Draw, draw ymhell mae gwyrddlas fryn tu faes i fur y dref lle’r hoeliwyd Iesu annwyl gynt o’i fodd i’n dwyn i’r nef. Ni wyddom ni, ni allwn ddweud faint oedd ei ddwyfol loes, ond credu wnawn mai drosom ni yr aeth efe i’r groes. Bu farw er mwyn maddau bai a’n gwneud bob un […]
Dringed f’enaid o’r gwastadedd, o gaethiwed chwantau’r dydd, i breswylio’r uchelderau dan lywodraeth gras yn rhydd. Yno mae fy niogelwch rhag holl demtasiynau’r llawr; caf yn gadarn amddiffynfa gestyll cryf y creigiau mawr. Yno fe gaf ffrydiau dyfroedd, bara a rodder imi’n rhad; gweld y Brenin yn ei degwch fydd i’m llygaid yn fwynhad; yn […]
Dro ar ôl tro Atat dof yn ôl; Cofio’r cariad cyntaf. Dro ar ôl tro Bywyd roist i mi Fel gwlith yn y bore. Trugarog, llawn gras Araf i ddigio; Pob dieithryn, o Dduw, Sy’n profi dy groeso. Dro ar ôl tro, Dro ar ôl tro. Cyfieithiad Awdurdodedig: Arfon Jones, Time and again: Caroline Bonnett, […]
Dros bechadur buost farw, dros bechadur, ar y pren, y dioddefaist hoelion llymion nes it orfod crymu pen; dwed i mi, ai fi oedd hwnnw gofiodd cariad rhad mor fawr marw dros un bron â suddo yn Gehenna boeth i lawr? Dwed i mi, a wyt yn maddau cwympo ganwaith i’r un bai? Dwed a […]
Dros Gymru’n gwlad, O Dad, dyrchafwn gri, y winllan wen a roed i’n gofal ni; d’amddiffyn cryf a’i cadwo’n ffyddlon byth, a boed i’r gwir a’r glân gael ynddi nyth; er mwyn dy Fab a’i prynodd iddo’i hun, O crea hi yn Gymru ar dy lun. O deued dydd pan fo awelon Duw yn chwythu […]
Dros y bryniau tywyll niwlog, Yn dawel, f’enaid, edrych draw – Ar addewidion sydd i esgor Ar ryw ddyddiau braf gerllaw: Nefol Jiwbil, Gad im weld y bore wawr. Ar ardaloedd maith o d’wyllwch T’wynnu a wnelo’r heulwen lân, Ac ymlidied i’r gorllewin Y nos o’r dwyrain draw o’i blaen: Iachawdwriaeth, Ti yn unig gario’r […]
Drugarog Arglwydd da, drwy’n gyrfa i gyd yr un wyt ti’n parhau er beiau’r byd; dy ddoniau, ddydd i ddydd, ddaw inni’n rhydd a rhad, mor dyner atom ni wyt ti, ein Tad. Agori di dy law a daw bob dydd ryw newydd ddawn gryfha, berffeithia’n ffydd; y ddaear gân i gyd a hyfryd yw […]
Drwy dy weision ddoe cyhoeddaist ar ein daear air y ne’, cerydd barn, rhyddhad trugaredd, yn cytseinio mewn un lle: croes Calfaria fu’r uchafbwynt mawr erioed. Arglwydd, danfon dystion heddiw gyda’u calon yn dy waith i gyhoeddi’r hen wirionedd eto’n newydd yn ein hiaith; er pob newid ‘r un o hyd yw sail ein ffydd. […]
Drwy gyfnodau o dywyllwch Drwy y dyddiau trist eu gwedd, Rhoddaist nerth i’r rhai lluddedig I’th glodfori di mewn hedd. Rhoist i’n olau a llawenydd Yn dy gwmni cilia ofn; Iesu, cedwaist dy addewid, Rhennaist ras o’th galon ddofn. Profwyd o gynhaliaeth natur Gwelwyd harddwch yn y wlad, Ti a luniodd y tymhorau Molwn Di, […]
Duw a wnaeth y byd, y gwynt a’r storm a’r lli, ond nid yw e’n rhy fawr i’n caru ni. Duw a wnaeth y sêr sy’n sgleinio acw fry, ond nid yw e’n rhy bell i’n caru ni. Duw a ddaeth un tro i’w fyd, daeth yma’n fyw, a dangos wnaeth i ni mai cariad […]