Fy Iesu, fe’th garaf, cans eiddof wyt ti; Deniadau fy mhechod – gwrthodaf eu cri; Fy ngrasol Waredwr, Ti yw fy Arglwydd mawr, Os bu imi’th garu erioed, caraf nawr. Fy Iesu, fe’th garaf cans Ti’m ceraist i, Gan brynu fy mhardwn ar groes Calfari; Am golli dy waed yn ddiferion coch i’r llawr Os […]
Fy Iesu yw fy Nuw, Fy Mrawd a’m Prynwr yw, Ffyddlonaf gwir; Arwain fy enaid wnaeth O’r gwledydd tywyll caeth, I wlad o fêl a llaeth, Paradwys bur. Efe a aeth o’m blaen, Trwy ddyfnder dŵr a thân, I’r hyfryd wlad; Mae’n eiriol yno’n awr O flaen yr orsedd fawr, Yn maddau bach a mawr […]
Fy Iesu yw fy Nuw, Fy noddfa gadarn gref; Ni fedd fy enaid gwan, Ddim arall dan y nef; Mae Ef ei Hun a’i angau drud, Yn fwy na’r nef, yn fwy na’r byd. Fy nymuniadau i gyd Sy’n cael atebiad llawn, A’m holl serchiadau ‘nghyd Hyfrydwch nefol iawn, Pan fyddwy’n gweld wrth olau’r wawr, […]
Fy Iesu, ‘Ngwaredwr, Arglwydd ‘does neb fel ti’n Deilwng yn wir o’m moliant i; Rhyfeddol yw dy gariad cryf. Fy nghysur, fy nghysgod, Ti yw fy noddfa a’m nerth. Popeth sy’n bod, o dan y rhod, Uned i’w addoli ef. Bloeddiwch i Dduw’r ddaear oll, cenwch ‘nawr. Nerth a gogoniant, i’th enw rhown fawl. Plyga’r […]
Fy Iesu, fy Arglwydd, ‘Dwi d’angen di yn fy mywyd i. Does undyn yn debyg; Hiraethu wnaf am dy gariad di. O! Iesu, O! Iesu, ‘Does cariad tebyg i dy gariad di. O! Iesu, fy Iesu, Derbyn yn rhodd fy nghalon i – Fe’i rhoddaf i ti. Rwy’n chwilio, rwy’n ceisio, Gwna ynof beth a […]
Fy meiau trymion, luoedd maith, a waeddodd tua’r nen, a dyna pam ‘roedd rhaid i’m Duw ddioddef ar y pren. Hwy a’th fradychodd, annwyl Oen, hwy oedd y goron ddrain, hwy oedd y fflangell greulon, gref, hwy oedd yr hoelion main. Fy meiau oedd y wayw-ffon drywanai’i ystlys bur, fel y daeth ffrwd o dan […]
Fy mwriad i yw dy ddilyn di Drwy gydol fy mywyd. Fy mwriad i yw dy ddilyn di Tra byddaf fi byw. Rhoddaf fy hun yn llwyr I bwrpas sydd o fudd tragwyddol. Dy ddilyn di yw fy oll, dy ddilyn di. Gweithiaf i ti ag arian ac aur Drwy gydol mywyd Gweithiaf i ti […]
Fy ngorchwyl yn y byd yw gogoneddu Duw a gwylio dros fy enaid drud yn ddiwyd tra bwyf byw. Fe’m galwyd gan fy Nuw i wasanaethu f’oes; boed im ymroi i’r gwaith, a byw i’r Gŵr fu ar y groes. Rho nerth, O Dduw, bob dydd i rodio ger dy fron, i ddyfal ddilyn llwybrau’r […]
Syched am dosturi A chariad fel y moroedd O! trugarha fy Nuw. Syched am faddeuant, Am waredigaeth gyflawn Cenhedloedd plygwch. Cytgan ’Ngwaredwr, brenin y brenhinoedd Ceidwad cadarn yw Ef, Canwch glod iddo Ef Byth bythoedd, ceidwad y cyfamod. Fe yw concwerwr y bedd. Cymer fi fel wyf i Gyda’m holl ofidion Tywallt arnaf i. Dilynaf […]
Fy ngweddi, dos i’r nef, Yn union at fy Nuw, A dywed wrtho Ef yn daer, “Atolwg, Arglwydd, clyw! Gwna’n ôl d’addewid wych I’m dwyn i’th nefoedd wen; Yn Salem fry partô fy lle Mewn llys o fewn i’r llen.” Pererin llesg a llaith, Dechreuais daith oedd bell, Trwy lu o elynion mawr eu brad […]