Deued dyddiau o bob cymysg Ar fy nherfynedig oes; Tywynned haul oleudeg llwyddiant, Neu ynteu gwasged garw groes, – Clod fy Nuw gaiff lanw ‘ngenau Trwy bob tymestl, trwy bob hin; A phob enw gaiff ei lyncu Yn ei enw Ef ei hun. Ynddo’n unig ‘rwy’n ymddiried, Hollalluog yw fy Nuw; A ffieiddio’r wyf bob […]
Deued pechaduriaid truain yn finteioedd mawr ynghyd, doed ynysoedd pell y moroedd i gael gweld dy ŵyneb-pryd, cloffion, deillion, gwywedigion, o bob enwau, o bob gradd, i Galfaria un prynhawngwaith i weld yr Oen sydd wedi ei ladd. Dacw’r nefoedd fawr ei hunan nawr yn dioddef angau loes; dacw obaith yr holl ddaear heddiw’n hongian […]
(Diogelwch yng Nghrist) Deued Satan â’i holl rwydau Deued â’i bicellau tân, Casgled gyfoeth mawr y ddaear, A gosoded hwy o’m blaen; Byth ni’m temtia, Tra fo’m henaid yn dy gôl. Doed eilunod o bob rhywiau, Doed y gwrthrych teca’i bryd, Doed pleserau gwag brenhinoedd I anturio denu ‘mryd; Ofer hynny Tra fo gennyf wrthrych […]
Deui atom yn ein gwendid gan ein codi ar ein traed, drwy dy Ysbryd, drwy dy bobol, sefyll yr wyt ti o’n plaid. Deui atom yn ein trallod gyda chysur yn dy lais, drwy dy Ysbryd, drwy dy bobol, parod wyt i wrando’n cais. Deui atom mewn cymdogion am it weld ein lludded ni: ti […]
Deuwch gyda mi draw i dŷ fy Nhad, draw i dŷ fy Nhad, draw i dŷ fy Nhad; deuwch gyda mi draw i dŷ fy Nhad lle cawn lawenhau. Nid yw’r ffordd yn bell draw i dŷ fy Nhad, draw i dŷ fy Nhad, draw i dŷ fy Nhad; nid yw’r ffordd yn bell draw […]
Deuwch i ganu, deuwch i foli y Ceidwad a’n carodd ni; plant bach y byd sy’n ei ddyled o hyd, mae ef yn ein caru i gyd. Tosturio wnaeth wrth bawb yn ddiwahân, rhown iddo ein moliant a’n cân, deuwch i ganu, deuwch i foli am iddo ein caru ni. Deuwch i ganu, deuwch i […]
Deuwch, hil syrthiedig Adda, Daeth y Jiwbil fawr o hedd: Galw’r ydys bawb o’r enw I fwynhau tragwyddol wledd; Bwrdd yn llawn, yma gawn, O foreuddydd hyd brynhawn. Ceisiwch wisgoedd y briodas, Gwisgoedd hyfryd, hardd eu lliw; Nid oes enw teilwng arnynt, Ond cyfiawnder pur fy Nuw; Lliain main ydyw’r rhain, Sydd yn cuddio pob […]
Deuwn ger dy fron yn awr i’th glodfori, Iesu mawr; diolch iti am yr haf a ffrwythau y cynhaeaf. Rhoddwn iti foliant glân, diolch, Arglwydd, yw ein cân; clod a mawl a fo i ti am gofio’r byd eleni. Diolch iti, Arglwydd Dduw, am gynhaliaeth popeth byw, am gynhaeaf yn ei bryd i borthi plant […]
Deuwn i ganu am afon mor gref, – Cariad yw Duw – Lifodd o galon ein Tad yn y nef Atom i fyd dynolryw; Cariad mor rhad; Cariad â’i gartref ym mynwes y Tad. Er mwyn cyhoeddi’r Efengyl i’n byd Daeth Iesu pur, Gyda’r colledig i drigo cyhyd, Rhannodd eu gofid a’u cur; Ceisiodd hwy […]
Deuwn yn llon at orsedd Duw, ein Ceidwad digyfnewid yw; gwyrth ei drugaredd sydd o hyd ar waith ynghanol helbul byd. Gwir yw y gair, fe ddeil yr Iôr i agor llwybyr drwy y môr; lle byddo ffydd fe ddyry ef ddŵr pur o’r graig a manna o’r nef. Deil i waredu, heb lesgau, ei […]