Pan yn cerdded drwy’r dyfroedd, Nid ofnaf fi. Pan yn cerdded drwy’r fflamau, Fyth ni’m llosgir i; Rwyt wedi fy achub. Fe delaist y pris; Gelwaist ar fy enw i. Rwyf yn eiddo llwyr i ti A gwn dy fod ti yn fy ngharu – Mor ddiogel yn dy gariad. Pan mae’r llif yn fy […]
Pe meddwn aur Periw A pherlau’r India bell, Mae gronyn bach o ras fy Nuw Yn drysor canmil gwell. Pob pleser is y rhod A dderfydd maes o law; Ar bleser uwch y mae fy nod, Yn nhir y bywyd draw. Dymunwn ado’n lân Holl wag deganau’r llawr, A phenderfynu fynd ymlaen Ar ôl fy […]
Pechadur wyf, da gŵyr fy Nuw, Llawn o archollion o bob rhyw, Yn byw mewn eisiau gwaed y groes Bob munud awr o’r dydd a’r nos! Yng nganol cyfyngderau lu, A myrddiwn o ofidiau du, Gad imi roddi pwys fy mhen I orffwys ar dy fynwes wen. Gad imi dreulio ‘nyddiau i gyd I edrych […]
Pechadur wyf, O Arglwydd, sy’n curo wrth dy ddôr; erioed mae dy drugaredd ddiddiwedd imi’n stôr: er iti faddau beiau rifedi’r tywod mân gwn fod dy hen drugaredd lawn cymaint ag o’r blaen. Dy hen addewid rasol a gadwodd rif y gwlith o ddynion wedi eu colli a gân amdani byth; er cael eu mynych […]
Pêr fydd dy gofio, Iesu da, a’r galon drist a lawenha; na’r mêl a’r mwynder o bob rhyw bod gyda thi melysach yw. Ni chenir cân bereiddiach ryw, nid mwynach dim a glywo clyw; melysach bryd ni wybydd dyn nag Iesu, Unmab Duw ei hun. Ti, obaith edifeiriol rai, ti wrth gyfeiliorn drugarhai; a’th geisio, […]
Peraidd ganodd sêr y bore ar enedigaeth Brenin nef; doethion a bugeiliaid hwythau deithient i’w addoli ef gwerthfawr drysor, yn y preseb Iesu gaed. Dyma y newyddion hyfryd Draethwyd gan angylion Duw – Fod y Ceidwad wedi ei eni, I golledig ddynol ryw: Ffyddlawn gyfaill! Bechaduriaid, molwn Ef. Dyma Geidwad i’r colledig, Meddyg i’r gwywedig […]
Pererin wyf mewn anial dir yn crwydro yma a thraw, ac yn rhyw ddisgwyl bob yr awr fod tŷ fy Nhad gerllaw. Ac mi debygaf clywaf sŵn nefolaidd rai o’m blaen, wedi gorchfygu a mynd drwy dymhestloedd dŵr a thân. Tyrd, Ysbryd Sanctaidd, ledia’r ffordd, bydd imi’n niwl a thân; ni cherdda’ i’n gywir hanner […]
Pererin wyf mewn anial dir, Sychedig am gysuron gwiw; Yn crwydro f’amser a llesgáu O hiraeth gwir am dy fwynhau. Haul y Cyfiawnder disglair cu, Tywynna drwy bob cwmwl du; O dan dy esgyll dwyfol mae Balm o Gilead sy’n iacháu. Mae gras yn rhyw anfeidrol stôr, A doniau ynot fel y môr; O! gad […]
Plygwn lawr o flaen dy orsedd, Plygwn lawr i’n Brenin ni, Plygwn nawr i Ti sy’n haeddu ein calonnau ni i gyd. Mae dy gwmni Di ym mhopeth dyn ni eisiau, dy bresenoldeb Di yn dod â hedd; ger dy fron Di dyn ni’n gweld d’ogoniant a d’adnabod Di fel Tad. Hawlfraint 2011 Andy Hughes
Pob peth, ymhell ac agos, sy’n dangos Duw i’r byd, ei enw sydd yn aros ar waith ei law i gyd; efe a wnaeth y seren yn ddisglair yn y nen, efe a wnaeth y ddeilen yn wyrddlas ar y pren. Ar ei drugareddau yr ydym oll yn byw; gan hynny dewch a llawenhewch, cans […]