Rhwng cymylau duon tywyll Gwelaf draw yr hyfryd wlad; Mae fy ffydd yn llefain allan – Dacw o’r diwedd dŷ fy Nhad: Digon, digon, Mi anghofia ‘ngwae a’m poen. Nid oes yno gofio beiau, Dim ond llawn faddeuant rad; Poenau’r Groes, a grym y cariad, A rhinweddau maith y gwaed: Darfu tristwch; Daeth llawenydd yn […]
Rhain ydyw dyddiau Elias, Yn datgan yn glir Air yr Iôr; A rhain ydyw dyddiau’th was ffyddlon, Moses, Yn adfer cyfiawnder i’r tir. Ac er mai dydd prawf welwn heddiw, Dydd newyn a th’wyllwch a chledd, Nyni ydyw’r llef o’r diffaethwch; Galwn: ‘O, paratowch lwybrau yr Iôr.’ Ac wele daw ar gymylau’r nef, Disglair fel […]
Rhyddid sydd i gaethion byd; A gwir oleuni; Gogoniant yn lle lludw, A mantell hardd o fawl. Hyder yn lle’r c’wilydd sydd; Cysur yn lle galar. Eneiniaf chi ag olew, Symudaf eich holl boen. Ac fe roddaf wir foliant; Mawl yn lle tristwch ac ofn; A mantell gan Dduw yn lle galar a th’wyllwch du. […]
Rho hedd i mi, Tyrd, gostega’r storm. Tangnefedd cu – Pwysaf ar dy fron. Tawela’r cyffro o’m mewn â’th lef; Cofleidia fi, rho dy hedd. (Grym Mawl 2: 16) Jonny Baker a Jon Birch: Calm me, Lord, Cyfieithiad Awdurdodedig: Arfon Jones Hawlfraint © 1997 Proost/Serious Music UK
Rho olwg ar dy gariad Rhyfeddol ataf fi; Y cariad ddaeth a Thi i’r byd I farw ar Galfari. O cymorth rho i ddeall, A gwerthfawrogi’n iawn Y pris a delaist, Sanctaidd Un, Er dwyn fy meiau’n llawn. Ai’r hoelion, O Waredwr, A’th glymodd Di i’r groes? Na, na, dy gariad ataf fi A wnaeth […]
Rhowch i’r Arglwydd yn dragywydd Foliant, bawb sydd is y nen; Wele’r Iesu’n dioddef, trengi’n Aberth perffaith ar y pren; Concwest gafwyd, bywyd roddwyd, Mewn gogoniant cwyd ein Pen. Dynion fethant, Crist yw’n haeddiant, Ef yw’n glân gyfiawnder pur; Crist yr Arglwydd yn dragywydd Sy’n dwyn rhyddid o’n holl gur; Rhydd in’ bardwn; etifeddwn Fywyd, […]
Rho imi galon o gariad, Gofal dros rai sydd ar goll. Rho imi faich dros y rhai sydd yn isel a thrist. Arglwydd, rwy’n awchus a pharod I helpu’r tlawd ym mhob man. Tro eiriau ‘nghân yn weithredoedd o gymorth i’r gwan. Ac eneinia dy weision, eneinia dy weision, I ddweud am Grist, pregethu Crist. […]
Rhof fy mywyd ger dy fron Gan geisio y gwir, A thaenellu olew serch Fel fy moliant i ti. Gan aberthu, rhaid im roi Fy nghyfan o’th flaen; Iôr, derbynia aberth mawl Un â’i galon ar dân. Iesu, pa fath o rodd? Pa beth a rof I ffrind da heb ei ail, ac i frenin […]
Rhoddaf i ti fawl, Canaf i ti gân, A bendithiaf d’enw di. Can’s nid oes Duw fel tydi, All ein hachub ni, Ti yw’r unig ffordd. Dim ond ti all roi bywyd i ni, Dim ond ti all ein goleuo ni, Dim ond ti all roi heddwch in, Dim ond ti a erys gyda ni. […]
Rhoddwn ddiolch i ti, O Dduw, ymysg y bobloedd, Canu wnawn glodydd i ti Ymysg cenhedloedd. Dy drugaredd di sydd fawr, Sydd fawr hyd y nefoedd, A’th ffyddlondeb di, A’th ffyddlondeb di hyd y nen. Fe’th ddyrchefir, O Dduw, Goruwch y nefoedd, A’th ogoniant a welir dros y byd. Fe’th ddyrchefir, O Dduw, Goruwch y […]