Duw sy’n codi ei dŷ, Duw sy’n codi ei dŷ Duw sy’n codi ei dŷ ar y graig; Y mae’n dŷ o feini byw, Daw o law’r tragwyddol Dduw, Duw sy’n codi ei dŷ ar y graig. O! mor gadarn yw’r tŷ, O! mor gadarn yw’r tŷ, O! mor gadarn yw’r tŷ ar y graig; […]
Cwpan Duw (Tôn: Troyte, 394 Caneuon Ffydd) Duw sy’n rhoi harddwch i fynydd a phant, Ef sy’n rhoi bwrlwm yn nyfroedd y nant, Ef sy’n rhoi’r machlud ac Ef sy’n rhoi’r wawr; am ei holl roddion, rhown ddiolch yn awr. Duw rydd yr heulwen i’n llonni o’r nen, ‘r ôl i’r cymylau wasgaru uwchben; Ef […]
Duw sydd gariad, caned daear, Duw sydd gariad, moled nef, boed i’r holl greadigaeth eilio cân o fawl i’w enw ef; hwn osododd seiliau’r ddaear ac a daenodd dir a môr, anadl pob creadur ydyw, gariad bythol, Duw ein Iôr. Duw sydd gariad, a chofleidia wledydd byd yn dirion Dad; cynnal wna rhwng breichiau diogel […]
Nerth a gawn wrth ddisgwyl wrth ein Duw. Rym am ddisgwyl wrth ein Duw, Rym am ddisgwyl wrth ein Duw. Ein Duw, ti sy’n teyrnasu. Ein craig, ti sy’n ein hachub. Ti Arglwydd yw’r tragwyddol Dduw, Yr un tragwyddol Dduw, Dwyt byth yn blino na llewygu. Ti sy’n amddiffyn y rhai gwan, Cysuro’r rhai sy’n […]
Duw yw fy ngoleuni; yr Arglwydd yw f’achubwr cryf. Duw yw caer fy mywyd, does neb yn gallu ‘nychryn i. Ceisiais un peth gan fy Nuw, Yn ei dŷ gad imi fyw, I syllu ar ei harddwch, a’i geisio yn ei deml bob dydd. Duw fydd yn fy nghadw’n ei gysgod pan ddaw dyddiau gwael, […]
Duw, fe’th folwn, ac addolwn, Ti ein Iôr a thi ein Rhi; Brenin yr angylion ydwyt, Arglwydd, fe’th addolwn di. Dengys dy holl greadigaeth Dy ogoniant di-lyth; Canant ‘Sanctaidd, sanctaidd, sanctaidd’ Hollalluog, Dduw dros byth! Apostolion a phroffwydi, Saint a roes y byd ar dân, Llu merthyron aeth yn angof, Unant oll mewn nefol gân; […]
Duw, teyrnasa ar y ddaear o’r gorllewin pell i’r de; cymer feddiant o’r ardaloedd pellaf, t’wyllaf is y ne’; Haul Cyfiawnder, llanw’r ddaear fawr â’th ras. Taened gweinidogion bywyd iachawdwriaeth Iesu ar led; cluded moroedd addewidion drosodd draw i’r rhai di-gred; aed Efengyl ar adenydd dwyfol wynt. Doed preswylwyr yr anialwch, doed trigolion bro a […]
Duw! er mor eang yw dy waith, Yn llanw’r holl greadigaeth faith, ‘D oes dim drwy waith dy ddwylaw oll At gadw dyn fu gynt ar goll. Dyma lle mae d’anfeidrol ras I’r eitha’n cael ei daenu i maes; A holl lythrennau d’enw a gawn Yn cael eu dangos yma’n llawn. Ar Galfari, rhwng daer […]
Duw’n darpar o hyd at raid dynol-ryw yw’n cysur i gyd a’n cymorth i fyw; pan sycho ffynhonnau cysuron y llawr ei heddwch fel afon a lifa bob awr. Er trymed ein baich, ni gofiwn o hyd mor gadarn ei fraich, mor dyner ei fryd; y cof am Galfaria ac aberth y groes drwy ras […]
Dwed wrth dy Dduw [Philipiaid 4:11-14 Alaw: Paid â Deud] Os yw’th galon bron â thorri Dwed wrth dy Dduw, Os yw serch dy ffydd yn oeri Dwed wrth dy Dduw. Ac os chwalu mae d’obeithion Dwed wrth dy Dduw, Fe ddaw’n nes i drwsio’th galon, Dwed wrth dy Dduw. Os mai poenus yw’th sefyllfa […]