Cyffwrdd ynom, Dduw pob llafar, rho i’n moliant newydd flas; rho’r marworyn ar bob gwefus i gyhoeddi maint dy ras: llifed geiriau cysur drwom i ddiddanu’r unig, trist; gad i ni adleisio’r cariad sydd yn nwfn dosturi Crist. Cyffwrdd ynom, Dduw pob gweithred, ennyn ynom awydd gwiw i liniaru ofnau dwysaf yr anghenus o bob […]
Haleliwia! Haleliwia! Haleliwia! Cyfodi wnaeth Tywysog hedd, gorchfygodd uffern fawr a’r bedd, esgynnodd i’w dragwyddol sedd: Haleliwia! Agorwyd disglair byrth y nef, fe glywir gorfoleddus lef fel sŵn y môr neu daran gref: Haleliwia! Y fuddugoliaeth fawr a gaed, daw’r nef a’r ddaear at ei draed, a chenir mwy drwy rin y gwaed: Haleliwia! Esgynnodd […]
Pan wyt ar fôr bywyd ac o don i don, pan fo ofni suddo yn tristáu dy fron, cyfrif y bendithion, bob yn un ac un, synnu wnei at gymaint a wnaeth Duw i ddyn. Cyfrif y bendithion, un ac un, cyfrif gymaint a wnaeth Duw i ddyn, y bendithion, cyfrif un ac un, synnu […]
Cymer adain, fwyn Efengyl, hed dros ŵyneb daear lawr; seinia d’utgorn fel y clywo pawb o deulu’r golled fawr; dwed am rinwedd balm Gilead a’r Ffisigwr yno sydd; golch yn wyn y rhai aflanaf, dwg y caethion oll yn rhydd. Mae baneri’r nef yn chwarae, hedeg mae’r Efengyl lon, rhaid i’r Iesu mwyn deyrnasu dros […]
Cymer, Arglwydd, f’einioes i i’w chysegru oll i ti; cymer fy munudau i fod fyth yn llifo er dy glod. Cymer di fy nwylo’n rhodd, fyth i wneuthur wrth dy fodd; cymer, Iôr, fy neudroed i, gwna hwy’n weddaidd erot ti. Cymer di fy llais yn lân, am fy Mrenin boed fy nghân; cymer fy […]
Cymer, Iesu, fi fel ‘rydwyf, fyth ni allaf fod yn well; d’allu di a’m gwna yn agos, f ‘wyllys i yw mynd ymhell: yn dy glwyfau bydda’ i’n unig fyth yn iach. Mi ddiffygiais deithio’r crastir dyrys, anial wrthyf f’hun; ac mi fethais a choncwerio, o’m gelynion lleiaf, un: mae dy enw ‘n abl i […]
Cyn llunio’r byd, cyn lledu’r nefoedd wen, cyn gosod haul na lloer na sêr uwchben, fe drefnwyd ffordd yng nghyngor Tri yn Un i achub gwael, golledig, euog ddyn. Trysorwyd gras, ryw annherfynol stôr, yn Iesu Grist cyn rhoddi deddf i’r môr; a rhedeg wnaeth bendithion arfaeth ddrud fel afon gref, lifeiriol dros y byd. […]
Cysegrwn flaenffrwyth dyddiau’n hoes i garu’r hwn fu ar y groes, mae mwy o bleser yn ei waith na dim a fedd y ddaear faith. Cael bod yn fore dan yr iau sydd ganmil gwell na phleser gau, mae ffyrdd doethineb oll i gyd yn gysur ac yn hedd o hyd. O boed im dreullo […]
Da yw bod wrth draed yr Iesu ym more oes; ni chawn neb fel ef i’n dysgu ym more oes; dan ei groes mae ennill brwydrau a gorchfygu temtasiynau; achos Crist yw’r achos gorau ar hyd ein hoes. Cawn ei air i buro’r galon ym more oes, a chysegru pob gobeithion ym more oes; wedi […]
Da yw ein byd, wrth lenwi’n hysguboriau heb hidio dim am newyn ein heneidiau; maddau, O Dduw, na fynnwn weled eisiau gwir Fara’r Bywyd. Digon i ni yw’r hyn nad yw’n digoni, yfwn o ffrwd nad yw yn disychedu; maddau, O Dduw, i ni sydd yn dirmygu Ffynnon y Bywyd. Cod ni, O Dduw, o […]