logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Mae ‘na newyn o fath arall

Mae ’na newyn o fath arall Ar y rhai sy’n dda eu byd, Er na welir hwy yn marw Nac yn wylo ar y stryd. Mae na angen dwfn a dirgel Sydd ym mhawb o’n cwmpas ni; Er na welwn hwy’n dihoeni, Er na chodant lef na chri. O rho dy fanna, Iôr, yn y […]


Mae calon Duw’n llawn gofid

Mae calon Duw’n llawn gofid Mae t’wyllwch drwy y wlad. Mae’i blant yn esgeuluso Y gwaith wnaed gan y Mab. Mae’r byd yn araf lithro nawr At ddibyn colledigaeth fawr. A ddaw ‘na neb i son am gariad Duw? Rwy’n barod, rwy’n barod. Wele fi, o anfon fi. Af allan, af allan, Gyda’r neges drosot […]

  • Gwenda Jenkins,
  • June 23, 2015

Mae d’eisiau di bob awr

Mae d’eisiau di bob awr, fy Arglwydd Dduw, daw hedd o’th dyner lais o nefol ryw. Mae d’eisiau, O mae d’eisiau,      bob awr mae arnaf d’eisiau, bendithia fi, fy Ngheidwad,      bendithia nawr. Mae d’eisiau di bob awr, trig gyda mi, cyll temtasiynau’u grym, yn d’ymyl di. Mae d’eisiau di bob awr, rho d’olau […]


Mae dy waed

Mae dy waed yn fy nghlanhau, Mae dy waed yn rhoi bywyd im, Mae dy waed, dy werthfawr waed, Wedi ’mhrynu i yn rhydd A’m golchi i’n lân fel eira gwyn, eira gwyn. Fy lesu yn aberth drosof fi. It’s your blood, Michael Christ. Cyfieithiad awdurdodedig: Arfon Jones © Mercy Publishing/Thankyou Music 1985 Gwein. gan […]

  • MLC_Admin,
  • January 1, 1970

Mae enw Iesu Grist i mi

Mae enw Iesu Grist i mi Mor fwyn a llais o’r nef, Mae’n gwneud i’m henaid roddi llam – Ei hyfryd enw Ef.   O! Enw’r Iesu, hyfryd yw; Enw fy Mhrynwr i a’m Duw; Enw sy’n gwneud i’m lawenhau Yw hyfryd enw Crist. Mae’n sôn am gariad Un a ddaeth I farw i’m rhyddhau, […]


Mae fy nghalon i yn eiddo llwyr i ti

Mae fy nghalon i yn eiddo llwyr i ti: Iesu, arwain fi ar lwybrau Duw. Mae fy nghalon i yn eiddo llwyr i ti: Rhof fy hun yn aberth sanctaidd byw. DYNION Ac fe addolaf fi, MERCHED Fe addolaf fi. DYNION A chanaf am dy gariad di, MERCHED Canaf am dy gariad di, DYNION A […]


Mae gobaith sicr yn fy nghalon i

Mae gobaith sicr yn fy nghalon i, Sy’n rhoddi nerth i ddioddef dyddiau du; Wrth weled mymryn o d’ogoniant yma nawr amheuaeth ffodd o’m tu: Maddeuwyd im pob pechod cas; Mae gobaith nefoedd ynof fi! Fy mraint, fy ngalwad a’m llawenydd pur Yw gwneud d’ewyllys Di. Mae gen i obaith cryf sy’n ’sgafnu maich Yn […]


Mae harmonïau’r nefol gân

Mae harmonïau’r nefol gân O flaen ei orsedd mad. Can mil o engyl seinia’n un Mewn côr o fawl i’r Tad. Mwy disglair yw dy olau pur Na’r sêr a’r lloer a’r haul; Dihafal yw Creawdwr byd Ac Ef yw’n cadarn sail. Ni saif dinasoedd ‘ddaear hon Am dragwyddoldeb hir, Ond wrth gynteddau perlog Nef […]


Mae nghalon i yn llawn edmygedd

Mae ‘nghalon i yn llawn edmygedd I ti fy Nuw, fy Mrenin mawr; Dy fawredd di yw fy ysgogiad, Geiriau dy ras yw alaw’r gân o’m mewn.   O garu’r da, ac nid drygioni – Fe rydd dy Dduw dy wobr i ti, Ac ar dy ben, rhydd olew sanctaidd A thaenu persawr dros dy […]


Mae yna ddydd

Mae yna ddydd mae’r Cread cyfan am ei weld; y dydd o ryddid pan ddaw y ddaear oll yn rhydd. A dyna’r dydd y cwrdd yr Iôr â’i briod Ef; ac wrth ei weled, ar amrantiad fe’n newidir. Yr utgorn gân, a’r meirw ddaw yn ôl yn fyw – trwy ei allu, bellach byth i […]

  • Gwenda Jenkins,
  • June 15, 2018