Dos, dywed ar y mynydd, ledled y bryn ac ymhob man, dos, dywed ar y mynydd am eni Iesu Grist. Tra gwyliai y bugeiliaid y praidd drwy’r noson hir, yn syth o’r nef disgleiriodd goleuni dwyfol, clir. A hwythau, wedi’i weled, aent ar eu gliniau ‘nghyd, ac yna mynd ar unwaith i geisio Prynwr byd. […]
Dos, Efengyl, o Galfaria, ac amlyga allu’r groes; dangos i bechadur noddfa yn haeddiannau angau loes; cyfyng awr Iesu mawr drodd yn gân i deulu’r llawr. Dos, Efengyl, dros y gwledydd, ar adenydd dwyfol ras, gan gyhoeddi’r hyfryd newydd i dylwythau’r ddaear las; cariad Duw’n unig yw sylfaen gobaith dynol-ryw. Dos, Efengyl, drwy yr oesau, […]
Dowch, blant bychain, dowch i foli’r Iesu, cariad yw, cariad yw; dowch, blant bychain, dowch i foli’r Iesu, cariad yw, cariad yw. Daeth i’r byd bob cam i lawr o’r nefoedd er ein mwyn, er ein mwyn; daeth i’r byd bob cam i lawr o’r nefoedd er ein mwyn, er ein mwyn. Fe gymerodd blant […]
Down i’th wyddfod, Dduw, kwmbayah, down yn unfryd, Dduw, kwmbayah, i’th foliannu, Dduw, kwmbayah, O Dduw, kwmbayah. Gwna ni’n addfwyn, Dduw, kwmbayah, gwna ni’n un, O Dduw, kwmbayah, wrth dy allor, Dduw, kwmbayah, O Dduw, kwmbayah. Arnom ni, O Dduw, kwmbayah, boed dy wên, O Dduw, kwmbayah, golau d’air, O Dduw, kwmbayah, O Dduw, kwmbayah. […]
Dragwyddol Dad, dy gariad mawr sy’n gwylied drosom ar bob awr; ar fôr a thir, ar fryn a glan, ym merw’r dref, mewn tawel fan; dy nawdd rho heddiw i’r rhai sydd yn arddel ynot ti eu ffydd. Dragwyddol Geidwad o’th fawr ras ddioddefaist lid gelynion cas, ar dy drugaredd nid oes ball a’th eiriol, […]
Dragwyddol Dduw, down atat ti, O flaen dy orsedd fawr. Fe ddown ar hyd y newydd fywiol ffordd, Mewn hyder llawn y down. Datgan dy ffyddlondeb wnawn, A’th addewidion gwir, Nesu wnawn i’th lawn addoli di. (Dynion) O sanctaidd Dduw, down atat ti, O sanctaidd Dduw, gwelwn dy ffyddlon gariad mawr, Dy nerthol fraich, llywodraeth […]
Dragwyddol Dduw, addolwn di; Rhoist dy Fab i’n hachub ni. Gair ein Duw luniodd y byd, Rhoes ei waed yn aberth drud. Ddisglair Un, y Seren Fore, Fe’th addolwn, fe’th fawrygwn. Ynom ni fe wawriodd golau Iesu Grist, addolwn Di. Cyfieithiad Cymraeg Awdurdodedig : Arfon Jones (Almighty God, Austin Martin) Hawlfraint © 1983 ac yn y […]
Dragwyddol Dduw, sy’n Dad holl deulu’r llawr, erglyw ein cri yn ein cyfyngder mawr, yn nos ein hadfyd rho in weled gwawr dy heddwch di. Dy ysig blant sy’n ebyrth trais a brad, a dicter chwerw ar wasgar drwy bob gwlad, a brwydro blin rhwng brodyr; O ein Tad, erglyw ein cri. Rhag tywallt gwaed […]
Dragwyddol, hollalluog Iôr, Creawdwr nef a llawr, O gwrando ar ein gweddi daer ar ran ein byd yn awr. O’r golud anchwiliadwy sydd yn nhrysorfeydd dy ras, diwalla reidiau teulu dyn dros ŵyneb daear las. Yn erbyn pob gormeswr cryf O cymer blaid y gwan; darostwng ben y balch i lawr a chod y tlawd […]
Draw yn nhawelwch Bethlem dref daeth baban bach yn Geidwad byd; doethion a ddaeth i’w weled ef a chanodd angylion uwch ei grud: draw yn nhawelwch Bethlem dref daeth baban bach yn Geidwad byd. Draw yn nhawelwch Bethlem dref nid oedd un lle i Geidwad byd; llety’r anifail gafodd ef am nad oedd i’r baban […]