Ai Iesu, cyfaill dynol-ryw, A welir fry, a’i gnawd yn friw, A’i waed yn lliwio’r lle; Fel gŵr di-bris yn rhwym ar bren, A’r goron boenus ar ei ben? Ie, f’enaid, dyma fe. Dros f’enaid i bu’r addfwyn Oen Fel hyn, yn dioddef dirfawr boen, I’m gwneud yn rhydd yn wir; ‘Roedd yn ei fryd […]
Yr hollalluog Dduw, ein Tad nefol, Fe bechasom yn d’erbyn Di Ac yn erbyn ein cyd-ddyn, Mewn meddwl, gair a gweithred, Trwy ddiofalwch, trwy wendid, A thrwy’n bai bwriadol ni. Mae yn ddrwg iawn gennym, Edifeiriol yw ein cri; Er mwyn enw dy Fab Iesu Grist Fu farw, Fu farw. Er mwyn i ni gael […]
Pwy ddyry im falm o Gilead, Maddeuant pur a hedd, Nes gwneud i’m hysbryd edrych Yn eon ar y bedd, A dianc ar wasgfaeon Euogrwydd creulon cry’? ‘Does neb ond Ef a hoeliwyd Ar fynydd Calfari. Yr hoelion geirwon caled, Gynt a’i trywanodd E’, Sy’n awr yn dal y nefoedd Gwmpasog yn ei lle: Mae […]
O! Ysbryd sancteiddiolaf, Anadla arna’ i lawr O’r cariad anchwiliadwy Sy ‘nghalon Iesu mawr; Trwy haeddiant Oen Calfaria, Ac yn ei glwyfau rhad, ‘Rwy’n disgwyl pob rhyw ronyn O burdeb gan fy Nhad. O! Ysbryd pur nefolaidd, Cyn elwy’ i lawr i’r bedd, Trwy ryw athrawiaeth hyfryd, Gad imi brofi o’th hedd: Maddeuant, O! maddeuant, […]
Da yw y groes, y gwradwydd, Y gwawd, a’r erlid trist, Y dirmyg a’r cystuddiau, Sydd gyda Iesu Grist; Cans yn ei groes mae coron, Ac yn ei wawd mae bri, A thrysor yn ei gariad Sy fwy na’n daear ni. (W.W.) Rho brofi grym ei gariad Sy’n annherfynol fôr, I’m tynnu tua’r bywyd, Fy […]
O! foroedd o ddoethineb Oedd yn y Duwdod mawr, Pan fu’n cyfrannu ei gariad I dlodion gwael y llawr; A gwneuthur ei drugaredd, A’i faith dosturi ‘nghyd I redeg megis afon Lifeiriol dros y byd. Rhyw ddyfnder maith o gariad, Lled, annherfynol hyd, A redodd megis dilyw Diddiwedd dros y byd; Yn ateb dyfnder eithaf […]
Ti, Farnwr byw a meirw Sydd ag allweddau’r bedd, Terfynau eitha’r ddaear Sy’n disgwyl am Dy hedd. ‘D yw gras i Ti ond gronyn, Mae gras, ar hyn o bryd, Ryw filoedd maith o weithiau I mi yn well na’r byd. O flaen y fainc rhaid sefyll, Ie, sefyll cyn bo hir; Nid oes a’m […]
Dy gariad, mae fel eryr yn hedfan. Dy gariad, mae fel cawod o law; Dy gariad sydd yn rhoddi bywyd I bob peth drwy’r ddaear lawr. Dy gariad ataf fi A’m cyffyrddodd mor ddwfn. Fy Nuw, derbyn fi i’th ddilyn, Arglwydd, derbyn hwn. Dy gariad sydd yn drysu’r gelyn. Dy gariad blyga’r balch i lawr; […]
Mi welaf yn ei fywyd, Y ffordd i’r nefoedd fry, Ac yn ei angau’r taliad A roddwyd drosof fi. Yn ei esgyniad gwelaf Drigfannau pur y nef A’r wledd dragwyddol berffaith, Gaf yno gydag Ef. ‘N ôl edrych ar ôl edrych, O gwmpas imi mae Rhyw fyrdd o ryfeddodau Newyddion yn parhau; Pan fwy’n rhyfeddu […]
Ti yw’r llew o lwyth Jwda, Yr Oen gafodd glwy’, Fe ddyrchefaist i’r Nefoedd – Teyrnasu wnei byth mwy; Ac ar ddiwedd yr oes wrth it adfer y byd Fe wnei gasglu’r cenhedloedd o’th flaen di. Caiff holl lygaid dynoliaeth eu hoelio Ar Oen Duw groeshoeliwyd in, A doethineb, a chariad, a thegwch Deyrnasa ‘r […]