Mor hawddgar yw dy bebyll Di, O! Dduw, Fy enaid flysia am fy Mhrynwr byw, Mae hiraeth ar fy nghnawd a’m calon i Am wir dangnefedd dy gynteddau Di. Aderyn llwyd y to a gafodd dŷ, A’r wennol hithau at dy allor dry; Gwyn fyd preswylwyr dy gynteddau glân, Dy foliant fyddo’n wastad yn eu […]
Arglwydd, dangos imi heddiw sut i gychwyn ar fy nhaith, sut i drefnu holl flynyddoedd fy nyfodol yn dy waith: tyn fi atat, tro fy ffyrdd i gyd yn fawl. Arglwydd, aros yn gydymaith ar fy llwybyr yn y byd, cadw fi rhag ofn i swynion Pethau dibwys fynd â’m bryd: tyn fi atat tro […]
Cyffwrdd ynom, Dduw pob llafar, rho i’n moliant newydd flas; rho’r marworyn ar bob gwefus i gyhoeddi maint dy ras: llifed geiriau cysur drwom i ddiddanu’r unig, trist; gad i ni adleisio’r cariad sydd yn nwfn dosturi Crist. Cyffwrdd ynom, Dduw pob gweithred, ennyn ynom awydd gwiw i liniaru ofnau dwysaf yr anghenus o bob […]
O Arglwydd y gwanwyn, anadla drwy’r tir a deffro ein daear o gwsg sydd mor hir, boed gwres anorchfygol dy gariad dy hun yn ffrwydro gorfoledd yng nghalon pob un. Dy nerth ar ein daear, O Arglwydd y wyrth, ddeisyfwn i dreiglo y meini o’r pyrth, dy nerth i gyfannu rhwygiadau yr oes, y nerth […]
Arglwydd, bugail oesoedd daear, llwyd ddeffrowr boreau’n gwlad, disglair yw dy saint yn sefyll oddi amgylch ein tref-tad. Rhoist i ni ar weundir amser lewyrch yr anfeidrol awr, ailgyneuaist yn ein hysbryd hen gyfathrach nef a llawr. Arglwydd, pura eto’r galon, nertha’r breichiau aeth yn llwfr, trwy wythiennau cudd dy ddaear dyro hynt i’r bywiol […]
Ein gwlad a’n pobol gofiwn nawr mewn gweddi wrth dy orsedd fawr; gad i’n teuluoedd geisio byw mewn heddwch gyda thi, O Dduw. Yng nghanol anawsterau’r oes boed inni dderbyn golau’r groes a chofio’r Gŵr a’i rhoes ei hun i ddwyn dynoliaeth ar dy lun. Lle mae casineb, cariad fo, a lle mae cam, maddeuant […]
Rho i ni lygad Crist i weld yn iawn y ffiniau ffals a ddrylliwyd un prynhawn, er mwyn i ni gael carthu’n rhagfarn cas a gweld pob lliw yn hardd yn haul dy ras: O cuddia ni er mwyn dy ddangos di, y dyn dros eraill yw ein Harglwydd ni. Rho i ni ddwylo Crist […]
Pan glywir sŵn chwalu cadwynau o draw a hedd yn teyrnasu lle cynt y bu braw, fe wyddom fod yntau ar ymdaith o hyd, yr hwn sy’n ddyhead cenhedloedd y byd. Pan glywir y moliant yn dod dros y don a’r weddi o’r carchar heb ddig dan y fron, fe wyddom fod yntau ar ymdaith […]
Clod i enw Iesu, plygwn iddo nawr, “Brenin y gogoniant” yw ein hanthem fawr; i’w gyhoeddi’n Arglwydd codwn lawen lef, cyn bod byd nac amser Gair ein Duw oedd ef. Trwy ei Air y crewyd daear faith a nef, mintai yr angylion a’i holl luoedd ef; pob rhyw orsedd gadarn, sêr yr wybren fry, gosgordd […]
Daeth Crist i’n plith, O llawenhawn, a deued pawb ynghyd i’w dderbyn a’i gydnabod ef yn Geidwad i’r holl fyd, yn Geidwad i’r holl fyd, yn Geidwad, yn Geidwad i’r holl fyd. Aed y newyddion da ar led, awr gorfoleddu yw; seinied pawb drwy’r ddaear gron eu cân o fawl i Dduw, eu cân o […]