Dowch, blant bychain, dowch i foli’r Iesu, cariad yw, cariad yw; dowch, blant bychain, dowch i foli’r Iesu, cariad yw, cariad yw. Daeth i’r byd bob cam i lawr o’r nefoedd er ein mwyn, er ein mwyn; daeth i’r byd bob cam i lawr o’r nefoedd er ein mwyn, er ein mwyn. Fe gymerodd blant […]
Down i’th wyddfod, Dduw, kwmbayah, down yn unfryd, Dduw, kwmbayah, i’th foliannu, Dduw, kwmbayah, O Dduw, kwmbayah. Gwna ni’n addfwyn, Dduw, kwmbayah, gwna ni’n un, O Dduw, kwmbayah, wrth dy allor, Dduw, kwmbayah, O Dduw, kwmbayah. Arnom ni, O Dduw, kwmbayah, boed dy wên, O Dduw, kwmbayah, golau d’air, O Dduw, kwmbayah, O Dduw, kwmbayah. […]
Dragwyddol Dad, dy gariad mawr sy’n gwylied drosom ar bob awr; ar fôr a thir, ar fryn a glan, ym merw’r dref, mewn tawel fan; dy nawdd rho heddiw i’r rhai sydd yn arddel ynot ti eu ffydd. Dragwyddol Geidwad o’th fawr ras ddioddefaist lid gelynion cas, ar dy drugaredd nid oes ball a’th eiriol, […]
Dragwyddol Dduw, sy’n Dad holl deulu’r llawr, erglyw ein cri yn ein cyfyngder mawr, yn nos ein hadfyd rho in weled gwawr dy heddwch di. Dy ysig blant sy’n ebyrth trais a brad, a dicter chwerw ar wasgar drwy bob gwlad, a brwydro blin rhwng brodyr; O ein Tad, erglyw ein cri. Rhag tywallt gwaed […]
Dragwyddol, hollalluog Iôr, Creawdwr nef a llawr, O gwrando ar ein gweddi daer ar ran ein byd yn awr. O’r golud anchwiliadwy sydd yn nhrysorfeydd dy ras, diwalla reidiau teulu dyn dros ŵyneb daear las. Yn erbyn pob gormeswr cryf O cymer blaid y gwan; darostwng ben y balch i lawr a chod y tlawd […]
Draw yn nhawelwch Bethlem dref daeth baban bach yn Geidwad byd; doethion a ddaeth i’w weled ef a chanodd angylion uwch ei grud: draw yn nhawelwch Bethlem dref daeth baban bach yn Geidwad byd. Draw yn nhawelwch Bethlem dref nid oedd un lle i Geidwad byd; llety’r anifail gafodd ef am nad oedd i’r baban […]
Draw, draw ymhell mae gwyrddlas fryn tu faes i fur y dref lle’r hoeliwyd Iesu annwyl gynt o’i fodd i’n dwyn i’r nef. Ni wyddom ni, ni allwn ddweud faint oedd ei ddwyfol loes, ond credu wnawn mai drosom ni yr aeth efe i’r groes. Bu farw er mwyn maddau bai a’n gwneud bob un […]
Dringed f’enaid o’r gwastadedd, o gaethiwed chwantau’r dydd, i breswylio’r uchelderau dan lywodraeth gras yn rhydd. Yno mae fy niogelwch rhag holl demtasiynau’r llawr; caf yn gadarn amddiffynfa gestyll cryf y creigiau mawr. Yno fe gaf ffrydiau dyfroedd, bara a rodder imi’n rhad; gweld y Brenin yn ei degwch fydd i’m llygaid yn fwynhad; yn […]
Dros bechadur buost farw, dros bechadur, ar y pren, y dioddefaist hoelion llymion nes it orfod crymu pen; dwed i mi, ai fi oedd hwnnw gofiodd cariad rhad mor fawr marw dros un bron â suddo yn Gehenna boeth i lawr? Dwed i mi, a wyt yn maddau cwympo ganwaith i’r un bai? Dwed a […]
Dros Gymru’n gwlad, O Dad, dyrchafwn gri, y winllan wen a roed i’n gofal ni; d’amddiffyn cryf a’i cadwo’n ffyddlon byth, a boed i’r gwir a’r glân gael ynddi nyth; er mwyn dy Fab a’i prynodd iddo’i hun, O crea hi yn Gymru ar dy lun. O deued dydd pan fo awelon Duw yn chwythu […]