DYNION: Fe ddaeth a fi at fyrddau ei fendith, MERCHED: Fe ddaeth a fi at fyrddau ei fendith, DYNION: Fe ddaeth a fi at fyrddau ei fendith, MERCHED: Fe ddaeth a fi at fyrddau ei fendith, PAWB: Baner cariad drosof fi roes Ef. DYNION: Eiddof fi f’anwylyd ac yntau fi, MERCHED: Eiddof fi f’anwylyd ac […]
Cerddwn Ymlaen Fe ddaeth ddoe â’i siâr o ofid a daeth pryder yn ei dro, gwelwyd hefyd haul yn gwenu a llawenydd yn ein bro: ond drwy’r lleddf a’r llon fe welwyd llaw yr Iôr yn llywio’n bywyd i’r yfory sy’n obaith gwiw. Mae’r yfory heb ei brofi, mae ei stôr o hyd dan sêl; […]
Fe dorrodd y wawr, sancteiddier y dydd, fe ddrylliwyd yr iau, mae’r Cadarn yn rhydd, fe gododd y Ceidwad, boed moliant i Dduw, fe goncrwyd marwolaeth, mae’r Iesu yn fyw! Cyhoedder y gair, atseinier y sôn, a thrawer y salm soniarus ei thôn, dywedwch wrth Seion alarus a gwyw am sychu ei dagrau, mae’r Iesu […]
Fe garodd Iesu’r eiddo hyd eitha’r olaf awr, rhoes fara’i fywyd erddo a gwin ei galon fawr; a minnau gofiaf heddiw yr ing a’r chwysu drud a’r cariad nad yw’n edliw ei fai i euog fyd. Fe welir dwyfol drallod uwch byd a’i gamwedd trist, a’r gras sy’n drech na phechod yn angau Iesu Grist; […]
Fe gyfaddefwn Iôr ein bod ni yn wan, O! mor wan, ond rwyt ti’n gryf; Ac er na feddwn ddim i roi wrth dy draed, Fe ddown atat ti, gan ddweud: ‘Helpa di ni.’ Fe gyfaddefwn… Calon doredig gydag ysbryd gwylaidd, Ni wrthodaist erioed; Fe gur dy galon gyda cherrynt cariad, Llifa’n afon fawr, drwy […]
Fe roddaist heibio orsedd nef, I gerdded llwybr tua’r bedd, Dioddef trais y rhai a greaist ac a geraist. Dygaist faich f’euogrwydd i – Marw ar groes, ond codaist ti; Nawr teyrnasu rwyt O’r nef yn ddyrchafedig. O galluoga fi i’th foli di, Prynaist fi a’th waed ar Galfari; Cyffesaf a charaf di’n dragwyddol. Ti […]
Fe roddodd ei hun, dioddefodd loes; Drosof fi bu farw ar y groes. Cariad a gras a nerth Ysbryd Duw; Bu farw Crist er mwyn im gael byw. Ie, calon o fawl sy’n canu y gân. Y galon o fawl a roddodd ar dân. Ie, calon o fawl rydd ei Ysbryd Glân, Fy nghalon o […]
Fe roddodd i mi fantell o fawl I guddio fy ysbryd trist a llesg. Fe roddodd i mi fantell o fawl I guddio fy ysbryd trist a llesg. Fe roddodd… Fe roes im goron lle buodd lludw, Ac olew gwerthfawr yn lle’r holl alar; O gorfoleddaf! Yn fodlon rhof fy hun i Dduw. Fe roddodd… […]
Fe roddwyd mab – Rhyfeddol ydyw Ef; Fe roddwyd mab – Cynghorwr dae’r a nef; Y Cadarn Dduw, Tad Tragwyddoldeb ydyw, Tywysog Hedd, oleua nef y nef. Y Cadarn Dduw, Tad Tragwyddoldeb ydyw, Tywysog Hedd, oleua nef y nef. (Geiriau eraill ar yr un dôn – ‘Dros Gymru’n Gwlad’ – Lewis Valentine) anad. cyf. Arfon […]
Fe rodiai Iesu un prynhawn yng Ngalilea mewn rhyw dref, a’r mamau’n llu a ddug eu plant yn eiddgar ato ef. Ac yn ei freichiau cymerth hwy a’i fendith roddodd i bob un; “Gadewch i’r plant,” medd ef yn fwyn, “ddod ataf fi fy hun.” “Ac na waherddwch iddynt byth, cans teyrnas nef sydd eiddynt […]