Fy Nuw, Fy Nuw, fy Mhriod wyt a’m Tad, Fy ngobaith oll, a’m hiachawdwriaeth rad, Ti fuost noddfa gadarn i myfi, Gad i mi eto weld dy wyneb Di. Nac aed o’th gof dy ffyddlon amod drud, Yn sicir wnaed cyn rhoi sylfeini’r byd; Ti roist im yno drysor maith di-drai; Gad imi heddiw gael […]
Fy Nuw, uwchlaw fy neall Yw gwaith dy ddwylo i gyd; Rhyfeddod annherfynol Sy ynddynt oll ynghyd: Wrth weled dy ddoethineb, Dy allu mawr, a’th fri, Mi greda’ am iechydwriaeth Yn hollol ynot ti. Fy enaid, gwêl fath noddfa Ddiysgog gadarn yw, Ym mhob rhyw gyfyngderau, Tragwyddol ras fy Nuw: Ac yma boed fy nhrigfan, […]
Fy nymuniad, paid â gorffwys Ar un tegan is y nef; Eto ‘rioed ni welodd llygad Wrthrych tebyg iddo Ef: Cerdda rhagot, ‘Rwyt ti bron a’i wir fwynhau. Ffárwel, ffárwel oll a welaf, Oll sydd ar y ddae’r yn byw; Gedwch imi, ond munudyn, Gael yn rhywle gwrdd â’m Duw: Dyna leinw ‘Nymuniadau oll yn […]
Fyth, fyth rhyfedda’ i’r cariad yn nhragwyddoldeb pell, a drefnodd yn yr arfaeth im etifeddiaeth well na’r ddaear a’i thrysorau, a’i brau bleserau ‘nghyd; fy nghyfoeth mawr na dderfydd yw Iesu, Prynwr byd. Ar noswaith oer fe chwysai y gwaed yn ddafnau i lawr, ac ef mewn ymdrech meddwl yn talu’n dyled fawr; fe yfai’r […]
Gad in fod yn olau clir i’r cenhedloedd, yn olau clir i holl bobloedd daear lawr nes y gwelo’r byd ogoniant d’enw mawr, O llewyrcha drwom ni. Gad in ddod â gobaith d’Air i’r cenhedloedd, y Gair sy’n fywyd i bobloedd daear lawr, nes y gwypo’r byd fod achubiaeth ynot ti, Gair maddeuant, drwom ni. […]
Gadarn Dduw, Frenin nef, ein Gwaredwr ni; Clywaist ti, ac atebaist ein gweddi; Felly derbyn di ein diolch a’n hymrwymiad, Ti yw’r Arglwydd byw, Ti yw’n Duw, Ti yw’r Arglwydd byw, Ti yw’n Duw. Cyfieithiad Awdurdodedig: Arfon Jones, Mighty God: Maggi Dawn © 1986 ac yn y cyfieithiad hwn Thankyou Music/ Gwein. Gan worshiptogether.com songs […]
Galw dy fyddin, o Dduw, Deffra dy bobl drwy’r byd i gyd. Galw dy fyddin o Dduw, I gyhoeddi’th Deyrnas, I gyhoeddi’th Air, I gyhoeddi’th ogoniant di. Ein gobaith a’n dymuniad Yw gweld, drwy bob un gwlad, Dy bobl di ar flaen y gâd. Cyflawni dy gomisiwn Yn un gerbron y Tad; Yn gwbl ymroddedig, […]
Galwad ddaw – clywch y gri, Rhoddwch fawl (i’n) Harglwydd ni; Lluoedd maith cenhedloedd byd, Dathlwch oll waith Duw i gyd. Telyn, salm ac utgorn clir – Datgan maent addoliad gwir; Coed a moroedd lawenhed Talodd Crist ein pris â’i waed. Cenwch gân fel un côr, D’wedwch bawb beth wnaeth ein Iôr; Seiniwch glod, molwch […]
(Merched yn adleisio’r dynion) Galwaf ar yr Arglwydd Dduw, Sydd yn haeddu’r mawl i gyd. Fe’m gwaredir o’m holl elynion. (Pawb) Y Duw Cadarn, bendithiwn nawr ein Craig A boed i Dduw ein hiachawdwriaeth dderbyn moliant. Y Duw Cadarn, bendithiwn nawr ein Craig A boed i Dduw ein hiachawdwriaeth dderbyn moliant. (Pawb) Y Duw Cadarn, […]
Mae’r Arglwydd ein Duw wedi siarad, wedi galw ei bobl i ddod ynghyd, Wrth i’r nef gyhoeddi ei gyfiawnder mae ein Duw yn dod, yn ei holl ysblander. Galwaf arnat Ti. Ti yw fy Nuw, Ti yw fy Nuw. Does dim byd fedra’i roi o’r newydd i Ti, ond galwaf i arnat Ti i fy […]