Duw a’i dyrchafodd ef Fry i entrych nef, Rhoddi iddo enw Sydd goruwch pob un. Plyga pob glin o’i flaen, Cyffesant Ef yn ben. Yr Arglwydd Iesu Grist – Ef yw’r un, er gogoniant Duw Dad. (Grym Mawl 1: 41) Austin Martin: God has Exalted Him, Cyfieithiad Awdurdodedig: Arfon Jones Hawlfraint © Thankyou Music 1984
Duw Abram, molwch ef, yr hollalluog Dduw, yr Hen Ddihenydd, Brenin nef, Duw, cariad yw. I’r Iôr, anfeidrol Fod, boed mawl y nef a’r llawr; ymgrymu wnaf, a rhof y clod i’r enw mawr. Duw Abram, molwch ef; ei hollddigonol ddawn a’m cynnal ar fy nhaith i’r nef yn ddiogel iawn; i eiddil fel myfi […]
Duw anfeidrol yw dy enw, Llanw’r nefoedd, llanw’r byd; F’enaid innau sy’n dy olrhain Trwy’r greadigaeth faith i gyd: Ffaelu â’th ffeindio I’r cyflawnder sy arna’i chwant. D’wed a ellir nesu atat, D’wed a ellir dy fwynhau, Heb un gorchudd ar dy ŵyneb, Nac un gwg i’m llwfwrhau: Dyma’r nefoedd A ddeisyfwn tu yma i’r […]
Duw anfeidrol yw dy enw, Llanw’r nefoedd, llanw’r llawr, Mae dy lwybrau’n anweledig Yn nyfnderoedd moroedd mawr: Dy feddyliau – Is nag uffern, uwch na’r nef! Minnau’n ddyfal sy’n ymofyn Ar yr aswy, ar y dde, Ceisio canfod dwfwn gyngor, A dibenion Brenin ne’: Hyn a ffeindiais – Mai daioni yw oll i mi. Da […]
Duw fo yn fy mhen ac yn fy ymresymiad; Duw fo yn fy nhrem ac yn f’edrychiad; Duw fo yn fy ngair ac yn fy siarad; Duw fo yn fy mron ac yn fy nirnad; Duw ar ben fy nhaith, ar fy ymadawiad. HORE BEATE MARIE VIRGINIS, 1514 cyf. R. GLYNDWR WILLIAMS © Mrs Mair […]
Duw yw fy nerth a’m noddfa lawn; Mewn cyfyngderau creulon iawn, Pan alwom arno mae gerllaw; Ped âi’r mynyddoedd mwya’ i’r môr, Pe chwalai’r ddaear fawr a’i ‘stôr, Nid ofnai f’enaid i ddim braw. A phe dôi’r moroedd dros y byd Yn genllif garw coch i gyd, Nes soddi’r bryniau fel o’r blaen; Mae afon […]
Duw lefarodd drwy’r proffwydi – Digyfnewid Air roes Ef – Trwy yr oesoedd yn cyhoeddi Arglwydd cyfiawn, Duw y nef; Tra terfysga byd di-obaith Angor sicr ddeil yn dynn: Duw sydd ar ei orsedd gadarn, Cyntaf, olaf, unig Un. Duw lefarodd trwy yr Iesu: Crist, tragwyddol Fab o’r nef; Gwir ddisgleirdeb y gogoniant, Un â’r […]
Duw mawr y nefoedd faith, mor bur, mor dirion yw, mor rhyfedd yw ei waith yn achub dynol-ryw: sancteiddier enw’r Arglwydd Iôr drwy’r ddaear faith a’r eang fôr. Daioni dwyfol Iôn a welir ymhob lle, amdano eled sôn o’r dwyrain draw i’r de: sancteiddier enw’r Arglwydd Iôr drwy’r ddaear faith a’r eang fôr. Sôn am […]
Duw mawr y rhyfeddodau maith, rhyfeddol yw pob rhan o’th waith, ond dwyfol ras, mwy rhyfedd yw na’th holl weithredoedd o bob rhyw: pa dduw sy’n maddau fel tydi yn rhad ein holl bechodau ni? O maddau’r holl gamweddau mawr ac arbed euog lwch y llawr; tydi yn unig fedd yr hawl ac ni chaiff […]
Duw pob gras a Duw pob mawredd, cadarn fo dy law o’n tu; boed i’th Eglwys wir orfoledd a grymuster oddi fry: rho ddoethineb, rho wroldeb, ‘mlaen ni gerddwn oll yn hy. Lluoedd Satan sydd yn ceisio llwyr wanhau ein hegwan ffydd; ofnau lawer sy’n ein blino, o’n caethiwed rho ni’n rhydd: rho ddoethineb, rho […]