Mi glywaf dyner lais yn galw arnaf fi i ddod a golchi ‘meiau i gyd yn afon Calfari. Arglwydd, dyma fi ar dy alwad di, canna f’enaid yn y gwaed a gaed ar Galfarî. Yr Iesu sy’n fy ngwadd i dderbyn gyda’i saint ffydd, gobaith, cariad pur a hedd a phob rhyw nefol fraint. Yr […]
Mi glywais lais yr Iesu’n dweud, “Tyrd ataf fi yn awr, flinderog un, cei ar fy mron roi pwys dy ben i lawr.” Mi ddeuthum at yr Iesu cu yn llwythog, dan fy nghlwyf; gorffwysfa gefais ynddo ef a dedwydd, dedwydd wyf. Mi glywais lais yr Iesu’n dweud, “Mae gennyf fi yn rhad y dyfroedd […]
Mi godaf f’egwan lef at Iesu yn y nef, a rhoddaf bwys fy enaid dwys i orffwys arno ef; caf ynddo ras o hyfryd flas a mwyn gymdeithas Duw; ei nerth a rydd yn ôl y ddydd, ei olau sydd ar lwybrau ffydd: ‘rwyf beunydd iddo’n byw. Mae ei ddiddanwch drud yn difa sŵn y […]
Mi wela’r cwmwl du, Yn awr ymron â ffoi, A gwynt y gogledd sy Ychydig bach yn troi: ‘N ôl tymestl fawr, daw yn y man Ryw hyfryd hin ar f’enaid gwan. Ni phery ddim yn hir Yn ddu dymhestlog nos; Ni threfnwyd oesoedd maith I neb i gario’r groes; Mae’r hyfryd wawr sy’n codi […]
Mi wela’r ffordd yn awr o lygredd mawr y byd i fywiol oes y nefol hedd, a’m gwedd yn lân i gyd: y ffordd yw Crist, a’i ddawn, a’r Iawn ar Galfarî; mae drws agored drwyddo ef i mewn i’r nef i ni. Diolchaf am yr Oen a’i boen i’m gwneud yn bur, a’r iachawdwriaeth […]
Mi welaf ym medydd fy Arglwydd ogoniant gwir grefydd y groes, y claddu a’r codi’n Dduw cadarn ‘r ôl gorffen ei lafur a’i loes: mae’n ddarlun o angau’r Cyfryngwr a dyfnder ei drallod a’i boen; mae Seion yn cadw’r portread i gofio am gariad yr Oen. ALLTUD GLYN MAELOR, 1800-81 (Caneuon Ffydd 650)
Mi welaf yn ei fywyd, Y ffordd i’r nefoedd fry, Ac yn ei angau’r taliad A roddwyd drosof fi. Yn ei esgyniad gwelaf Drigfannau pur y nef A’r wledd dragwyddol berffaith, Gaf yno gydag Ef. ‘N ôl edrych ar ôl edrych, O gwmpas imi mae Rhyw fyrdd o ryfeddodau Newyddion yn parhau; Pan fwy’n rhyfeddu […]
Mi wn fod fy Mhrynwr yn fyw, a’m prynodd â thaliad mor ddrud; fe saif ar y ddaear, gwir yw, yn niwedd holl oesoedd y byd: er ised, er gwaeled fy ngwedd, teyrnasu mae ‘Mhrynwr a’m Brawd; ac er fy malurio’n y bedd ca’i weled ef allan o’m cnawd. Wel, arno bo ‘ngolwg bob dydd, […]
Mi wn mai byw yw ‘Mhrynwr gwyn – Llawenydd gaf o wybod hyn! Mae’n fyw – yr Hwn fu ar y pren; Mae’n fyw, i mi’n dragwyddol Ben; Mae’n fyw, i mi’n dragwyddol Ben. Mae’n fyw, daw gras o’i gariad Ef; Mae’n fyw i eiriol yn y nef; Mae’n fyw i borthi’m henaid gwyw; Mae’n […]
Mola Dduw, f’enaid cân, Mola Dduw, f’enaid cân, A’r cwbl ynof mola’i enw sanctaidd Ef. Mola Dduw, f’enaid cân, Mola Dduw, f’enaid cân, A’r cwbl ynof mola’i enw sanctaidd Ef. Ef yw’r Iôr, (yn Frenin brenhinoedd,) Arglwydd Iôr,(yn Frenin brenhinoedd,) Oen ein Duw, (yn Frenin brenhinoedd,) Arglwydd yw a Brenin nef. Anad. ( Bless the […]