Gras tu hwnt i’m deall i, Yn rhad a helaeth er fy mai Alwodd fi ers cyn i’m fod I roi i Ti y mawl a’r clod. Gras rhyfeddol, dwfn a glân Welodd ddyfnder f’angen i, Yn derbyn baich fy mhechod i A’m gwisgo â’th gyfiawnder di. Gras, A dalodd y pris i’m dwyn i […]
Gras, O’r fath beraidd sain, i’m clust hyfrydlais yw: gwna hwn i’r nef ddatseinio byth, a’r ddaear oll a glyw. Gras gynt a drefnodd ffordd i gadw euog fyd; llaw gras a welir ymhob rhan o’r ddyfais hon i gyd. Gras nododd f’enw i Yn Llyfr Bywyd Duw; A gras a’m rhoddodd i i’r Oen, Fu […]
Grist Gorchfygwr, byth deyrnasi, Ceidwad, Brenin Glân, Iôr y nef, Ti a’n cynheli, Gwrando ar ein cân: Rhown y goron ar dy ben, Yn fawr dy glod, yn fythol fyw. Gair mewn cnawd, y gwir ddatguddi, Mab y Dyn, ein brawd; Nerth a mawredd Ti a’u cuddi Trwy dy eni tlawd. Gwas dioddefus wyt a […]
Grym y Gair a roed ar gerdded gam wrth gam drwy wledydd byd wrth i bobloedd glywed datgan yn eu geiriau’r hanes drud: diolch wnawn am bob cyfieithydd a gysegrodd ddawn a gwaith er rhoi allwedd porth dy Deyrnas yn nhrysorfa llawer iaith. Grym y Gair a ysbrydolodd ein cyfieithwyr cynnar ni, a’u holynwyr fu’n […]
O am weld y wawr ar y t’wyllaf ddydd; Crist ar ei ffordd i Galfari. Barnwyd gan y byd Yna’i guro’n friw A’i roi ar groes o bren, O’r fath rym – grym y Groes Oen ein Duw’n diodde loes. Dig y nef arno ef, I’n gael maddeuant wrth ei groes. O am weld y […]
Gwaith hyfryd iawn a melys yw moliannu d’enw di, O Dduw; sôn am dy gariad fore glas, a’r nos am wirioneddau gras. Melys yw dydd y Saboth llon, na flined gofal byd fy mron, ond boed fy nghalon i mewn hwyl fel telyn Dafydd ar yr ŵyl. Yn Nuw fy nghalon lawenha, bendithio’i waith a’i […]
Tôn: Tŵr Gwyn (622 Caneuon Ffydd) Caed cyfoeth gras y nefoedd yn y crud, a chariad Tad drwy’r oesoedd yn y crud; caed Duw’n ei holl ogoniant, o fore dydd y trefniant yn Eden gyda’i ramant yn y crud; caed cysgod croes ein pryniant yn y crud. Cyn dyfod dydd dy eni Iesu da, fe’th […]
Gwawriodd blwyddyn newydd eto, o’th drugaredd, Arglwydd cu; llaw dy gariad heb ddiffygio hyd yn hyn a’n dygodd ni: cawsom gerdded yn ddiogel drwy beryglon blwyddyn faith; gwnaethost ti bob storm yn dawel oedd yn bygwth ar y daith. Dysg in fyw y flwyddyn yma yng ngoleuni clir dy groes, gad in dynnu at y […]
Gweithiwn gyda’n gilydd Er mwyn gweld dy Deyrnas, Nefoedd wen yn dod i’n byd. Tegwch a chyfiawnder, Chwyldro yr efengyl, Gobaith gwir i bobloedd byd. Mae y wawr yn torri, Mae yn ddydd i foli, Ysbryd Duw sy’n mynd ar led. Profi hedd a rhyddid, Profi gwir lawenydd, Profi byd heb ofid mwy. Gweld y […]
Gwêl ar y croesbren acw gyfiawnder mawr y ne’, doethineb a thrugaredd yn gorwedd mewn un lle, a chariad anfesurol yn awr i gyd yn un fel afon fawr, lifeiriol yn rhedeg at y dyn. Cynefin iawn â dolur a Gŵr gofidus fu, er dwyn tangnefedd rhyfedd ac iechyd llawn i ni; fe ddygodd ein […]