Sicrwydd bendigaid! Iesu yn rhan, Hyn ydyw ernes nef yn y man; Aer iachawdwriaeth, pryniant a wnaed, Ganed o’r Ysbryd, golchwyd â’i waed. Dyma dy stori, dyma fy nghân, Canmol fy Ngheidwad hawddgar a glân; Dyma dy stori, dyma fy nghân, Canmol fy Ngheidwad hawddgar a glân. Ildio’n ddiamod, perffaith fwynhad, Profi llawenydd nefol ryddhad; […]
Sisialai’r awel fwyn dros fryn a dôl o gwmpas Bethlehem ‘mhell, bell yn ôl; ŵyn bach mor wyn â’r ôd branciai yn ffôl, gwyliai’r bugeiliaid hwy ‘mhell, bell yn ôl. Sisialai’r awel fwyn dros fryn a dôl o gwmpas Bethlehem, ‘mhell, bell yn ôl. Canai angylion llon uwch bryn a dôl fwyn garol iddo ef […]
Suai’r gwynt, suai’r gwynt wrth fyned heibio i’r drws; a Mair ar ei gwely gwair wyliai ei baban tlws: syllai yn ddwys yn ei ŵyneb llon, gwasgai Waredwr y byd at ei bron, canai ddiddanol gân: “Cwsg, cwsg, f’anwylyd bach, cwsg nes daw’r bore iach, cwsg, cwsg, cwsg. “Cwsg am dro, cwsg am dro cyn […]
Syrthiwn wrth dy draed, a’th addoli di, Ti yw’r Oen a laddwyd ac sydd eto’n fyw. Grym dy Ysbryd di sy’n ein denu ni, Clywn dy lais yn datgan buddugoliaeth lwyr. Fi yw’r un gyfododd, bu’m farw ac rwy’n fyw, Ac wele rwyf yn fyw’n oes oesoedd mwy. Gwelwn di o’n blaen; gwallt yn wyn […]
T’wynned heulwen ar fy enaid, Blinais ganwaith ar y nos; Nid yw ‘mhleser, na’m teganau, Na’m heilunod, ond fy nghroes; Mynwes Iesu yw f’hapusrwydd; O! na chawn i yno fod: Fe rôi cariad dwyfol perffaith Fy mhleserau dan fy nhroed. Eto unwaith mi ddyrchafaf Un ochenaid tua’r nef, Ac a ŵylaf ddagrau’n hidil Am ei […]
Tad tragwyddoldeb, plygaf ger dy fron, ceisiaf dy fendith ddechrau’r flwyddyn hon; trwy blygion tywyll ei dyfodol hi, Arweinydd anffaeledig, arwain fi. Beth fydd fy rhan ar hyd ei misoedd maith? Nis gwn, fy Nuw; ni fynnwn wybod chwaith. Ai hyfryd ddydd, ai nos dymhestlog ddaw? Bodlon, os caf ymaflyd yn dy law. Ffydd, gobaith, […]
Clywaf lais yr Iesu’n dweud, Rho d’ysgwydd dan fy iau; Blentyn gwan, tro ataf i, Rhof i ti, fy nghras di-drai. Cytgan Talodd Iesu’n llawn, Nawr rwy’n rhydd yn wir; Golchodd staen fy mhechod cas Yn wyn fel eira pur. Gwn yn iawn mai ti yw’r un All symud smotiau du Y llewpard; dim ond […]
Teg wawriodd boreddydd na welwyd ei ail Er cread y byd na thywyniad yr haul: Bore gwaith a gofir yn gynnes ar gân, Pan fo haul yn duo a daear ar dân. Y testun llawenaf i’n moliant y sydd, Fe aned in Geidwad, do, gwawriodd y dydd, Yn Geidwad i deimlo dros frodyr dan faich, […]
Teilwng wyt Ti, ein Harglwydd a’n Duw, Teilwng wyt Ti, ein Harglwydd a’n Duw, Oherwydd tydi sy’n creu popeth byw, O derbyn y gogoniant, y gallu, anrhydedd a’r nerth, Ein clod yn awr a roddwn i Ti, byth mwy. Teilwng yw’r Oen, sy’n awr yn y nef. Teilwng yw’r Oen, sy’n awr yn y nef. […]
Teilwng wyt ti! O Arglwydd Dduw I dderbyn ein mawl, ’Rwyt ti’n teyrnasu yn y nef, Haleliwia! lesu yw Arglwydd mawr y byd, Haleliwia, Haleliwia, Haleliwia! Cyf: anad. Worthy art Thou: Dave Richards © 1979 ac yn y cyfieithiad hwn Thankyou Music/ Gwein. gan worshiptogether.com songs ac eithrio DU ac Ewrop, gwein. gan Kingsway Music […]