Mae enw Iesu Grist i mi Mor fwyn a llais o’r nef, Mae’n gwneud i’m henaid roddi llam – Ei hyfryd enw Ef. O! Enw’r Iesu, hyfryd yw; Enw fy Mhrynwr i a’m Duw; Enw sy’n gwneud i’m lawenhau Yw hyfryd enw Crist. Mae’n sôn am gariad Un a ddaeth I farw i’m rhyddhau, […]
Mae ffrydiau ‘ngorfoledd yn tarddu o ddisglair orseddfainc y ne’, ac yno’r esgynnodd fy Iesu ac yno yr eiriol efe: y gwaed a fodlonodd gyfiawnder, daenellwyd ar orsedd ein Duw, sydd yno yn beraidd yn erfyn i ni, y troseddwyr, gael byw. Cawn esgyn o’r dyrys anialwch i’r beraidd baradwys i fyw, ein henaid lluddedig […]
Mae fy enaid am ehedeg O’r anialwch tywyll du I ardaloedd perffaith gariad, Mynwes T’wysog nefoedd fry; Gweld ei wedd, profi ei hedd, Nefoedd yw tu yma i’r bedd. Os edrychaf tua’r gogledd, Edrych eilwaith tua’r de, Nid wy’n canfod dim i’w brisio Megis ei ffyddlondeb E’; Pleser llawn, yma gawn, Pur, sylweddol, fore a […]
Mae fy meiau fel mynyddoedd Amlach hefyd yw eu rhi’ Nag yw gwlith y bore wawrddydd, Nag yw sêr y nefoedd fry: Gwaed fy Arglwydd Sydd yn abl i olchi ‘mai. Golchi’r ddu gydwybod aflan Lawer gwynnach eira mân; Gwneud y brwnt, gan’ waith ddifwynodd Yn y domen, fel y gwlân: Pwy all fesur Lled […]
Mae fy nghalon am ehedeg unwaith eto i fyny fry i gael profi’r hen gymdeithas gynt fu rhyngof a thydi; mi a grwydrais anial garw, heb un gradd o olau’r dydd; un wreichionen fach o’th gariad wna fy rhwymau oll yn rhydd. Pe bai’r holl gystuddiau mwya’n gwasgu ar fy enaid gwan, a’r gelynion oll […]
Mae fy nghalon i yn eiddo llwyr i ti: Iesu, arwain fi ar lwybrau Duw. Mae fy nghalon i yn eiddo llwyr i ti: Rhof fy hun yn aberth sanctaidd byw. DYNION Ac fe addolaf fi, MERCHED Fe addolaf fi. DYNION A chanaf am dy gariad di, MERCHED Canaf am dy gariad di, DYNION A […]
Mae gen i ddwylo i’w curo i Dduw, Mae gen i goesau, i neidio i Dduw, Mae gen i ‘sgwyddau i blygu i Dduw, a fy nghorff i gyd i foli fy Nuw. Diolch, diolch, diolch i Ti, Dduw, Diolch, diolch, diolch i Ti, Dduw. Mae gen i glustiau i wrando ar Dduw, Mae gen […]
Mae gobaith sicr yn fy nghalon i, Sy’n rhoddi nerth i ddioddef dyddiau du; Wrth weled mymryn o d’ogoniant yma nawr amheuaeth ffodd o’m tu: Maddeuwyd im pob pechod cas; Mae gobaith nefoedd ynof fi! Fy mraint, fy ngalwad a’m llawenydd pur Yw gwneud d’ewyllys Di. Mae gen i obaith cryf sy’n ’sgafnu maich Yn […]
Mae harmonïau’r nefol gân O flaen ei orsedd mad. Can mil o engyl seinia’n un Mewn côr o fawl i’r Tad. Mwy disglair yw dy olau pur Na’r sêr a’r lloer a’r haul; Dihafal yw Creawdwr byd Ac Ef yw’n cadarn sail. Ni saif dinasoedd ‘ddaear hon Am dragwyddoldeb hir, Ond wrth gynteddau perlog Nef […]
Mae Iesu’n fuddugol, a’i bobol gaiff fyw yn fwy na choncwerwyr drwy gariad Mab Duw; er profi gorthrymder neu newyn neu gledd, ‘does ball ar y cariad agorodd y bedd. Molwch ef! Molwch ef! Mae’r gad wedi troi Molwch ef! Molwch ef! Mae’r gelyn yn ffoi; mae Iesu’n fuddugol, a’i bobol gaiff fyw yn fwy […]