logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Dyma gariad fel y moroedd

Dyma gariad fel y moroedd, tosturiaethau fel y lli: T’wysog bywyd pur yn marw, marw i brynu’n bywyd ni. Pwy all beidio â chofio amdano? Pwy all beidio â thraethu’i glod? Dyma gariad nad â’n angof tra bo nefoedd wen yn bod. Ar Galfaria yr ymrwygodd holl ffynhonnau’r dyfnder mawr, torrodd holl argaeau’r nefoedd oedd […]

  • Gwenda Jenkins,
  • January 9, 2015

Duw mawr y nefoedd faith

Duw mawr y nefoedd faith, mor bur, mor dirion yw, mor rhyfedd yw ei waith yn achub dynol-ryw: sancteiddier enw’r Arglwydd Iôr drwy’r ddaear faith a’r eang fôr. Daioni dwyfol Iôn a welir ymhob lle, amdano eled sôn o’r dwyrain draw i’r de: sancteiddier enw’r Arglwydd Iôr drwy’r ddaear faith a’r eang fôr. Sôn am […]

  • Gwenda Jenkins,
  • January 9, 2015

Duw’n darpar o hyd at raid dynol-ryw

Duw’n darpar o hyd at raid dynol-ryw yw’n cysur i gyd a’n cymorth i fyw; pan sycho ffynhonnau cysuron y llawr ei heddwch fel afon a lifa bob awr. Er trymed ein baich, ni gofiwn o hyd mor gadarn ei fraich, mor dyner ei fryd; y cof am Galfaria ac aberth y groes drwy ras […]


Duw Abram, molwch ef

Duw Abram, molwch ef, yr hollalluog Dduw, yr Hen Ddihenydd, Brenin nef, Duw, cariad yw. I’r Iôr, anfeidrol Fod, boed mawl y nef a’r llawr; ymgrymu wnaf, a rhof y clod i’r enw mawr. Duw Abram, molwch ef; ei hollddigonol ddawn a’m cynnal ar fy nhaith i’r nef yn ddiogel iawn; i eiddil fel myfi […]


Dywed air ac fe’n hiacheir

Dywed air ac fe’n hiacheir, Ti yw’r Ffisigwr dwyfol Liniara bob poen. Dywed air ac fe’n rhyddheir, Fe ddryllir y cadwyni Sy’n ein dal ni mor gaeth, Dywed air. Dywed air, llonydda fi; Dywysog ein tangnefedd, Tawela bob storm. Dywed air, diwalla fi, Rho imi’r dyfroedd bywiol Dry’n ffynnon lân o’m mewn. Dywed air. Syrthiodd […]


D’wed wrth bawb, cyfododd yr Iesu

D’wed wrth bawb, cyfododd yr Iesu, Gad i’w fawl gwmpasu’r holl fyd; Dos a d’wed wrth bobloedd y gwledydd Fod Iesu Grist yn fyw.   Dod i’r preseb, mynd i’r bedd, Dod i’r stabal, mynd i’r groes. Fe roes ei fywyd Ef yn aberth drosom oll; Fe ddaeth o’i orsedd fry i gadw dynion coll, […]


Does ‘na neb fel Ti

Does ’na neb fel Ti, Does ’na neb fel Ti, Does ’na neb fel Ti Iesu. O dy aberth pan est ti i Galfari. O dy gariad ar y groes drosof fi. ©2008 Andy Hughes Singable English translation: There is none like You, There is none like You, There is none like You Jesus. O your sacrifice poured out at Calvary. O Your love shown on the cross, Lord, for me.

  • MLC_Admin,
  • January 1, 1970

Dinas sydd yn disgleirio

Dinas sydd yn disgleirio Gyda harddwch Oen ein Duw. Mae ‘na ffordd, cawn fynd yno, Ein tragwyddol gartref yw. O’th blegid di, o’th blegid di, Fe’n ceraist yn rhad, Fe roddaist dy waed. Ni fydd poen, ni fydd gofid, Ni fydd wylo, ni fydd clwy. Derfydd drwg, derfydd dioddef, A marwolaeth ni bydd mwy. O’th […]

  • MLC_Admin,
  • January 1, 1970

Dyrchafaf Glod

Dyrchafaf glod i’r Arglwydd Dduw; Moliannu wnaf tra byddaf byw. Teyrnasu mae Efe mewn moliant yn y nef; Mawrygaf Iesu, yr Arglwydd Dduw. Cyfieithiad Cymraeg Awdurdodedig: Meri Davies (All Hail the Lamb gan Dave Bilbrough)  Hawlfraint © 1987 ac yn y cyfieithiad hwn Thankyou Music/ Gwein. gan worshiptogether.com songs ac eithrio DU ac Ewrop, gwein. […]

  • MLC_Admin,
  • January 1, 1970

Dro ar ôl tro

Dro ar ôl tro Atat dof yn ôl; Cofio’r cariad cyntaf. Dro ar ôl tro Bywyd roist i mi Fel gwlith yn y bore. Trugarog, llawn gras Araf i ddigio; Pob dieithryn, o Dduw, Sy’n profi dy groeso. Dro ar ôl tro, Dro ar ôl tro. Cyfieithiad Awdurdodedig: Arfon Jones, Time and again: Caroline Bonnett, […]