Ymgrymwn ger dy fron ti Dduw ein tadau; O llanw’r oedfa hon â’th ddylanwadau: o blith teganau ffôl i wres dy gynnes gôl O galw ni yn ôl o’n holl grwydriadau. Allorau fwy na mwy gaed ar ein llwybrau, a rhoesom arnynt hwy ein hebyrth gorau: ond trodd addoli’r byd yn golled drom i gyd; […]
Ymgrymwn oll ynghyd i lawr gerbron gorseddfainc gras yn awr; â pharchus ofn addolwn Dduw; mae’n weddus iawn – awr weddi yw. Awr weddi yw, awr addas iawn i draethu cwynion calon lawn; gweddïau’r gwael efe a glyw yn awr yn wir – awr weddi yw. Dy Ysbryd, Arglwydd, dod i lawr yn ysbryd gras […]
Ymhlith holl ryfeddodau’r nef hwn yw y mwyaf un gweld yr anfeidrol, ddwyfol Fod yn gwisgo natur dyn. Ni chaiff fod eisiau fyth, tra bo un seren yn y nef, ar neb o’r rhai a roddo’u pwys ar ei gyfiawnder ef. Doed y trueiniaid yma ‘nghyd, finteioedd heb ddim rhi’; cânt eu diwallu oll yn […]
Ymhlith plant dynion, ni cheir un Yn ffyddlon fyth fel Iesu ei hun, Nid yw ei gariad, megis dyn, Yn gŵyro yma a thraw. Wel, dyna’r cariad sydd yn awr Yn curo pob cariadau i lawr, Yn llyncu enwau gwael y llawr Oll yn ei enw’i hun. O! fflam angerddol gadarn gref O dân enynnwyd […]
Ymlaen af dros wastad a serth ar lwybrau ewyllys fy Nhad, a llusern ei air rydd im nerth i ddiffodd pob bygwth a brad; daw yntau ei hun ar y daith i’m cynnal o’i ras di-ben-draw, a hyd nes cyflawni fy ngwaith fe gydiaf, drwy ffydd, yn ei law. Ymlaen af â’m hyder yn Nuw […]
Ymlaen, ymlaen, frenhinol Un, “Hosanna!”, gwaedda’r dorf gytûn; d’anifail llwm ymlwybra ‘mlaen a phalmwydd dan ei draed ar daen. Ymlaen, ymlaen, frenhinol Frawd, yn wylaidd ar dy farwol rawd: i goncro pechod, codi’r graith, a thynnu colyn angau caeth. Ymlaen, ymlaen, frenhinol Grist, yr engyl oll sy’n syllu’n drist o’r nefoedd mewn rhyfeddod mawr: fe […]
Ymwêl â ni, O Dduw, yn nerth yr Ysbryd Glân, adfywia’n calon wyw, rho inni newydd gân: O gwared ni o’n llesgedd caeth, a’r farn ddaw arnom a fo gwaeth. Dy Eglwys, cofia hi ar gyfyng awr ei thrai, datguddia iddi’i bri, a maddau iddi’i bai am aros yn ei hunfan cyd, a’i phlant yn […]
Yn angau Crist caed haeddiant drud I faddau holl gamweddau’r byd, O flaen yr orsedd buraf sydd: Ni all euogrwydd yno ddim, Fe gyll melltithion Sinai’u grym, Trugaredd rad a garia’r dydd. Caf yno’n ddedwydd dawel fyw, Uwch brad gelynion o bob rhyw, O sŵn y drafferth a phob gwae; A threulio tragwyddoldeb mwy I […]
Yn dy law y mae f’amserau, ti sy’n trefnu ‘nyddiau i gyd, ti yw lluniwr y cyfnodau, oesoedd a blynyddoedd byd; rho dy fendith ar y flwyddyn newydd hon. Yn dy law y mae f’amserau, oriau’r bore a’r prynhawn, ti sy’n rhoddi y tymhorau, amser hau a chasglu’r grawn; gad im dreulio oriau’r flwyddyn yn […]
Yn dy waith y mae fy mywyd, yn dy waith y mae fy hedd, yn dy waith yr wyf am aros tra bwy’r ochor hyn i’r bedd; yn dy waith ar ôl mynd adref drwy gystuddiau rif y gwlith: moli’r Oen fu ar Galfaria – dyma waith na dderfydd byth. EVAN GRIFFITHS, 1795-1873 (Caneuon Ffydd 734)