Nefol dad ni allaf ddeall sut y medrais i fodoli Am gyhyd heb wybod am dy gariad grymus di. Ond nawr dy blentyn annwyl wyf, derbyniais Ysbryd y mabwysiad; Wnei di byth fy ngadael i, can’s trigo ’rwyt o fewn fy nghalon. Fe’th addolaf Arglwydd, Fe’th ganmolaf Arglwydd, Fe’th ddyrchafaf Arglwydd, Ti yw fy Nuw! […]
Nefol Dad ti yw fy mywyd, ti yw f’oll, Ac fe ymhyfrydaf ynot ti, Ac fe’th garaf di, ie, fe’th garaf di, Dad, fe’th garaf di, nefol Dad. Iesu, ti yw fy nhrysor tra fwyf byw; ’Rwyt mor bur ac addfwyn, O! Fab Duw. Ac fe’th garaf di, ie, fe’th garaf di, O, fe’th garaf […]
Nefol Dad, erglyw ein gweddi wrth wynebu’r flwyddyn hon, mae’n hamserau yn dy ofal, a’n helyntion ger dy fron; dyro brofi hedd dy gariad, doed a ddêl. Nefol Dad, er gwaetha’n blinder pan fo’r daith yn siomi’n bryd, ninnau’n amau dy ddaioni ac yn credu’n hofnau i gyd, dyro brofi hedd dy gariad, doed a […]
Nefol Dad, mae eto’n nosi, gwrando lef ein hwyrol weddi, nid yw’r nos yn nos i ti; rhag ein blino gan ein hofnau, rhag pob niwed i’n heneidiau, yn dy hedd, O cadw ni. Cyn i’r caddug gau amdanom taena d’adain dyner drosom, gyda thi tawelwch sydd; yn dy gariad mae ymgeledd, yn dy fynwes […]
Nesawn, nesawn mewn myfyrdodau pur at fwrdd ein Harglwydd i gydgofio’i gur; a rhoed y Brenin mawr ar hyn o bryd ei ŵyneb hoff tra byddom yma ‘nghyd. O am gael ffydd i gydfwynhau y wledd; ‘does un o’i bath i’w chael tu yma i’r bedd; y cariad mawr a unodd Dduw a dyn sydd […]
Newid d’enw wnaf, Chei di mo’th alw ddim mwy’n Glwyfus, alltud, unig na’n llawn ofn. Newid d’enw wnaf, D’enw newydd fydd, Hyder, llawen iawn, concrwr ynof fi, Ffyddlon iawn, cyfaill Duw, Ceisiwr f’wyneb i. (I will change your name): D J Butler, Cyfieithiad awdurdodedig: Dafydd H Pritchard © Mercy Publishing/Thankyou Music 1987 Gwein. gan Copycare […]
Ni all angylion nef y nef Fynegi maint ei gariad Ef, Mae angau’r Groes yn drech na’u dawn: Bydd canu uwch am Galfari Na dim a glybu angylion fry, Pan ddelo Salem bur yn llawn. Am iddo farw ar y bryn, Cadd f’enaid bach ei brynu’n llyn A’i dynnu o’i gadwynau’n rhydd: Wel, bellach, dan […]
Ni all angylion pur y nef, Â’u doniau amal hwy, Fyth osod allan werthfawr bris Anfeidrol ddwyfol glwy’. Dioddefodd angau, dygyn boen, A gofir tra fo’r nef, Fy nerth, fy nghyfoeth i a’m braint, A’m noddfa lawn yw Ef. Fe’m denodd i, yn ddirgel iawn A distaw, ar ei ôl; Ac mewn afonydd dyfnion lawn, […]
Ni allodd angau du ddal Iesu’n gaeth ddim hwy na’r trydydd dydd – yn rhydd y daeth; ni ddelir un o’i blant er mynd i bant y bedd, fe’u gwelir ger ei fron yn llon eu gwedd. O Dduw, dod imi ffydd, bob dydd o’r daith weld Seion yn nesáu dros fryniau maith: yn Ben […]
Ni chollwyd gwaed y groes Erioed am ddim i’r llawr; Na dioddef angau loes Heb rhyw ddibenion mawr! A dyna oedd ei amcan Ef – Fy nwyn o’r byd i deyrnas nef. N’âd imi garu mwy Y pechod drwg ei ryw – Y pechod roddodd glwy’ I’m Prynwr, O! fy Nuw. N’ad imi garu dim […]