yn Samaria, a’r dagrau ym Methania drosom ni; mae’r llaw fu’n torri’r bara drosom ni. Mae’r geiriau pur lefarodd drosom ni, mae’r dirmyg a ddioddefodd drosom ni: mae gwerth y Cyfiawn hwnnw, a’r groes a’r […]
Caed modd i faddau beiau a lle i guddio pen yng nghlwyfau dyfnion Iesu fu’n gwaedu ar y pren; anfeidrol oedd ei gariad, anhraethol oedd ei gur wrth farw dros bechadur o dan yr hoelion dur. Un waith am byth oedd ddigon i wisgo’r goron ddrain; un waith am byth oedd ddigon i ddiodde’r bicell […]
Caed trefn i faddau pechod yn yr Iawn; mae iachawdwriaeth barod yn yr Iawn; mae’r ddeddf o dan ei choron, cyfiawnder yn dweud, “Digon,” a’r Tad yn gweiddi, “Bodlon” yn yr Iawn; a “Diolch byth,” medd Seion, am yr Iawn. Yn awr, hen deulu’r gollfarn, llawenhawn; mae’n cymorth ar Un cadarn, llawenhawn: mae galwad heddiw […]
Cael bod yn dy gwmni, Cael eisedd i lawr, A phrofi dy gariad O’m cwmpas yn awr. Fy nyhead i, Fy Nhad, Yw bod gyda thi. Fy nyhead i, Fy Nhad, Yw bod gyda thi. A’m pen ar dy ddwyfron Heb gynnwrf na phoen; Pob eiliad yn werthfawr Yng nghwmni yr Oen. Caf oedi’n […]
Cais yr Iesu mawr gennym ni o hyd Megis lampau bychain deg oleuo’r byd; Tywyll yw’r holl daear, felly gwnaed pob un Bopeth i oleuo ei gylch ei hun. Cais yr Iesu mawr gennym ar ei ran Ef ei hun oleuo, er nad ŷm ond gwan; Tremia ef o’r nefoedd, ac fe wêl bob un […]
Cân angylion ar yr awel o gylch gorsedd Duw; swynol nodau eu telynau O fy enaid, clyw; gwrando’r miloedd sy’n cyffesu a chlodfori enw Duw. Ti sy ‘mhell tu hwnt i gyrraedd ein golygon ni, a all dynion pechadurus ddod i’th ymyl di? Dwed a elli di ein gwrando a’n cysuro? “Gallaf fi.” Ti a’n […]
Mae Genesis, Exodus, yna Lefiticus, Numeri, Deut’ronomium a Josua’n ei dro, A Barnwyr, Ruth, Samuel, Brenhinoedd a’r Cronicl, Esra a Nehemeia ac Esther a Job. Yna’r Salmau a’r Diarhebion, Pregethwr a Chaniad Solomon, Eseia a Jeremeia, Galarnad mor drist, Eseciel a Daniel, Hosea a Joel, Ac Amos ac Obadeia a Jona, gwael dyst. Dyma Micha […]