logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Dy deyrnas, Dduw Dad, yw’r cyfanfyd i gyd

Dy deyrnas, Dduw Dad, yw’r cyfanfyd i gyd, dy ddwyfol lywodraeth sy’n cynnal pob byd; teyrnasoedd y ddaear, darfyddant bob un, tragwyddol dy deyrnas fel tithau dy hun. Dy deyrnas a ddaeth yn dy Fab, Iesu Grist, i fyd llawn anobaith, yn gaeth ac yn drist; cyfinawnder a chariad dan goron ei groes, Efengyl y […]

  • Gwenda Jenkins,
  • March 11, 2016

Dy garu di, O Dduw

Dy garu di, O Dduw, dy garu di, yw ‘ngweddi tra bwyf byw, dy garu di; daearol yw fy mryd: O dyro nerth o hyd, a mwy o ras o hyd i’th garu di. Fy olaf weddi wan fo atat ti, am gael fy nwyn i’r lan i’th gartref di; pan fwyf yn gado’r byd, […]

  • Gwenda Jenkins,
  • March 27, 2015

Dy glwyfau yw fy rhan

Dy glwyfau yw fy rhan, Fy nhirion Iesu da; Y rhain yw nerth fy enaid gwan, Y rhain a’m llwyr iachâ: Er saled yw fy nrych, Er tloted wyf yn awr, Fy llenwi gaf â llawnder Duw, A’m gweled fel y wawr. Mi brofais Dduw yn dda, Fy nhirion raslon Dad, Yn maddau im fy meiau […]

  • Gwenda Jenkins,
  • June 23, 2015

Dyma babell y cyfarfod

Dyma babell y cyfarfod, dyma gymod yn y gwaed, dyma noddfa i lofruddion, dyma i gleifion feddyg rhad; dyma fan yn ymyl Duwdod i bechadur wneud ei nyth, a chyfiawnder pur y nefoedd yn siriol wenu arno byth. Pechadur aflan yw fy enw, o ba rai y penna’n fyw; rhyfeddaf fyth, fe drefnwyd pabell im […]

  • Gwenda Jenkins,
  • March 13, 2015

Dyma Feibil annwyl Iesu

Dyma Feibil annwyl Iesu, dyma rodd deheulaw Duw; dengys hwn y ffordd i farw; dengys hwn y ffordd i fyw; dengys hwn y golled erchyll gafwyd draw yn Eden drist, dengys hwn y ffordd i’r bywyd drwy adnabod Iesu Grist. CASGLIAD T. OWEN, 1820 priodolir i RICHARD DAVIES, 1793-1826 (Caneuon Ffydd 198)

  • Gwenda Jenkins,
  • March 11, 2015

Dyma Frawd a anwyd inni

Dyma Frawd a anwyd inni erbyn c’ledi a phob clwy’; ffyddlon ydyw, llawn tosturi, haeddai ‘i gael ei foli’n fwy: rhyddhawr caethion, Meddyg cleifion, Ffordd i Seion union yw: ffynnon loyw, Bywyd meirw, arch i gadw dyn yw Duw. ?ANN GRIFFITHS, 1776-1805 (Caneuon Ffydd 335)

  • Gwenda Jenkins,
  • March 13, 2015

Dyma gariad fel y moroedd

Dyma gariad fel y moroedd, tosturiaethau fel y lli: T’wysog bywyd pur yn marw, marw i brynu’n bywyd ni. Pwy all beidio â chofio amdano? Pwy all beidio â thraethu’i glod? Dyma gariad nad â’n angof tra bo nefoedd wen yn bod. Ar Galfaria yr ymrwygodd holl ffynhonnau’r dyfnder mawr, torrodd holl argaeau’r nefoedd oedd […]

  • Gwenda Jenkins,
  • January 9, 2015

Dyma gariad, pwy a’i traetha?

Dyma gariad, pwy a’i traetha? Anchwiliadwy ydyw ef; dyma gariad, i’w ddyfnderoedd byth ni threiddia nef y nef; dyma gariad gwyd fy enaid uwch holl bethau gwael y llawr, dyma gariad wna im ganu yn y bythol wynfyd mawr. Ymlochesaf yn ei glwyfau, ymgysgodaf dan ei groes, ymddigrifaf yn ei gariad, cariad mwy na hwn […]

  • Gwenda Jenkins,
  • March 11, 2015

Dyma gyfarfod hyfryd iawn

Dyma gyfarfod hyfryd iawn, myfi yn llwm, a’r Iesu’n llawn; myfi yn dlawd, heb feddu dim, ac yntau’n rhoddi popeth im. Ei ganmol bellach wnaf o hyd, heb dewi mwy tra bwy’n y byd; dechreuais gân a bery’n hwy nag y ceir diwedd arni mwy. WILLIAM WILLIAMS, 1717-91 (Caneuon Ffydd 302)

  • Gwenda Jenkins,
  • March 4, 2015

Dyma iachawdwriaeth hyfryd

Dyma iachawdwriaeth hyfryd wedi ei threfnu gan fy Nuw, ffordd i gadw dyn colledig, balm i wella dynol-ryw: dyma ddigon i un euog fel myfi. Wele foroedd o fendithion, O am brofi eu nefol flas: ni bydd diwedd byth ar lawnder iachawdwriaeth dwyfol ras; dyma ddigon, gorfoledda f’enaid mwy. WILLIAM JONES, 1784-1847 (Caneuon Ffydd 182)

  • Gwenda Jenkins,
  • March 11, 2015