Agorodd ddrws i’r caethion i ddod o’r cystudd mawr; â’i werthfawr waed fe dalodd eu dyled oll i lawr: nid oes dim damnedigaeth i neb o’r duwiol had; fe gân y gwaredigion am rinwedd mawr ei waed. Wel dyma Un sy’n maddau pechodau rif y gwlith; ‘does mesur ar ei gariad na therfyn iddo byth; […]
Fyth, fyth rhyfedda’ i’r cariad yn nhragwyddoldeb pell, a drefnodd yn yr arfaeth im etifeddiaeth well na’r ddaear a’i thrysorau, a’i brau bleserau ‘nghyd; fy nghyfoeth mawr na dderfydd yw Iesu, Prynwr byd. Ar noswaith oer fe chwysai y gwaed yn ddafnau i lawr, ac ef mewn ymdrech meddwl yn talu’n dyled fawr; fe yfai’r […]
O Iesu croeshoeliedig, Gwaredwr dynol-ryw, ti yw ein hunig obaith tra bôm ar dir y byw; dan feichiau o ofalon sy’n gwneud ein bron yn brudd mae d’enw, llawn diddanwch, yn troi ein nos yn ddydd. O Iesu croeshoeliedig, boed mawl i’th enw byth, doed dynion i’th foliannu rifedi’r bore wlith; aed sôn ymhell ac […]
Caed modd i faddau beiau a lle i guddio pen yng nghlwyfau dyfnion Iesu fu’n gwaedu ar y pren; anfeidrol oedd ei gariad, anhraethol oedd ei gur wrth farw dros bechadur o dan yr hoelion dur. Un waith am byth oedd ddigon i wisgo’r goron ddrain; un waith am byth oedd ddigon i ddiodde’r bicell […]
Gogoniant fo i’r Arglwydd a ddug ein beiau i gyd i’w hoelio ar Galfaria i farw yno ‘nghyd; cyfiawnder yw ei enw, trugaredd yw ei lef, a garodd ei elynion yn fwy na gwychder nef. Mae’n diffodd fflamau gofid, mae’n difa brath pob clwy’; fe roes y cyfan unwaith a’i fawredd eto’n fwy dihangodd o […]
Cofir mwy am Fethlem Jwda, testun cân pechadur yw; cofir am y preseb hwnnw fu’n hyfrydwch cariad Duw: dwed o hyd pa mor ddrud iddo ef oedd cadw’r byd. Cofir mwy am Gethsemane lle’r ymdrechodd Mab y Dyn; cofir am y weddi ddyfal a weddïodd wrtho’i hun: dwed o hyd pa mor ddrud iddo ef […]
Cof am y cyfiawn Iesu, y Person mwyaf hardd, ar noswaith drom anesmwyth bu’n chwysu yn yr ardd, a’i chwys yn ddafnau cochion yn syrthio ar y llawr: bydd canu am ei gariad i dragwyddoldeb mawr. Cof am y llu o filwyr â’u gwayw-ffyn yn dod i ddal yr Oen diniwed na wnaethai gam erioed; […]
F’enaid, gwêl i Gethsemane, edrych ar dy Brynwr mawr yn yr ing a’r ymdrech meddwl, chwys a gwaed yn llifo i lawr. Dyma’r cariad mwyaf rhyfedd, mwyaf rhyfedd fu erioed! Yn yr ardd, pan ddaliwyd Iesu, fe atebodd drosom ni, “Gadewch iddynt hwy fynd ymaith, yn eu lle cymerwch fi!” Dyma’r cariad mwyaf rhyfedd, mwyaf […]
I Galfaria trof fy ŵyneb, ar Galfaria gwyn fy myd: y mae gras ac anfarwoldeb yn diferu drosto i gyd; pen Calfaria, yno, f’enaid, gwna dy nyth. Yno clywaf gyda’r awel salmau’r nef yn dod i lawr ddysgwyd wrth afonydd Babel gynt yng ngwlad y cystudd mawr: pen Calfaria gydia’r ddaear wrth y nef. Dringo’r […]
Mae’r gwaed a redodd ar y groes o oes i oes i’w gofio; rhy fyr yw tragwyddoldeb llawn i ddweud yn iawn amdano. Prif destun holl ganiadau’r nef yw “Iddo ef” a’i haeddiant; a dyna sain telynau glân ar uchaf gân gogoniant. Mae hynod rinwedd gwaed yr Oen a’i boen wrth achub enaid yn seinio’n […]