Daeth eto fore Saboth, boed arnom yn dy dŷ brydferthwch dy sancteiddrwydd a’r llewyrch oddi fry; dy air y bore cyntaf aeth drwy y gwagle’n wawr: tywynna arnom ninnau, O Arglwydd, yma nawr. Daeth eto fore Saboth, O Iesu, rho i ni gael blas ar wrando’r ddameg, fel gynt ar lân y lli; awelon Galilea […]
Daeth eto ŵyl y geni – y ddôl, y pant a’r bryn y’n bloeddio mewn llawenydd y rhyfedd newydd hyn: ddistyllu o holl sylwedd y cread i ffurf dyn, a Mair yng ngwewyr esgor ddug Dduw a’i blant yn un. Daeth eto ŵyl y geni – a chludwn at y tŷ fel doethion gynt, â’u […]
Daeth ffrydiau melys iawn yn llawn fel lli o ffrwyth yr arfaeth fawr yn awr i ni; hen iachawdwriaeth glir aeth dros y crindir cras; bendithion amod hedd: O ryfedd ras! Cymerodd Iesu pur ein natur ni, enillodd ef i’w saint bob braint a bri; fe ddaeth o’r nef o’i fodd, cymerodd agwedd was; ffrwyth […]
Daeth Gwaredwr gwiw i ddynion, O newydd da; sych dy ddagrau, gaethferch Seion, O newydd da; chwyth yr utgorn ar dy furiau, gwisga wên a sych dy ddagrau, gorfoledda yn ei angau, O newydd da. Daeth o uchder gwlad goleuni, O gariad mawr, i ddyfnderoedd o drueni, O gariad mawr; rhodiodd drwy anialwch trallod, ac […]
Daeth Iesu o’i gariad i’r ddaear o’r nef, fe’i ganwyd yn faban ym Methlehem dref: mae hanes amdano ’n ôl tyfu yn ddyn yn derbyn plant bychain i’w freichiau ei hun. Mae’r Iesu yn derbyn plant bychain o hyd: Hosanna i enw Gwaredwr y byd! Sefydlodd ei deyrnas i blant yn y byd, agorodd ei […]
Daeth Prynwr dynol-ryw yn fyw o’i fedd a disglair ddelw Duw yn harddu’i wedd; dymchwelodd deyrnas gaeth hen deyrn marwolaeth du: rhaid ydoedd rhoi rhyddhad i’n Ceidwad cu. Gwnaeth waith y cymod hedd mewn llwyredd llawn, mae’i feddrod gwag yn dweud ei wneud yn Iawn; trwy’r codi rhoes y Tad fawrhad ar Galfarî, a thorrodd […]
Daethom i’th addoli Ger dy fron yn awr; Dod i roi ein hunain Yn offrwm drwy ein mawl. Llifa o’n calonnau Gariad atat ti, Ti a’i planodd ynom, Abba, Dad. Par i ni yn awr Roi mwynhad i ti, Rhoi ein hunain wnawn yn llwyr, Abba, Dad. Cyfieithiad Awdurdodedig: Arfon Jones, We are here to […]
Daethost i geisio a chadw pechaduriaid, Fe aethom ni oll ar goll, Fugail y defaid. Rwyt wedi paratoi gwledd, A’n galw ni’ mewn; Fel gelwaist ti ni, fe alwn eraill I ddod atat ti. Cans ti ydyw Arglwydd y c’nhaeaf; Ti sy’n rhoi’r tyfiant, dy eglwys y’m ni. Ti ydyw Arglwydd y c’nhaeaf, Rhoddaist ti […]
Dal fi fy Nuw, dal fi i’r lan, ‘n enwedig dal fi lle ‘rwy’n wan; dal fi yn gryf nes mynd i maes o’r byd sy’n llawn o bechod cas. Gwna fi’n gyfoethog ymhob dawn, gwna fi fel halen peraidd iawn, gwna fi fel seren olau wiw ‘n disgleirio yn y byd ‘rwy’n byw. Dysg […]
Dal fi’n agos at yr Iesu er i hyn fod dan y groes; tra bwy’n byw ym myd y pechu canlyn dani bura f’oes; os daw gofid a thywyllwch, rho im argyhoeddiad llwyr – wedi’r nos a’r loes a’r trallod, bydd goleuni yn yr hwyr. Dysg im edrych i’r gorffennol, hyn a ladd fy ofnau […]