Cenhedloedd y ddaear i gyd, Sy’n mynd i gael gwrando ar ein cân. Cenhedloedd y ddaear i gyd, Sy’n mynd i gael clywed newydd da; A phobl ddaw i gredu yn yr Iesu glân. Iesu ein Brenin, Ry’m am dy ddilyn Ymlaen yn dy fyddin Dan faner yr Oen. Caed buddugoliaeth, Ac mae gweledigaeth; Dyma’n […]
Cenwch i’r Arglwydd, cenwch i’r Arglwydd, Iôr ein hymwared ni yw; aed yn beraidd hyd y nef aberth moliant iddo ef, bendigedig fo’r Arglwydd, ein Duw. Moeswch i’r Arglwydd, moeswch i’r Arglwydd, moeswch ogoniant a nerth; o’u caethiwed, rhoed yn rhydd fyrdd o etifeddion ffydd, mawl i enw Preswylydd y berth. Molwch yr Arglwydd, molwch […]
Pennill 1 Awdur yr holl fyd, cerdda ’fo fi Rheolwr y holl fyd, cerdda ’fo fi Tawelwr y storm, cerdda ’fo fi Iachawr ’nghalon i, cerdda ’fo fi Cytgan Dwi dy angen, Dwi dy angen O Iesu, cerdda ’fo fi Dwi’n dy garu, Dwi’n dy garu O Iesu, cerdda ’fo fi Pennill 2 Oleuni ar […]
Cerddodd lle cerddaf fi, Safodd lle safaf fi, Teimiodd fel teimlaf fi, Fe glyw fy nghri. Gŵyr am fy ngwendid i, Rhannodd fy natur i, Fe’i temtiwyd ym mhob ffordd, Heb lithro dim. Duw gyda ni, Duw ynom ni, Rhydd nerth i ni, Emaniwel! Dioddefodd wawd ei hil, Sen a rhagfarnau fil, Lladdwyd yr un […]
Cerddwn ymlaen, calonnau’n dân, A bydd pob cam yn weddi îr. Planwyd gobaith a llawenydd; Clywch yr anthem drwy y tir. Ers dyddiau Crist mae’r fflam yn fyw, Ni all un dim ei diffodd hi, Mae ‘na hiraeth a dyhead Am adfywiad drwy y tir. Boed i’r fflam lewyrchu, Symud y tywyllwch, Troi y […]
‘Cheisiais Arglwydd, ddim ond hynny, dim ond treulio ‘nyddiau i maes fyth i’th garu a’th ryfeddu ac ymborthi ar dy ras: dyna ddigon – ‘cheisiaf ‘nabod dim ond hyn. Dal fy llygad, dal heb wyro, dal ef ar d’addewid wir, dal fy nhraed heb gynnig ysgog allan fyth o’th gyfraith bur: boed d’orchmynion imi’n gysur […]
Chwennych cofio ‘rwyf o hyd am Galfaria, man hynota’r byd i gyd yw Calfaria; bu rhyw frwydyr ryfedd iawn ar Galfaria: cafwyd buddugoliaeth lawn, Haleliwia! Cerddodd Iesu dan y groes i Galfaria, a dioddefodd angau loes ar Galfaria; rhoi ei fywyd drosom wnaeth ar Galfaria; bywyd llawn i ninnau ddaeth, Haleliwia! JANE HUGHES, 1760?-1820 (Caneuon Ffydd […]
Chwi bererinion glân, sy’n mynd tua’r Ganaan wlad, ni thariaf finnau ddim yn ôl; dilynaf ôl eich traed nes mynd i Salem bur mewn cysur llawn i’m lle: O ffrind troseddwyr, moes dy law a thyn fi draw i dre. Mi ges arwyddion gwir o gariad pur fy Nuw; ei ras a’i dawel, hyfryd hedd […]
Chwi, eneidiau, pam y crwydrwch fel tarfedig braidd o dref? Ffôl galonnau, pam y cefnwch ar ei ryfedd gariad ef? A fu cyn dirioned Bugail, neb erioed mor fwyn ei fryd a’r Gwaredwr a fu’n gwaedu er mwyn casglu’i braidd ynghyd? Mae’i drugaredd ef yn llydan, mae yn llydan fel y môr; ac mae gras […]
Chwilio amdanat addfwyn Arglwydd mae fy enaid, yma a thraw; teimlo’mod i’n berffaith ddedwydd pryd y byddi di gerllaw: gwedd dy ŵyneb yw fy mywyd yn y byd. Heddwch perffaith yw dy gwmni, mae llawenydd ar dy dde; ond i ti fod yn bresennol, popeth sydd yn llanw’r lle: ni ddaw tristwch fyth i’th gwmni […]