Ni throf fy ŵyneb byth yn ôl i ‘mofyn pleser gau, ond mi a gerddaf tua’r wlad sy a’i phleser yn parhau. Mae holl deganau’r ddaear hon fu gynt yn fawr eu grym, yng ngŵydd fy Iesu’n gwywo i gyd ac yn diflannu’n ddim. Y mae aroglau pur ei ras fel peraroglau’r nef, ac nid […]
Ni welodd llygad dyn erioed, ni chlywodd clust o dan y rhod am neb cyffelyb iddo ef: O Rosyn Saron hardd ei liw: pwy ddyd i maes rinweddau ‘Nuw? Efe yw bywyd nef y nef. O f’enaid, edrych arno nawr, yn llanw’r nef, yn llanw’r llawr; yn holl ogoniant dŵr a thir; nid oes, ni […]
Ni wn paham fod gwrthrych mawl Angylion Yn rhoi ei fryd ar achub dynol ryw; Pam bu i’r Bugail geisio yr afradlon I’w gyrchu adref ‘nôl i gorlan Duw? Ond hyn a wn, ei eni Ef o Forwyn, A phreseb Bethlem roddwyd iddo’n grud, A rhodiodd isel lwybrau Galilea, Ac felly rhoddwyd Ceidwad, Ceidwad gwiw […]
Ni wn paham y rhoddwyd gras rhyfeddol Duw i mi; Na pham y’m prynwyd iddo’i Hun er maint fy meiau lu: Ni wn i sut y rhoddodd Ef achubol ffydd i’m rhan, na sut, trwy gredu yn ei air, daeth hedd i’m calon wan: Ond fe wn i bwy y credais, a’m hyder ynddo sydd […]
Ni yw y bobl elwir wrth d’enw di. Fe lefwn arnat nawr, Arglwydd clyw ein cri; Yn ein gwlad sydd mor dywyll, llewyrcha trwom ni. Wrth i’n geisio d’wyneb di, O! clyw ein cri; Côd dy eglwys, cyffwrdd Gymru, Boed i’th deyrnas ddod. Côd dy eglwys, cyffwrdd Gymru, Gwneler dy ewyllys di. Cyfieithiad Awdurdodedig: Arfon […]
Nid ar fore hafddydd tawel gwelwyd Iesu’n rhodio’r don, ond ar noswaith o gyfyngder pan oedd pryder dan bob bron; ni fu nos na thywydd garw allsai gadw f’Arglwydd draw: ni fu neb erioed mor isel na châi afael yn ei law. Ganol nos pan oedd mewn gweddi cofiai am eu gofid hwy; mae yn […]
Nid gosgordd na brenhinol rwysg Gaed i Frenin Nef, Na gwylnos weddi dan y sêr Ar ei farw Ef; Na baner bri ar hanner mast Er gwarth y Groes, Na blodau’n perarogi’r ffordd Arweiniai at Ei fedd ar y Pasg cyntaf un. Dim torchau’n deyrnged ar y llawr – Gwatwar milwyr gaed, A dim ond […]
Nid oes eisiau un creadur Yn bresennol lle bo Duw; Mae E’n fwyd, y mae E’n ddiod, Nerth fy natur egwan yw: Pob hapusrwydd Sydd yn aros ynddo’i Hun. Gyrrwch fi i eithaf twllwch, Hwnt i derfyn oll sy’n bod, I ryw wagle dudew anial, Na fu creadur ynddo ‘rioed; Hapus hapus Fyddaf yno gyda […]
Nid oes enw gwell na Iesu, enw’r hwn sydd yn gwaredu, deuwn ato yn un teulu, plygwn iddo ef. Deued ato blant y gwledydd, iddynt hwy y mae’n arweinydd, dilyn Iesu sy’n llawenydd, O canlynwn ef. Bydded i bobol pob gwlad a thref godi eu lleisiau yn llon eu llef, chwydded y gân gan dyrfa […]
Nid oes gobaith i mi mwy Tra bo ‘mhechod yn rhoi clwy, Tra bo ‘nghalon heb ddim gras Ar ymffrostio yn cael blas. Sanctaidd Dad, O clyw fy llef, Rho im hiraeth am y nef, Dal fi yn y cariad drud Nes y byddwyf lân i gyd. Nid oes neb a’m deil i’r lan Tra […]