Iesu, gwyddost fy nghystuddiau, ‘R wyt yn rhifo pob yr un; Pob rhyw wradwydd, pob rhyw groesau, Dioddefaist hwynt dy Hun; Dal fi i fyny Man bo ‘meichiau’n fwyaf trwm. Er dy fod Di heddiw’n eistedd Yn ngogoniant nef y nef, Mewn goleuni cyn ddisgleiried Na ellir nesu ato ef, ‘R wyt yn edrych Ar […]
I ti, O Dad addfwynaf, fy ngweddi a gyflwynaf yn awr ar derfyn dydd: O derbyn di fy nghalon, mewn hawddfyd a threialon yn gysgod bythol imi bydd. Pob gras tydi a feddi i wrando ar fy ngweddi, clyw nawr fy llef, O Dad; na chofia fy ffaeleddau, a maddau fy nghamweddau, dy fendith, Arglwydd, […]
I blith y ddau neu dri yr awron tyred di, ein gwendid gwêl, rho inni sêl, O Dad, ymwêl â ni: cryfha ein ffydd yn ôl y dydd, Breswylydd mawr y berth, ein llef erglyw, O Iôr, ein llyw, yr esgyrn gwyw gwna eto’n fyw, O Dduw, bydd inni’n nerth. Ein cri, ein Tad, a’n […]
Diolch am yr Ysgol Sul Iesu’r athro clyw ein diolch Am bob gwers a gawsom ni Yn ein helpu ni i ddysgu Mor arbennig ydwyt ti. Yn yr Ysgol Sul y clywsom Am dy air, dy ddysg a’th ddawn, A bod modd i ninnau ddathlu Bod yn rhan o’th deulu llawn. Helpa ni i weld […]
Ioan 10 Iesu ti yw drws pob gobaith, Ti yw’r ffordd ymlaen at Dduw, Drwy dy ddilyn, gwyddom ninnau Er ein beiau, y cawn fyw. Fel y bu i’r defaid ddilyn Ôl dy droed, dros lwybrau maith, Credwn mai diogel fyddwn Er peryglon mwya’n taith. Ti yw bugail mawr y defaid, Sydd o hyd yn […]
Iesu hawddgar, rho dy feddwl anhunanol ynof fi, fel y parchaf eiddo eraill megis ag y gwnaethost ti: gostyngedig fuost beunydd ac yn ddibris buost fyw; dyrchafedig wyt ym mhobman am ymwadu â ffurf Duw. Gwn dy wneuthur ar lun dynion; ar ffurf gwas y treuliaist d’oes a’th ddarostwng di dy hunan, ufuddhau hyd angau’r […]
Iesu ddywedodd, “Fi yw y bara, bara bywyd dynol-ryw wyf fi, bara bywyd dynol-ryw wyf fi, bara bywyd dynol-ryw wyf fi.” Iesu ddywedodd, “Fi yw y drws, y ffordd a’r drws i’r tlawd wyf fi.” Iesu ddywedodd, “Fi yw’r goleuni, gwir oleuni’r byd wyf fi.” Iesu ddywedodd, “Fi yw y bugail, bugail da y defaid […]
I ddyddiau’r glanio ar y lloer y’n ganed, Iôr, bob un, a gwelsom wyrthiau eraill drwy y ddawn a roist i ddyn. Ond dyro weled gwyrthiau mwy – cael sathru dan ein troed yr afiechydon creulon, cry’ sy’n blino’r byd erioed. Rho inni’n fuan weled dydd na cheir, drugarog Dduw, na newyn blin na thlodi […]
Moliannwn ein Tad yn y nefoedd, cynlluniwr y cread i gyd, Creawdwr y sêr a’u niferoedd, Cynhaliwr holl fywyd y byd; ei enw sydd fawr drwy’r nefoedd a’r llawr, ymuned plant dynion i’w foli yn awr. Mawrygwn y Mab, ein Gwaredwr a ddaeth yn y cnawd atom ni, a rodiodd yn isel ei gyflwr a […]
Iesu, Geidwad bendigedig, ffrind yr egwan a’r methedig, tyner ydwyt a charedig; rho dy ras yn nerth i ni. Iesu, buost gynt yn faban yn y llety tlawd, anniddan; Brenin nef a daear weithian, dirion Arglwydd, ydwyt ti. Iesu, drosom buost farw ar y croesbren creulon, garw: dirfawr werth yr aberth hwnnw egyr byrth y […]