Ni wn paham y rhoddwyd gras rhyfeddol Duw i mi; Na pham y’m prynwyd iddo’i Hun er maint fy meiau lu: Ni wn i sut y rhoddodd Ef achubol ffydd i’m rhan, na sut, trwy gredu yn ei air, daeth hedd i’m calon wan: Ond fe wn i bwy y credais, a’m hyder ynddo sydd […]
Dan gysgod croes yr Iesu Mae lle i wella ‘nghlwyf; Rhyfeddol yw’r drugaredd A’m galwodd fel yr wyf. Mae’r dwylo ddylai’m gwrthod  chlwyfau sy’n gwahodd; Dan gysgod croes yr Iesu Mae f’enaid wrth ei fodd. Dan gysgod croes yr Iesu Rwy’n un â’i deulu Ef; Pob un fu’n ceisio’r hunan, nawr Sy’n un trwy […]
Fe welwn orsedd fry Uwch pob un gorsedd sy’, Lle daw un dydd y ffyddlon rai O bob un gwlad; Gerbron y Mab cawn ddod, Heb fai trwy waed yr Oen; Drwy ffydd daw’r gras addawodd Ef I ni’n iachád. Clywch leisiau’r nef ar gân; Eu hanthem seinia’n lân; Drwy’r llysoedd fry ar nefol dôn […]
F’enaid, cod, bendithia dy Greawdwr, Ef yw d’Arglwydd, Ef dy gyfaill triw; Araf i ddig, cyfoethog mewn trugaredd Mola dy Geidwad, Iesu. Brenin gras, a’i gariad anorchfygol Bara Byw, caf bopeth ynddo Fe; Cans ei waed a’m prynodd i’n dragywydd, Prynodd ar groes fy Iesu. A chanaf i tra byddaf byw Am ddyfod cariad nef […]
Ger dy fron, yn dy gôl, Cariad fy Nuw’n cyffwrdd pob rhan. Closio’n nes, closio’n agos iawn. Rwyt ti yno byth, pan nad wyf yn gweld. Ger dy fron, yn dy gôl, Dyma’r lle dw’i angen bod. Ger dy fron, law yn llaw, Clywaf ti’n dweud ‘Dwi’n deall wir’ Gyda thi, fy nghâr, fy ffrind. […]
Rho hedd i mi, Tyrd, gostega’r storm. Tangnefedd cu – Pwysaf ar dy fron. Tawela’r cyffro o’m mewn â’th lef; Cofleidia fi, rho dy hedd. (Grym Mawl 2: 16) Jonny Baker a Jon Birch: Calm me, Lord, Cyfieithiad Awdurdodedig: Arfon Jones Hawlfraint © 1997 Proost/Serious Music UK
Oer wyf a gwan, ddoi di yn nes? Estyn dy fflam, rho im dy wres. Llanw ‘mywyd â chariad Duw Llanw’m calon i â ffydd. Ysbryd, llosga’n fflam A thro fy nos yn ddydd. Ennyn y fflam, ennyn y fflam. Gwna fi’n danbaid fel o’r blaen – Grist, O! tania fi. Ennyn y fflam, ennyn […]
Daw y dydd pan gawn weld Pawb yn ei gydnabod ef – ‘Bendigedig fyddo Duw Hollalluog!’ Cawn weld pob glin yn plygu’i lawr O flaen yr enw mwyaf mawr; A chyffesu fod Iesu’n Arglwydd byw. Cyffeswn Iesu yn ein hoedfa nawr; Cyffeswn Iesu – Ef yw’r Brenin Mawr. Ef yw yr Arglwydd, Gwir Fab Duw, […]
Ar ei drugareddau Ar ei drugareddau Ar ei drugareddau Ar ei drugareddau Ar ei drugareddau yr ydym oll yn byw, Am hynny dewch, a llawenhewch, Can’s da yw Duw, can’s da yw Duw. Diolch Dad am newydd ddydd, A’r bendithion ar ein taith; Gwawr y bore, machlyd mwyn, Y lloer a’r sêr fynegant waith Dy […]
Dad, o clyw ein cri Boed i’n bywyd ni Fod yn un â thi – yn aberth byw. Llanw ni â’th dân, Grym yr Ysbryd Glân, Boed i’r byd dy ogoneddu di. Arglwydd Dduw, trugarha. Grist, O! clyw, trugarha. Arglwydd Dduw, trugarha. (Grym Mawl 2: 26) Andy Piercy: Father hear our prayer, Cyfieithiad Awdurdodedig: Gwion […]