logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Hyd byth

Rhowch fawl i frenin dae’r a nef; Ei gariad sydd byth bythoedd. Doeth a da, uwch pawb yw Ef; Ei gariad sydd byth bythoedd. Canwch fawl, canwch fawl. Â breichiau cryf a chadarn law; Ei gariad sydd byth bythoedd. Arwain mae trwy siom a braw; Ei gariad sydd byth bythoedd. Canwch fawl, canwch fawl. Canwch […]


Hyfryd eiriau’r Iesu

Hyfryd eiriau’r Iesu, bywyd ynddynt sydd, digon byth i’n harwain i dragwyddol ddydd: maent o hyd yn newydd, maent yn llawn o’r nef; sicrach na’r mynyddoedd yw ei eiriau ef. Newid mae gwybodaeth a dysgeidiaeth dyn; aros mae Efengyl Iesu byth yr un; Athro ac Arweinydd yw efe ‘mhob oes; a thra pery’r ddaear pery […]


Hyfryd lais Efengyl hedd

Hyfryd lais Efengyl hedd sydd yn galw pawb i’r wledd; mae gwahoddiad llawn at Grist, oes, i’r tlawd newynog, trist; pob cyflawnder ynddo cewch; dewch â chroeso, dlodion, dewch. Cyfod, Haul Cyfiawnder llon, cyfod dros y ddaear hon; aed dy lewyrch i bob gwlad, yn dy esgyll dwg iachâd; dos ar gynnydd, nefol ddydd, doed […]


Hyn yw ‘mhleser, hyn yw f’ymffrost

Hyn yw ‘mhleser, hyn yw f’ymffrost, Hyn yw ‘nghysur yn y byd – ‘Mod i’n caru’r addfwyn Iesu; Dyna ‘meddiant oll i gyd: Mwy yw nhrysor Nag a fedd y byd o’r bron. Ac ni allaf fyth fynegi Ped anturiwn, tra fawn byw, Pa mor hyfryd, pa mor felys, Pa mor gryf, ei gariad yw: […]

  • Gwenda Jenkins,
  • June 25, 2015

Hywel Meredydd: Cyflwyniad i fywyd a gwaith Williams, Pantycelyn

Hywel Meredydd: Cyfres o gyflwyniadau byr am fywyd a gwaith William Williams, Pantycelyn (1717-1791)   1. Cyflwyniad i fywyd William Williams, Pantycelyn. (Hyd: 4m 14 eiliad) 2. Emynau Pantycelyn yn tanio eraill: gwaith yr Ysbryd Glân (4:27) 3. Thomas Charles a’r WAW ffactor! (2:23) 4. Deall y profiad ysbrydol: Drws y Society Profiad (4:48) 5. Mwy […]

  • Gwenda Jenkins,
  • February 26, 2017

I blith y ddau neu dri

I blith y ddau neu dri yr awron tyred di, ein gwendid gwêl, rho inni sêl, O Dad, ymwêl â ni: cryfha ein ffydd yn ôl y dydd, Breswylydd mawr y berth, ein llef erglyw, O Iôr, ein llyw, yr esgyrn gwyw gwna eto’n fyw, O Dduw, bydd inni’n nerth. Ein cri, ein Tad, a’n […]


I Dad y trugareddau i gyd

I Dad y trugareddau i gyd rhown foliant, holl drigolion byd; llu’r nef moliennwch, bawb ar gân, y Tad a’r Mab a’r Ysbryd Glân. THOMAS KEN, 1637-1711 cyf. HOWEL HARRIS, 1714-73 (Caneuon Ffydd 15)

  • Gwenda Jenkins,
  • March 10, 2015

I Dad y trugareddau’i gyd

I Dad y trugareddau’i gyd Rhown foliant holl drigolion byd; Llu’r nef moliennwch, bawb ar gân, Y Tad, a’r Mab, a’r Ysbryd Glân. Gogoniant fo i’n Tad ni, Gogoniant fo i’r Mab, Gogoniant fo i’r Ysbryd I dragwyddoldeb mad. “Teilwng yw’r Oen”, yw’r gân o’r nef Dyrchafwn Ef bob un, “Teilwng yw’r Oen” yw’n hateb […]

  • Gwenda Jenkins,
  • June 22, 2015

I dawel lwybrau gweddi

I dawel lwybrau gweddi, O Arglwydd, arwain fi, rhag imi gael nhwyllo gan ddim daearol fri: mae munud yn dy gwmni yn newid gwerth y byd yn agos iawn i’th feddwl O cadw fi o hyd. Pan weli fy amynedd, O Arglwydd, yn byrhau; pan weli fod fy mhryder dros ddynion yn lleihau; rhag im, […]

  • Gwenda Jenkins,
  • April 29, 2015

I Dduw bo’r gogoniant (Cyfieithiad Caneuon Ffydd)

I Dduw bo’r gogoniant, fe wnaeth bethau mawr, rhoi’i Fab o’i fawr gariad dros holl deulu’r llawr, rhoi’i einioes yn Iawn dros ein pechod a wnâi, gan agor drws bywyd i bawb er eu bai. Clod i Dduw! Clod i Dduw! Clywed daear ei lef! Clod i Dduw! Clod i Dduw! Llawenhaed tyrfa gref! O […]