Tyrd, Ysbryd Sanctaidd, rho dy wawr, datguddia ddyfnion bethau Duw; eglura inni’r enw mawr a gwna’n heneidiau meirw’n fyw. Gad inni weld, yn d’olau di, fod Iesu’n Arglwydd ac yn Dduw, a than d’eneiniad rho i ni ei ‘nabod ef yn Geidwad gwiw. O’i weled yn d’oleuni clir cawn brofi rhin ei farwol loes a […]
Tyred Arglwydd, â’r amseroedd Y dymunwn eu mwynhau – Pur dangnefedd heb dymhestloedd, Cariad hyfryd a di-drai; Gwledd o hedd tu yma i’r bedd, Nid oes ond dy blant a’i medd. Rho i mi arwydd cryf diymod, Heb amheuaeth ynddo ddim, Pa beth bynnag fo fy eisiau, Dy fod Di yn briod im; Gweld fy […]
Tyred Iesu i’r ardaloedd, Lle teyrnasa tywyll nos; Na fod rhan o’r byd heb wybod, Am dy chwerw angau loes: Am fawr boen, addfwyn Oen, I holl gyrrau’r byd aed sôn. Aed i’r dwyrain a’r gorllewin, Aed i’r gogledd, aed i’r de, Roddi hoelion dur cadarnaf Yn ei draed a’i ddwylaw E’; Doed ynghyd eitha’r […]
Tyred, Arglwydd Iôr, i lawr; tyred yn dy gariad mawr; tyred, una ni bob un yn dy gariad pur dy hun. O llefara air yn awr, gair a dynn y nef i lawr; ninnau gydag engyl nen rown y goron ar dy ben. Yma nid oes gennym ni neb yn arglwydd ond tydi; ac ni […]
Tyred, Arglwydd, tyrd yn fuan, Dim ni’m boddia dan y ne’, Dim ond ti a ddeil fy ysbryd Gwan, lluddedig, yn ei le; Neb ond Ti a gyfyd f’enaid Llesg o’r pydew du i’r lan; Os Tydi sy’n gwneud im ochain, Ti’m gwnei’n llawen yn y man. Hwyl fy enaid sy wrth d’ewyllys, Fel y […]
Tyred, Iesu, i’r anialwch, at bechadur gwael ei lun, ganwaith ddrysodd mewn rhyw rwydau – rhwydau weithiodd ef ei hun; llosg fieri sydd o’m cwmpas, dod fi i sefyll ar fy nhraed, moes dy law, ac arwain drosodd f’enaid gwan i dir ei wlad. Manna nefol sy arna’i eisiau, dŵr rhedegog, gloyw, byw sydd yn […]
Gwasanaeth y Cymun (Tôn: Arizona, 662 Caneuon Ffydd) Tywysiast ni o’r byd a’i ru, i’th dawel hedd, Waredwr cu; am fraint mor fawr o gael cyd-gwrdd, a diolch down o gylch dy fwrdd. Pâr inni weld, trwy lygaid gwas ffordd barod, rad, dy ddwyfol ras, can’s dysgaist ni, trwy siampl fad i olchi traed, ni […]
Un a gefais imi’n gyfaill, pwy fel efe! Hwn a gâr yn fwy nag eraill, pwy fel efe! Cyfnewidiol ydyw dynion a siomedig yw cyfeillion; hwn a bery byth yn ffyddlon, pwy fel efe! F’enaid, glŷn wrth Grist mewn cyni, pwy fel efe! Ffyddlon yw ymhob caledi, pwy fel efe! Os yw pechod yn dy […]
Un fendith dyro im, ni cheisiaf ddim ond hynny: cael gras i’th garu di tra bwy’, cael mwy o ras i’th garu. Ond im dy garu’n iawn caf waith a dawn sancteiddiach, a’th ganlyn wnaf bob dydd yn well ac nid o hirbell mwyach. A phan ddêl dyddiau dwys caf orffwys ar dy ddwyfron, ac […]
mae’r cerddoriaeth gyfoes ar gael – dilynwch y ddolen youtube Mi brofais y byd a’r cyfan sy’ ar gael, Ei wag addewidion. O ddŵr ac o win fe yfais yn llwyr A dal profi syched. Ond mae yna ffrwd na fydd byth yn sych, Dŵr bywyd a gwaed y gwinwydd ar gael. Cytgan: Ac mi […]