F’enaid, gwêl i ben Calfaria, Draw’r rhyfeddod mwya’ ‘rioed; Crëwr nefoedd wen yn marw, Trenga’r ddraig o dan ei droed; Clywaf lais yn awr, debygwn, Egyr byrth y nefoedd fry; F’enaid, cân, fe ddarfu ofnau, Prynwyd nefoedd wen i mi. Tyrd i fyny o’r anialwch, Wedi aros yno’n hir, Sypiau grawnwin mawrion aeddfed, Sy’n dy […]
F’enaid, gwêl i Gethsemane, edrych ar dy Brynwr mawr yn yr ing a’r ymdrech meddwl, chwys a gwaed yn llifo i lawr. Dyma’r cariad mwyaf rhyfedd, mwyaf rhyfedd fu erioed! Yn yr ardd, pan ddaliwyd Iesu, fe atebodd drosom ni, “Gadewch iddynt hwy fynd ymaith, yn eu lle cymerwch fi!” Dyma’r cariad mwyaf rhyfedd, mwyaf […]
F’enaid, mola Dduw’r gogoniant, dwg dy drysor at ei draed; ti a brofodd ei faddeuant, ti a olchwyd yn y gwaed, moliant, moliant dyro mwy i’r gorau gaed. Mola ef, a’i rad drugaredd lifodd at ein tadau’n lli; mola ef, ei faith amynedd a’i dosturi atat ti; moliant, moliant, am ei ddoniau rhad, di-ri’. A […]
Fe chwythodd yr awel ar Gymru drachefn, clodforwn di, Arglwydd, fod gwyrth yn dy drefn: dihunaist ni’r meirwon, a’n codi drwy ffydd, a throi ein hwynebau at degwch y dydd. Molwn di, molwn di’n un teulu ynghyd, molwn di, molwn di, a’n cân dros y byd; cydweithiwn, cydgerddwn, cydfolwn gan fyw i roi iti’r cyfan, […]
Cerddwn Ymlaen Fe ddaeth ddoe â’i siâr o ofid a daeth pryder yn ei dro, gwelwyd hefyd haul yn gwenu a llawenydd yn ein bro: ond drwy’r lleddf a’r llon fe welwyd llaw yr Iôr yn llywio’n bywyd i’r yfory sy’n obaith gwiw. Mae’r yfory heb ei brofi, mae ei stôr o hyd dan sêl; […]
Fe dorrodd y wawr, sancteiddier y dydd, fe ddrylliwyd yr iau, mae’r Cadarn yn rhydd, fe gododd y Ceidwad, boed moliant i Dduw, fe goncrwyd marwolaeth, mae’r Iesu yn fyw! Cyhoedder y gair, atseinier y sôn, a thrawer y salm soniarus ei thôn, dywedwch wrth Seion alarus a gwyw am sychu ei dagrau, mae’r Iesu […]
Fe garodd Iesu’r eiddo hyd eitha’r olaf awr, rhoes fara’i fywyd erddo a gwin ei galon fawr; a minnau gofiaf heddiw yr ing a’r chwysu drud a’r cariad nad yw’n edliw ei fai i euog fyd. Fe welir dwyfol drallod uwch byd a’i gamwedd trist, a’r gras sy’n drech na phechod yn angau Iesu Grist; […]
Fe rodiai Iesu un prynhawn yng Ngalilea mewn rhyw dref, a’r mamau’n llu a ddug eu plant yn eiddgar ato ef. Ac yn ei freichiau cymerth hwy a’i fendith roddodd i bob un; “Gadewch i’r plant,” medd ef yn fwyn, “ddod ataf fi fy hun.” “Ac na waherddwch iddynt byth, cans teyrnas nef sydd eiddynt […]
Fe roed imi ddymuniadau nad oes dim o fewn y byd, yn y dwyrain na’r gorllewin a all hanner llanw ‘mryd: tragwyddoldeb, yno llenwir fi yn llawn. Mi gaf yno garu a fynnwyf, cariad perffaith, pur, di-drai; cariad drwy ryw oesoedd mawrion nad â fymryn bach yn llai: môr diderfyn byth yn berffaith, byth yn […]
Fel y rhed llifogydd mawrion fel y chwyth yr awel gref, felly bydded f’ocheneidiau yn dyrchafu tua’r nef; gwn, fy Nuw na elli atal, gwn na elli roi nacâd o un fendith is y nefoedd ag sydd imi er iachâd F’enaid wrth y nef sy’n curo, yno mae yn pledio’n hy, ac ni osteg oni […]