Iôr anfeidrol, yn dy gwmni daw gorfoledd imi’n llawn, ymollyngaf yn dy gariad ac ymgollaf yn dy ddawn; dy gadernid sy’n fy nghynnal, mae dy ddoniau yn ddi-ri’, cyfoeth ydwyt heb ddim terfyn, mae cyflawnder ynot ti. Iôr anfeidrol, yn dy gwmni mae fy nos yn troi yn ddydd, mae rhyfeddod dy oleuni heddiw yn […]
Iesu, Iesu, Arglwydd fy nghân, Ar d’alwad dyner cerddais yn rhydd; Derbyn fy niolch yn newydd bob dydd, Derbyn fy oes yn fawlgan i ti. Iesu, Iesu, cymer fy oes: Iesu, Iesu, rhoddaf i ti Bopeth, pob awr, ti biau hwy oll: Iesu fy Ngheidwad, ‘r eiddot wyf fi. Iesu, Iesu, rho imi’r ddawn O […]
Iesu, ‘Mrenin mawr a’m Priod, Bydd wrth raid Imi’n blaid I orchfygu pechod. Tra fwy’n trigo’n yr anialwch, Gweld yn wir D’wyneb pur Yw fy ngwir ddiddanwch. Iesu, aethost Ti â’m calon; F’enaid cu’n Llechu sy’n Ddifrad rhwng dy ddwyfron. Pâr im aros mwy’n dy freichiau: Boed fy nyth Dedwydd byth Yn dy ddilyth glwyfau. […]
Iesu ei Hunan yw fy mywyd – Iesu’n marw ar y Groes, Y trysorau mwyaf feddaf Yw ei chwerw angau loes; Gwacter annherfynol ydyw Meddu daear, da, na dyn; Colled ennill popeth arall, Oni enillir Di dy Hun. Dyma ddyfnder o drysorau, Dyma ryw anfeidrol rodd, Dyma wrthrych ges o’r diwedd Ag sy’n hollol wrth […]
Carodd Duw y byd cymaint nes Iddo ddod a marw trosom ni! Fe gym’rodd bwysau euogrwydd dyn Rhoddodd floedd o’r groes, ‘Fe orffennwyd’. Crist yr Iôr, maeddodd y t’wyllwch Mae E’n fyw, trechodd Ef farwolaeth. Felly creodd y ffordd I’n hachub i gyd Gwir achubwr yw holl fyd. Canwn glod iddo Ef Am ei gariad […]
Pwy sydd yn codi’r meirw’n fyw? a’n rhyddhau o’n cyflwr briw? Ein gobaith yw, unig Fab Duw. Iesu, dim ond Iesu. Pwy all agor llygaid dall? Pwy all ryddhau o law y fall? Talodd y pris, ein heddwch yw. Iesu, dim ond Iesu. Sanctaidd Frenin Nefoedd wyt, Plyga’r holl angylion i ti, Syrthiaf finnau nawr […]
Iesu, Iesu, maddau i mi x2 Iesu, Iesu, diolch iti x2 Iesu, Iesu, Rwy’n dy garu x2 © 2005 Elise Gwilym o’r CD Tiwnio Mewn
I’n Duw, rhoddwn ddiolch glân, I’n Duw, canwn newydd gân I’n Duw, am iddo roddi Iesu Grist, Ei Fab. (Ailadrodd) “Yn awr”, medd y gwan “yr wyf yn gryf”, Medd y tlawd “Cyfoethog wyf, Oherwydd beth a wnaeth fy Nuw drosof fi”. (Ailadrodd) (Tro olaf) Fy Nuw. (Grym Mawl 1: 39) Henry Smith: Give Thanks, […]
Iesu cymer fi’n dy gôl, Rhag diffygio; N’ad fy enaid bach yn ôl, Sydd yn crwydro; Arwain fi drwy’r anial maith Aml ei ddrysle, Fel na flinwyf ar fy nhaith Nes mynd adre’. Rho dy heddwch dan fy mron – Ffynnon loyw; Ffrydiau tawel nefol hon Fyth a’m ceidw; Os caf ddrachtio’r dyfroedd pur, Mi drafaelaf […]
Iachawdwr dynol-ryw, Tydi yn unig yw Fy Mugail da: Mae angau’r groes yn llawn O bob rhinweddol ddawn, A ffrwythau melys iawn, A’m llwyr iachâ. Mae torf aneirif fawr Yn ddisglair fel y wawr, ‘Nawr yn y nef – Drwy ganol gwawd a llid, A gwrth’nebiadau byd, Ac angau glas ynghyd, A’i carodd Ef. Ni […]